26 Mawrth 2026

Mae ffermwyr ledled Cymru yn cael eu hannog i wneud y mwyaf o’r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd sy’n lansio ar 1 Ebrill 2026.

Ar gael i bob busnes fferm cymwys yng Nghymru, mae’r rhaglen newydd yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau sydd wedi’u hariannu’n llawn ac yn destun cymhorthdal. Nod y rhain yw helpu ffermwyr i wella perfformiad, gwydnwch a chynaliadwyedd hirdymor eu busnesau.

Dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Mentera:

“Edrychwn ymlaen at lansio’r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd hon ac anogwn ffermwyr ledled Cymru i wneud y mwyaf o’r cymorth eang sydd ar gael. O gyngor a mentora ‘un i un’ i gyrsiau hyfforddi, e-ddysgu, digwyddiadau a chymorth ymarferol ar y fferm, bydd Cyswllt Ffermio yn parhau i chwarae rhan hollbwysig wrth helpu busnesau fferm i addasu, arloesi a chynllunio â hyder.”

Fel rhan o’r rhaglen newydd, mae cyllid ar gyfer y gwasanaeth cynghori a’r hyfforddiant wedi’i ailagor yn llawn, gan roi dechrau newydd i bob busnes cymwys i gael mynediad at gyngor a hyfforddiant busnes neu dechnegol â chymhorthdal.

Bydd y rhaglen hefyd yn darparu cymorth pwrpasol i helpu ffermwyr i baratoi ac addasu ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod gan fusnesau’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i fodloni gofynion y dyfodol.

Ychwanegodd Eirwen Williams:

“Un newid allweddol yw’r ffordd y mae busnesau’n cael mynediad at raglen Cyswllt Ffermio. Mae angen i bob busnes bellach ailgofrestru drwy RPW Online drwy greu cyfrif One Login. Mae yna ganllawiau ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio, neu gall ffermwyr gysylltu â’n Canolfan Wasanaeth am gymorth.”

Ymhlith y gwasanaethau a gynigir drwy raglen Cyswllt Ffermio o 1 Ebrill mae:

  • Cyngor busnes a thechnegol annibynnol
  • Yr offeryn meincnodi newydd, FarmData+
  • Cyrsiau hyfforddi
  • Modiwlau e-ddysgu hyblyg
  • Mentora a chymorth gan gymheiriaid
  • Cyngor ‘un i un’

Related Newyddion a Digwyddiadau

Astudiaeth yn dangos arwyddocâd tir fferm yng Nghymru ar gyfer amrywiaeth adar
24 Mawrth 2026 Gallai recordiadau o adar a gasglwyd ar dir fferm
Angen Gweithredu! Mae angen i ffermwyr a busnesau ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio a symud i One Login GOV.UK
18 Mawrth 2026 Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau
Cyswllt Ffermio yn lansio offeryn meincnodi newydd i ffermwyr
17 Mawrth 2026 Mae Cyswllt Ffermio’n cyflwyno offeryn meincnodi