Nid yw’n rhy hwyr i gofrestru i ymuno â mwy na 100 o ferched sydd wedi cofrestru’n barod ar gyfer fforwm Merched mewn Amaeth Cymru a gynhelir yr wythnos nesaf yng Nghanolfan yr Aelodau ar Faes y Sioe Frenhinol. Cynhelir y digwyddiad blynyddol poblogaidd hwn Ddydd Iau, Medi 29 o 10.30 y bore hyd 4 y prynhawn.

Bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn rhoi’r prif anerchiad a bydd Alwen Williams, Cyfarwyddwr BT Cymru’n un o’r siaradwyr.

Bydd y digwyddiad hwn, a luniwyd i ysbrydoli, ysgogi a galluogi merched mewn amaeth, yn sicrhau bod merched sy’n gweithio mewn busnesau bwyd, ffermio a choedwigaeth yng Nghymru’n gallu dylanwadu ar yr agenda gwledig ar ôl refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Mae Cyswllt Ffermio’n penodi merched drwy Gymru gyfan i ymuno â rhwydweithiau amaethyddol newydd, gydag adborth gan y grwpiau’n dylanwadu’n uniongyrchol ar bolisi amaethyddol newydd Llywodraeth Cymru ar ôl Brexit.

Meddai Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, bod hwn yn gyfle pwysig i ferched sy’n gweithio yn y diwydiant i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

“Rydym yn annog aelodau sy’n mynd i’r fforwm yr wythnos nesaf i ymuno ag un o’r rhwydweithiau newydd.

“Mae eich barn yn bwysig ac, os ydych eisiau lleisio eich barn, dyma eich cyfle i helpu i  ddylanwadu ar ddatblygiad y diwydiant amaethyddol yng Nghymru yn y dyfodol,” meddai Mrs Williams.

Bydd y fforwm yn cynnwys tri gweithdy wedi’u hwyluso, a fydd yn ymdrin â ‘Datblygu polisi amaethyddol i Gymru ar ôl Brexit – safbwynt y ferch’, ‘Cyfathrebu gydag eraill’ a ‘Cychwyn sgyrsiau anodd’.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn taflu goleuni newydd ar statws iechyd y pridd mewn caeau tir âr
03 Mawrth 2026 Mae nifer o gaeau sy'n cael eu ffermio mewn
Mae profion genomig yn datgloi potensial llawn buches groesfrid yng Nghymru
26 Chwefror 2026 Mae profi heffrod croesfrid a buchod sy’n
Da i’r blaned, i’r da byw ac i’r busnes
Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes