Mae teilwra gofynion maeth mamogiaid gan ddibynnu ar eu cyfnod yn y broses gynhyrchu yn bwysig er mwyn sicrhau perfformiad llwyddiannus i’r ddiadell, gyda maeth digonol i’r famog yn effeithio ar oroesiad ŵyn, cyfraddau twf a chyfraddau marwolaeth mamogiaid ac ŵyn.
Mae ansawdd amrywiol y porthiant sydd ar gael yn dilyn haf anodd a chynnydd mewn costau dwysfwyd wedi’i fewnforio yn gwneud paratoi dognau ar gyfer mamogiaid beichiog cyn bwysiced ag erioed eleni. Bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar draws Cymru sy’n anelu at ddarparu gwell dealltwriaeth o ofynion maeth mamogiaid o ganol i ddiwedd beichiogrwydd.
Bydd y digwyddiadau’n canolbwyntio ar yr angen i sicrhau bod mamogiaid yn cael eu bwydo’n unol â’u gofynion er mwyn sicrhau’r iechyd, lles a’r perfformiad gorau ar gyfer yr ŵyn. Bydd rheoli mamogiaid ar lefelau gwahanol o ran cyflwr corff, cynllunio ymlaen ar gyfer rheolaeth ar ôl ŵyna a lleihau colledion ŵyn hefyd yn cael eu trafod yn ystod y digwyddiadau gan y siaradwyr John Vipond, Lesley Stubbings a Kate Phillips.
Cynhelir y digwyddiadau fel a ganlyn:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Siaradwr |
10/01/2017 | 19:30 - 21:30 | Grove Golf Club, Nottage, Porthcawl, CF36 5TA | John Vipond |
11/01/2017 | 19:30 - 21:30 | Cottage Inn, Llandeilo, SA19 6SD | John Vipond |
12/01/2017 | 19:30 - 21:30 | Llety Parc, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3TL | John Vipond |
17/01/2017 | 19:30 - 21:30 | Maesmawr Hall Hotel, Caersws, SY17 5SF | John Vipond |
18/01/2017 | 19:30 - 21:30 | Glan y Gors Karting, Glan Y Gors Park, Cerrigydrudion, LL21 0RU | John Vipond |
19/01/2017 | 19:30 - 21:30 | Y Pengwern Arms, Llan Ffestiniog, Gwynedd LL41 4PB | John Vipond |
Croeso i bawb. Am fwy o fanylion, cysylltwch â Carys Thomas ar 01970 631402 neu carys.thomas@menterabusnes.co.uk