Bydd arddangosfa Lab Amaeth newydd yn y Sioe Frenhinol eleni’n arddangos amrywiaeth o dechnoleg arloesol fydd yn newid byd mewn amaethyddiaeth dros y 5-10 mlynedd nesaf.
Bydd yr arddangosfa, sy’n bartneriaeth ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, wedi’i leoli ar y balconi uwchlaw’r corlannau defaid yn Adeilad Defaid Meirionnydd, a bydd ffermwyr yn gallu gweld a dysgu am arloesedd technolegol newydd.
“Mae arloesedd yn gonglfaen i gefnogaeth Cyswllt Ffermio,” eglurodd Eirwen Williams, Cyswllt Ffermio. “Mae arloesedd yn un ffordd y gallwn gefnogi busnesau i wella effeithlonrwydd ac ysbryd cystadleuol, yn enwedig y rhai hynny sy’n cynhyrchu nwyddau ac sydd felly’n agored i amrywiaeth yn amodau masnach byd-eang.”
“Rydym ni’n ymwybodol iawn bod angen i ddiwydiant cryf ac iach barhau i arloesi,” ychwanegodd Aled Jones, Prif Weithredwr Cynorthwyol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. “Mae sicrhau lle pwrpasol i arddangos arloesedd newydd yn gyffrous iawn i ni, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu’r arddangosfa Lab Amaeth gyda Cyswllt Ffermio am flynyddoedd i ddod.”
Cynhelir arddangosiadau byw gan y Lab Amaeth yn ystod yr wythnos, gan gynnwys adnodd asesu cyfrif wyau ysgarthol (FEC) ar fferm, a elwir yn FECPAK, a’r dechnoleg is-goch ddiweddaraf ar gyfer dadansoddi silwair, wedi’i arddangos gan Dave Davies o gwmni Silage Solutions. Bydd mynediad am ddim i wi-fi ar gael yn y Lab Amaeth.
“Mae nifer o’r technolegau sy’n cael eu harddangos yn ymwneud â’r symudiad tuag at Ffermio Clyfar, sy’n seiliedig i raddau helaeth ar y gallu i gofnodi, monitro a mesur mwy o ddata er mwyn gwneud penderfyniadau gwell yn fwy sydyn,” meddai Eirwen Williams. “Bydd ffermio’n gweld nifer o newidiadau pellgyrhaeddol o ganlyniad i’r chwyldro digidol sydd ohoni ar hyn o bryd, gan greu cyfleoedd newydd ar gyfer busnesau presennol yn ogystal â’r rhai sydd eisiau ymuno â’r diwydiant.”
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys cydweithrediad gyda nifer o gwmnïau blaengar megis Arbel Electronics o Sir Benfro, Wynnstay, Fullwood Robotics a Cogent UK. Bydd genomeg yn rhan bwysig, gyda’r Gymdeithas Limousin yn arddangos eu gwerthoedd bridio genomeg, sydd ar gael am y tro cyntaf yn y DU, a chwmni TL Biolabs yn arddangos eu gwasanaethau profi genomeg ar gyfer gwartheg a defaid.
Gyda chefnogaeth fforwm sy’n cynnwys ffermwyr a choedwigwyr blaengar yng Nghymru, bydd gwaith y Lab Amaeth yn parhau ar ôl y Sioe Frenhinol, gan hyrwyddo’r arloesedd diweddaraf.
“Gall croesawu arloesedd helpu ffermio yng Nghymru i aros gam o flaen ei gystadleuwyr a pharhau i fod yn gystadleuol,” meddai Tom Allison, aelod o’r Fforwm Lab Amaeth, Arbenigwr Technegol ac Ysgolhaig Nuffield 2016 o Sychpant, Rhoshill, Aberteifi.
“Rydym wedi cynnal cyfres o weithdai eleni, a hyd yn hyn, credwn fod ffermio clyfar, genomeg, cyfryngau cymdeithasol, technoleg rithwir a ffermio fertigol yn arloesedd a fydd o fantais i ffermio yng Nghymru ac yn cynnig cyfleoedd newydd i ymateb i’r heriau lleol a byd-eang yr ydym yn eu hwynebu.”