Mae'r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, wedi atgoffa ffermwyr o'r newidiadau pwysig a fydd yn effeithio ar y ffordd y maen nhw'n tagio ŵyn.
O 1 Ionawr, mae'n rhaid i ŵyn sy'n cael eu tagio ac y bwriedir eu lladd gael tag electronig naill ai tag electronig sengl neu'r EID llawn.
Gall ŵyn sydd wedi'u tagio â thag lladd anelectronig cyn 1 Ionawr 2016 barhau i symud â'r tag hwn nes eu bod nhw'n 12 mis.
Cafodd taflen, sy'n nodi'r newidiadau'n glir, ei hanfon at geidwaid defaid yng Nghymru gyda'r ffurflenni Stocrestr flynyddol yn ystod mis Rhagfyr.
Meddai'r Dirprwy Weinidog:
“Bydd y newid hwn yn symleiddio'r system dagio, yn gwella cydymffurfiaeth â'r gofyniad i gofnodi rhifau diadelloedd gwahanol mewn llwythi cymysg, ac mae'n ategu e-adroddiadau yn unol â'r amcanion a nodir yn y Fframwaith Strategol Amaeth a'n nodau Hwyluso'r Drefn.
"Rwy'n cydnabod arwyddocâd symudiadau trawsffiniol a masnachu ac mae'r newid hwn yn cyd-fynd â llacio rheolau lladd ŵyn yng ngweddill Prydain fawr.
"Ŵyn Cymru yw un o'n brandiau mwyaf pwysig ac adnabyddus a diolch i ansawdd ein cig, ni yw'r allforiwr mwyaf o ŵyn yn yr UE. Drwy ddarparu system fwy effeithlon i olrhain ein hŵyn, gallwn barhau i warantu eu tarddiad a'u hansawdd a fydd, yn eu tro, yn helpu i'w gwerthu ac yn gwella'u prisiau".