llysun 29 06 16 dave davies charlie morgan richard tudor

Yn ystod diwrnod agored i ddathlu 50 mlynedd o Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru, cafodd ymwelwyr â fferm Llysun, Llanerfyl, ger y Trallwng, gyfle i ddysgu mwy am feillion balansa. Daeth Richard Tudor ar draws y codlys blynyddol hwn yn ystod ymweliad ag America'r llynedd, ac mae’n gallu cynhyrchu hyd at 6,000kg/ha DM a 28% protein crai ar sail deunydd sych. Daw’r meillion yn wreiddiol o ddwyrain y Canoldir. Mae ganddo wreiddiau tap dwfn hyd at 45cm sy’n gallu helpu draeniad y pridd ac ymdreiddiad dŵr, ac mae’n gallu gwrthsefyll amodau oer.

Mae prosiect yn ymchwilio hyfywedd tyfu meillion balansa yng Nghymru o’i gymharu â chnydau porthiant eraill newydd ddechrau ar fferm Llysun, sy’n un o Safleoedd Arddangos Cyswllt Ffermio. Mae bloc 20 erw wedi’i rannu i’r lleiniau canlynol:

  1. Meillion balansa
  2. 50% meillion balansa a 50% Rhygwellt diploid Westerworld
  3. 50% meillion gwaetgoch a 50% Rhygwellt diploid Westerworld

Er mai dim ond chwe wythnos yn ôl y cafodd y meillion eu hau, mae’r treial eisoes yn dechrau dangos canfyddiadau diddorol.

“Nid yw’r meillion balansa ar ei ben ei hun yn edrych yn dda iawn ar hyn o bryd, heblaw am yr ardaloedd lle mae’n agosach i’r glaswellt nesaf at y penrhyn, sydd o bosib yn cael ei warchod yn fwy. Fodd bynnag, mae’r gymysgedd meillion balansa a rhygwellt i’w weld yn gwneud yn dda,” meddai Charlie Morgan, cynghorydd tir glas annibynnol sy’n gweithio ar y prosiect.

Bydd y lleiniau’n cael eu cynaeafu ar wahân a bydd y silwair yn cael ei wneud mewn byrnau, gyda dadansoddiad cemeg gwlyb yn cael ei gynnal i ganfod ansawdd y porthiant. Gall gwneud silwair gyda chodlys fod yn anodd gan eu bod fel arfer yn isel o ran siwgr sy’n helpu’r broses eplesu ynghyd â mwy o gapasiti byffro o ganlyniad i grynodiad protein uwch.

“Yn ystod y prosiect, bydd angen i ni ganolbwyntio ar dechnegau rheolaeth da yn ystod y broses silweirio er mwyn sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei gynnal a bod cyn lleied o golledion â phosib wrth fwydo,” meddai Dave Davies, o gwmni Silage Solutions.

Ar ôl cymryd silwair o’r lleiniau, bydd ŵyn yn pori yno a bydd data’n ymwneud â chynnyrch y cnwd, cyfraddau twf ŵyn a kg/ha a gynhyrchir yn cael ei gofnodi. Mae’n bosib y bydd arbrawf bwydo silwair hefyd yn cael ei ddatblygu’n hwyrach yn ystod y prosiect.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites