img 0847

Mae lleihau’r defnydd o wrthfiotigau wrth sychu yn arwain at arbedion sylweddol ar un o Ffermydd Arddangos llaeth Cyswllt Ffermio.

Trwy gyflwyno Therapi Buchod Sych Dethol (SDCT) ar fferm Tyreglwys, Llangennech, mae’r ffermwr, Geraint Thomas, wedi sicrhau lleihad o £7.40 y fuwch ar draws 80% o'i fuches. Yn ogystal ag arbedion ariannol, mae SDCT hefyd yn annog ffermwyr i ddefnyddio meddyginiaethau mewn modd cyfrifol gan leihau'r defnydd o wrthfiotigau, sy'n bwysig yn nhermau problemau ymwrthedd. Mae therapi buchod sych dethol ar draws y fuches yn golygu defnyddio gwrthfiotigau ar bob buwch wrth sychu, gyda buchesi yn y DU yn gwario £7531 ar gyfartaledd ar wrthfiotigau yn 2014 a bob buwch yn derbyn tair triniaeth gyda gwrthfiotigau yn ystod un llaethiad.

Mae rhai’n credu y byddai defnyddio gwrthfiotigau wrth sychu yn clirio unrhyw haint sydd eisoes yn bresennol ac yn atal unrhyw haint newydd yn ystod y cyfnod sych. Fodd bynnag, nid yw hynny’n wir, fel y bu’r milfeddyg, Sarah-Jane Redman yn dweud wrth ffermwyr yn ystod diwrnod agored ar fferm Tyreglwys: “Mae pobl yn meddwl eu bod yn diogelu eu gwartheg wrth ddefnyddio gwrthfiotigau, ond nid yw’r driniaeth yn para, felly nid yw'n cael ei gwarchod yn ystod y cyfnod lloea. Rydym ni eisiau cadw ein gwrthfiotigau nes bod problem yn ymddangos, nid pan nad oes problem i’w weld. Nid yw’n gwneud synnwyr i drin anifail sydd â chyfrif celloedd somatig llai na 50 gyda gwrthfiotigau gan nad oes unrhyw fath o haint yn y gadair/pwrs honno.

“Hefyd, mae gan bopeth ei gasgliad ei hun o facteria, ond os ydym ni’n ychwanegu gwrthfiotigau, rydym yn lladd fflora’r fuwch ei hun, ac felly bydd y fuwch honno’n agored iawn i haint newydd."

Gall SDCT leihau mynychder a difrifoldeb mastitis colifform (e-coli) gymaint â chwe gwaith yn ystod y llaethiad nesaf, a allai arwain at arbediad sylweddol ar gyfartaledd o £450 am bob achos o ran colledion llaeth a defnydd gwrthfiotigau.

Yn hytrach na thrin pob buwch gyda gwrthfiotigau wrth sychu, mae Geraint yn defnyddio seliwr tethi yn unig ar wartheg sydd wedi cael Cyfrif Celloedd Somatig (SCC) o 200 neu’n is wrth gofnodi llaeth yn ystod tri mis diwethaf y llaethiad. Mae’r darlleniadau yma’n dangos nad oes haint yn bresennol ac felly nid oes angen gwrthfiotigau. Mae’n rhaid cynnal SDCT ar y gadair/pwrs cyfan gan fod haint yn gallu croesi o un chwarter i’r llall. Mae'n bosib na fydd anifeiliaid sydd ag abnormaledd yn y deth yn addas ar gyfer SDCT ac mae'r cynnyrch wrth sychu hefyd yn bwysig.

Dangosodd astudiaeth gan Bradley a Green yn 1998 i bob litr o gynnydd mewn cynhyrchiant yng nghyfnod sychu bydd cynnydd o 6% yn y posibilrwydd o afiechyd yng nghyfnod sychu.

Ffactor pwysig arall i’w ystyried cyn gweithredu SDCT yn y fuches yw cyfrif celloedd somatig eich tanc llaeth gan fod angen digon o le iddo gynyddu ychydig oherwydd bod SDCT yn annog datblygiad fflora naturiol yng nghadair/pwrs y fuwch er mwyn gwella imiwnedd.

“Rydym yn ceisio cynyddu ein Cyfrif Celloedd Somatig er budd iechyd y fuwch. Mae’n bosib y bydd gwartheg oedd â chyfrif o 50 yn flaenorol i gynyddu’n raddol hyd at 52-54, felly mae angen lle i alluogi’r Cyfrif Celloedd Somatig yn y tanc i gynyddu rhywfaint," ychwanegodd Sarah-Jane.

Dylai pob ffarm ystyried gweithredu SDCT ond dylid penderfynnu ar drothwy ynol cyfradd celloedd somatig (SCC) y tanc llaeth.

Cyn paratoi cynllun SDCT, dylai ffermwyr ofyn cyngor gan eu milfeddyg er mwyn sicrhau triniaeth effeithiol.

Yna, dangosodd Geraint a’r milfeddyg, Stephen Davies y gweithdrefnau llym sydd angen eu dilyn wrth sychu gwartheg er mwyn osgoi cau bacteria yn y gadair/pwrs gyda'r seliwr tethi.

“Mae’n rhaid i’r broses sychu gael ei wneud fel tasg ar wahân, nid yn ystod y drefn godro gan fod angen i hylendid fod yn drylwyr iawn. Mae’n rhaid iddo ddigwydd mewn parlwr glân cyn neu ar ôl godro," meddai Stephen.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffenestr cyllid yn ailagor ar gyfer treialon ar y fferm yng Nghymru
20 Ionawr 2025 Gyda threialon a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, yn llongyfarch ‘y gorau o’r goreuon’ ar gyfer Gwobrau Lantra Cymru 2024
17 Ionawr 2025 Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried