Ymunwch â Cyswllt Ffermio ar un o’i Safleoedd Arddangos i ddarganfod mwy am sefydlu a rheoli blociau coetir ar fferm, a thrafodaeth ac arddangosiadau ymarferol.

Bydd opsiynau i’w hystyried wrth reoli coetir a’r broses o blannu er mwyn sefydlu lleiniau cysgod neu ardaloedd coetir ar fferm yn cael eu hamlinellu ar fferm Skirrid Farm, Y Fenni.

Bydd Iwan Parry, o gwmni Tilhill Forestry yn trafod rheolaeth blociau conwydd bychain ar y fferm a bydd arddangosfa torri a thynnu blociau sydd eisoes wedi’u sefydlu. Bydd Gareth Davies, Coed Cymru, yn trafod rheolaeth lleiniau cysgod a bydd Wentwood Sawmills yn rhoi arddangosfa ymarferol o roi coed trwy felin, gan gynnig cyfleoedd i ychwanegu gwerth i goed ar fferm.

 

Rheolaeth Coed Conwydd ar y fferm ac Arddangosfa Ymarferol o Gwympo a Thynnu Coed

Dydd Mawrth, 6ed Rhagfyr 2016

11yb-4yp

Skirrid Farm, Llanvetherine, Y Fenni NP7 8AP

 

Croeso i bawb. Am fwy o fanylion neu i archebu lle, cysylltwch â Geraint Jones ar 07398178698 neu geraint.jones@menterabusnes.co.uk 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn taflu goleuni newydd ar statws iechyd y pridd mewn caeau tir âr
03 Mawrth 2026 Mae nifer o gaeau sy'n cael eu ffermio mewn
Mae profion genomig yn datgloi potensial llawn buches groesfrid yng Nghymru
26 Chwefror 2026 Mae profi heffrod croesfrid a buchod sy’n
Da i’r blaned, i’r da byw ac i’r busnes
Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes