Mae Cyswllt Ffermio yn trefnu gweithdy a fydd yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i ffermwyr a choedwigwyr yng Ngogledd Cymru i’w helpu i ddeall cymhlethdodau'r gofynion newydd o ran dogfennau a mapiau Parthau Perygl Nitradau.

Bydd y cynghorwr amaethyddol Tony Lathwood o ADAS yn rhoi arweiniad a oes angen diweddaru’r cofnodion a’r mapiau presennol ac yn cynghori ar y ffordd orau i ymdrin â hyn mewn ffordd syml, gam wrth gam sy’n sicrhau bod eich cofnodion yn bodloni’r safonau gofynnol.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 19:30 a 21:00 ar ddydd Mawrth 26 Ebrill 2016 yng Ngwesty Parc Beaufort, Yr Wyddgrug CH7 6RQ.

Er mwyn gallu dod i’r digwyddiad, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y Rhaglen Cyswllt Ffermio newydd a gallwch wneud hynny ar-lein yma. Bydd angen i’r rhai oedd wedi cofrestru ar y rhaglen flaenorol ail-gofrestru.  

Mae’n hanfodol archebu eich lle ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad yma trwy ffonio Catrin Lloyd ar 029 2046 7418 neu anfon e-bost at: catrin.lloyd@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer