Gall canfod ffordd i mewn i ffermio fod yn dasg anodd os nad ydych chi neu eich partner yn dod o gefndir ffermio, neu os nad yw’r busnes teuluol yn ddigon o faint i allu cefnogi newydd ddyfodiad.
Mae’r cyfle hollbwysig hwnnw i ennill bywoliaeth o fewn busnes fferm deuluol ar hyn o bryd allan o afael nifer o ddarpar-ffermwyr yng Nghymru, ond gallai 'Mentro', menter flaengar newydd Cyswllt Ffermio, ddarparu’r ffordd ymlaen a chynnig ateb i nifer.
Bydd ‘Mentro’, platfform cyfleoedd ar y cyd a ddatblygwyd fel rhan o'r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd, yn darparu cefnogaeth, arweiniad a'r cyfleoedd datblygu busnes a phersonol hollbwysig fydd yn gamau defnyddiol i'r rhai hynny sy'n chwilio am ffordd i mewn i ffermio yng Nghymru yn ogystal ag unigolion sy’n dymuno tyfu ei busnes presennol. Bydd Mentro hefyd yn darparu opsiynau i nifer o ffermwyr a thirfeddianwyr sydd o bosib yn gorfod ystyried gadael y diwydiant neu'n cynllunio i ‘gamu’n ôl’ gan nad oes ganddynt gynllun olyniaeth mewn lle.
Nododd Malcolm Thomas yn ei adroddiad ‘Denu Cenhedlaeth newydd o Ffermwyr’ a gyhoeddwyd yn 2014 bwysigrwydd symudedd o fewn y diwydiant amaeth yng Nghymru er mwyn creu dyfodol gwydn, cynaliadwy a phroffesiynol i fusnesau fferm. Roedd un o argymhellion allweddol Mr Thomas yn ymdrin â’r angen i sefydlu Platfform Cyfleoedd ar y Cyd i gefnogi cyfleoedd busnes newydd.
Bydd ‘Mentro’, gwasanaeth newydd wedi’i deilwra, a ddarperir gan Menter a Busnes ar ran Cyswllt Ffermio, yn adnabod ac yn paru tirfeddianwyr sydd eisoes wedi sefydlu sy’n chwilio am gyfle i ymuno â threfniant ffermio cytundeb neu ffermio cyfran gyda newydd ddyfodiaid sy'n chwilio am ffordd i mewn i’r diwydiant neu'n dymuno edrych ar gyfleoedd newydd o ran mentro ar y cyd.
Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes y bydd 'Mentro' yn paru'r rhai sydd eisiau ymuno â threfniant menter ar y cyd a bydd yn ystyried addasrwydd yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau pwysig.
“Byddwn yn sefydlu system ar gyfer paru ffermwyr a thirfeddianwyr presennol sy’n dymuno ystyried sefydlu menter ar y cyd gyda chydweithwyr posib megis newydd ddyfodiaid neu weithwyr fferm a'r rhai hynny sydd eisoes yn ffermio ond sy'n dymuno tyfu a datblygu eu busnes.
“Bydd y rhaglen yn dechrau gydag ymgyrch codi ymwybyddiaeth, fydd yn ein galluogi i gasglu manylion busnes newydd ddyfodiaid posib yn ogystal â'r rhai sy'n ystyried strategaeth ymadael neu gamu'n ôl. Bydd hyn yn ein galluogi i baru’r rhai sy’n dymuno lleihau faint maent yn ymwneud â threfn dydd i ddydd y fferm gyda'r rheini sy'n awyddus i gymryd eu camau cyntaf yn y diwydiant neu i gynyddu maint eu busnesau eu hunain," meddai Mrs Williams.
Darperir cefnogaeth wedi’i deilwra i’r ddwy ochr trwy amrywiaeth o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth a hyfforddiant, ynghyd â gwasanaethau mentora a chynghori cyfrinachol.
Sioe Deithiol 'Mentro'
Mae Cyswllt Ffermio wedi trefnu pedwar sioe deithiol ‘Mentro’ ledled Cymru ym mis Chwefror 2016:
01/02/2016 - Arwerthwyr Da Byw Y Trallwng, Buttington Cross, Y Trallwng, Powys SY21 8SR
02/02/2016 - Gwesty’r Bear, Crughywel, Powys NP8 1DW
22/02/2016 - Gwesty Nantyffin, Llandysilio, Clunderwen, Sir Benfro SA66 7SU
25/02/2016 - Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Conwy LL26 0DF
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Gwenno Puw:
gwenno.puw@menterabusnes.co.uk / 01970 631414