26 Chwefror 2026

Mae profi heffrod croesfrid a buchod sy’n llaetha am y tro cyntaf yn genomig wedi nodi ystod eang o ran ffrwythlondeb a photensial solidau llaeth ar fferm laeth yng Nghymru. Mae hyn, yn ei dro, wedi roi data gwerthfawr i fusnes ar ei fuches sy’n lloia mewn blociau ar wahân.

Fe wnaeth y teulu Edwards sgrinio 113 o wartheg cyfnewid a buchod iau fel rhan o brosiect rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, gyda’r uchelgais o gyflymu enillion genetig.

Tan yn ddiweddar, dim ond o wartheg llaeth pur yr oedd modd gwerthuso genoteipiau, ond mae’r system hon bellach yn ymestyn i groesfridiau hefyd, gan gynnig cyfle i lawer mwy o ffermwyr sbarduno gwelliant genetig yn eu buchesi.

I’r tad a’r mab, Alun ac Eurof Edwards, sy’n cynhyrchu llaeth yn Rhydeden, Abergele, bydd yn llywio penderfyniadau ynghylch bridio yn 2026.
Mae eu contract cyfansoddol gyda Hufenfa De Arfon yn seiliedig ar gynnwys braster a phrotein llaeth, ac felly maen nhw’n bridio ar gyfer y nodweddion hyn.

Cynhyrchir, ar gyfartaledd, 5,900 litr o laeth y fuwch sy’n cynnwys 4.8% o fraster menyn a 3.88% o brotein. Cynhyrchir hefyd 528kg o solidau llaeth ar gyfartaledd, a hynny o fwydo’r gwartheg ag 1.1t/buwch/y flwyddyn o ddwysfwyd.

Ar draws yr 113 o anifeiliaid a brofwyd yn genomig, roedd y protein yn amrywio o 0.04 i 0.36%, y braster o -0.01 i 0.59%, a Mynegai Ffrwythlondeb (FI) y benywod o 2.4 i 20.6. Roedd yr amrywiad mawr hwn yn pwysleisio’r gwahaniaeth ym mhotensial anifeiliaid unigol o ran perfformiad.

Bydd y data yn sail i benderfyniadau ynghylch pa anifeiliaid i fridio ohonyn nhw ym mis Mai 2026, yn ôl y ffermwr trydedd genhedlaeth, Eurof.

“Yn flaenorol, roedden ni’n dewis yn ddall, yn enwedig gyda’r heffrod, gan edrych ar y rhieni yn unig, ond yn seiliedig ar y data genomig newydd yma, bydd ein penderfyniadau bridio y gwanwyn hwn yn wahanol i’r rhai y bydden ni wedi’u gwneud fel arall; byddan nhw’n fwy targedig.

“Doedden ni ddim o reidrwydd wedi bod yn colli’r anifeiliaid gwell o’r blaen, ond roedden ni siŵr o fod yn bridio heffrod islaw’r cyfartaledd wrth anwybyddu ein 70 o fuchod a 70 o heffrod orau.”

Bydd bridio targedig yn helpu i wella effeithlonrwydd y fuches ac, yn y pen draw, ei phroffidioldeb, ychwanega Eurof.

“Mae wedi bod yn ffordd syml iawn o gasglu data ar ein buchod. Bydd yn ei gwneud hi’n symlach bridio i wella’r fuches ac am gost fach iawn o’i chymharu â buddsoddiadau eraill, ac i effaith dda hefyd.”

Defnyddiodd y prosiect brofion meinwe rhicyn clust GeneEze NMR, sy’n costio £25.50 yr anifail.

Mae hyd at 70 o heffrod yn cael eu magu bob blwyddyn i gymryd lle buchod y fuches gaeedig yn Rhydeden lle mae 175 yn lloia yn y gwanwyn a 125 yn yr hydref. Dyma system y newidiodd y teulu Edwards iddi o un oedd yn cynnwys lloia drwy gydol y flwyddyn.

Gyda chyfradd y buchod gwag yn ddim ond 5% yn 2025, mae’r gyfradd gyfnewid yn isel.

Yn hanesyddol, y polisi fu bridio’r genhedlaeth nesaf o heffrod yn unig a’r hyn a ystyrid yn fuchod ‘gwell’, gan baru’r rhain â semen â’r rhyw wedi ei bennu ond heb wybod, mewn gwirionedd, a oedd gan yr heffrod well geneteg na’r buchod oedd yn cael eu magu ar gyfer teirw bîff.

“Mi wnaethon ni dybio, oherwydd bod yr heffrod wedi’u cynhyrchu o deirw newydd, eu bod nhw’n well, ond mae profion genomig wedi dangos i ni nad yw hyn bob amser yn wir,” meddai Eurof.

“Roedd yna ystod fawr: roedd rhai’n waeth o ran llaeth, tra bo eraill wedi creu argraff fawr gyda ffrwythlondeb a chanrannau braster a phrotein. Doedd hyn ddim yn syndod i ni oherwydd y math o fuwch sydd gynnon ni. Dyna gryfder y croesfrid.”

Mae Rhydeden yn fryniog, ac mae gwartheg croesfrid yn addas iawn ar gyfer hyn, a hefyd o ystyried pellteroedd rhai o’r padogau pori o’r parlwr godro.

“Mae’n rhaid i’r buchod gerdded cryn dipyn ac mae’r rhan fwyaf ohono i fyny’r allt, felly fyddai gwartheg Holstein mawr ddim yn addas i’n system ni,” meddai Eurof, sy’n ffermio 149 hectar sy’n gyfuniad o dir y mae’n berchen arno a thir rhent.

Mae cyfnod lloia y gwanwyn yn dechrau ar 18 Chwefror, gyda’r buchod yn cael eu troi allan i bori wrth iddyn nhw loia ac yna maen nhw’n aros ar y borfa tan ddiwedd mis Hydref. Mae cyfnod lloia’r hydref yn dechrau ar 10 Medi.

Mae bridio yn broses araf, felly mae’n rhaid iddi fod yn iawn, ychwanega Eurof. “Os gallwn ni gael buwch well a bridio ar gyfer mwy o solidau llaeth, yna mae buddsoddi mewn gwerthuso genomig yn ddull synhwyrol.”

“Mae’n ffordd hawdd iawn o edrych ar yr hyn sydd gynnon ni. Gall pob ffermwr wneud penderfyniadau bridio gwell yn eithaf hawdd heb fod â pherfformiadau na chanrannau da iawn.

“Rydyn ni bob amser yn defnyddio’r teirw gorau, ond rydyn ni eisiau bridio o’n buchod gorau hefyd.”

Dywed Swyddog Sector Llaeth Cyswllt Ffermio, Osian Hughes, a arweiniodd y prosiect, y bydd y data yn galluogi Rhydeden i gymharu safle heffrod â safle Mynegai Oes Broffidiol (£PLI) buchod a gyfrifir trwy gofnodion cynhyrchu llaeth. Bydd hyn yn caniatáu i’r buchod a’r heffrod â’r rhinwedd genomig gorau gael eu hadnabod i fridio â semen â’r rhyw wedi ei bennu ar gyfer llaeth.

Roedd cyfartaledd y PLI yn y fuches yn -85, a gyfrifwyd drwy gymharu heffrod croesfrid sydd â chapasiti a photensial godro llai â sylfaen Holstein AHDB.

“Cynnyrch llaeth, protein a chilogramau braster oedd y ffactorau mwyaf arwyddocaol a ddylanwadodd ar PLI Rhydeden,” meddai Osian.

Bwriad y teulu Edwards yw defnyddio’r data a gasglwyd gan y prosiect yn llawn, ac maen nhw’n debygol o barhau â phrofion genomig yn y dyfodol.

“Gall data ein gwneud ni’n fwy effeithlon fel ffermwyr,” meddai Eurof, ond ychwanega: “Dim ond os ydych chi’n eu defnyddio y mae data yn dda. Fel ffermwyr, gallwn gael data ar bob math o bethau, felly mae’n ymwneud â phenderfynu pa ddata y gallwn eu defnyddio a fydd yn gwella ein busnes.”
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Da i’r blaned, i’r da byw ac i’r busnes
Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes
Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi