Mae ffermwr ifanc o Ogledd Cymru yn dathlu heddiw ar ôl ennill gwobr bwysig yn cydnabod ei ymrwymiad i ddysgu a sgiliau datblygu busnes.

 

jim ellis with lesley griffiths

Jim Ellis o Bwllheli yw enillydd y wobr Dysgwr Ifanc y flwyddyn yng nghategori Dysgwr Ar y Tir y Flwyddyn Cyswllt Ffermio.

Ar ôl astudio ffotograffiaeth a chyfryngau i ddechrau mae wedi dychwelyd adref i ddefnyddio ei sgiliau a chefnogi busnes fferm ei deulu.  Ers dychwelyd adref i’r fferm mae Jim wedi helpu i ddatblygu’r busnes gan gynnwys cael rhagor o dir, cynyddu’r nifer o anifeiliaid bîff oedd yn cael eu pesgi ar yr uned i 350 a gwnaeth benderfyniad i beidio â chadw defaid.  Mae Jim hefyd wedi ymchwilio i gyfleoedd i’r busnes arallgyfeirio i ynni solar ac mae’n gobeithio troi hen adeilad ar y fferm yn llety gwyliau.

Mae Jim wedi parhau i ddatblygu ei wybodaeth a’i sgiliau ac mae wedi dilyn y cwrs ‘marchnata eich busnes’ trwy Cyswllt Ffermio.  Mae hefyd yn gobeithio dilyn y cwrs ‘Cynllunio a Datblygu ’.

Bu’n amser prysur a chyffrous i Jim sy’n mwynhau defnyddio ei wybodaeth a’i sgiliau i ddatblygu’r busnes.   Ei frwdfrydedd a’i allu i sylweddoli beth yw’r cyfleoedd posibl sydd ganddo sydd wedi bod yn allweddol iddo lwyddo yn ei fusnes.

Dywedodd Jim, “Byddwn yn cynghori unrhyw un sy’n mwynhau gweld canlyniadau ei  waith caled ei hun ac sydd â diddordeb yn y tir i fynd yn ei flaen mewn diwydiant sy’n rhoi boddhad, yn ffynnu ac yn tyfu’n barhaus”.

Enwebwyd Jim gan Goleg Glynllifon a Julie Thomas o Simply the Best Training

Yn ail iddo roedd Rhian Pierce o Ddinbych.  Bu Rhian yn astudio ac yn gweithio fel ecolegydd i Gyfoeth Naturiol Cymru fel swyddog cadwraeth i gychwyn, i’r RSPB fel warden ffermydd ac yna cyfnod yn gweithio yn Seland Newydd ar amrywiaeth o ffermydd.  Bu Rhian yn gweithio ar y fferm deuluol ac mae’n awr yn gweithio i’r RSPB fel cynghorydd ffermydd ond mae’n gobeithio dychwelyd adref i redeg y busnes ar y fferm yn y dyfodol.

Cwblhaodd Rhian y cyrsiau ‘Deall eich cyfrifon’ a ‘Cofnodi ariannol a TAW’ trwy Cyswllt Ffermio ac mae wedi gwneud cais am arian i ddilyn y cwrs Tryc Codi Telesgopig Tir Garw mor fuan â phosibl.

Enwebwyd Rhian gan Julie Thomas o Simply the Best Training

 

Enillydd y Dysgwr Gydol Oes yn y categori Dysgwr Ar y Tir y Flwyddyn Cyswllt Ffermio yw Emma Robinson o Grosmont, Y Fenni.

 

emma robinson with lesley griffiths

Symudodd Emma a’i theulu eu busnes ffermio llaeth, defaid a thir âr i Gymru yn 2014.  Wrth ymateb i’r argyfwng llaeth mae’r busnes wedi cymryd camau i ychwanegu gwerth trwy ddatblygu busnes gwerthu uniongyrchol i werthu llaeth heb ei drin oddi ar y fferm, trwy Farchnadoedd Ffermwyr a chynnig gwasanaeth archebu ar-lein blaengar gan ddosbarthu’r llaeth heb ei drin yn oer a ffres.

Er mwyn cryfhau sgiliau’r busnes mae Emma wedi dilyn y cwrs ‘marchnata eich busnes’ trwy Cyswllt Ffermio.

Mae Emma yn gredwraig fawr mewn Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac mae’n ymroddedig i barhau i ddysgu a datblygu ei sgiliau a rhai eraill ac mae ganddi gynllun i arallgyfeirio ymhellach i gynnig profiad gwaith a hyfforddiant i fyfyrwyr amaethyddol.

Enwebwyd Emma gan Julie Thomas o Simply the Best Training

Yn ail roedd Debbie Churchill o Dinas, Rhondda Cynon Taf.

Debbie sydd yn rhedeg y fferm deuluol yn awr ac mae’n gobeithio datblygu’r busnes i gynnig amgylchedd dysgu ymarferol i’r cyhoedd yn gyffredinol.  Yn neilltuol i blant difreintiedig ac anabl gan eu dysgu am ffermio a’r amgylchedd.

Dywedodd Debbie, “er bod ffermio yn waith caled mae’n rhoi boddhad a phleser gweld canlyniadau eich gwaith caled.”

Dilynodd Debbie’r cwrs ‘Cofnodi Ariannol a TAW’ trwy Cyswllt Ffermio ac mae’n gobeithio dilyn y cwrs Gyrru Tractor yn fuan.

Enwebwyd Debbie gan Julie Thomas o Simply the Best Training

Mae Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio yn agored i’r holl gleientiaid Cyswllt Ffermio sydd wedi dilyn hyfforddiant trwy’r Rhaglen Ddatblygu Sgiliau ers 1 Ionawr 2016.  Rhennir y categori yn ddwy:

1 – Dysgwr Ifanc y Flwyddyn i’r rhai 40 oed ac iau ar 1 Ionawr 2016

2 – Dysgwr Gydol Oes y Flwyddyn i’r rhai dros 40 oed ar 1 Ionawr 2016

Mae Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio yn agored i’r holl gleientiaid Cyswllt Ffermio sydd wedi dilyn hyfforddiant trwy’r Rhaglen Ddatblygu Sgiliau ac wedi derbyn cyllid ar gyfer y cwrs. Bernir yr ymgeiswyr ar sail eu gallu i ymdrin â sialensiau, eu parodrwydd i weithredu ar eu cymhelliant eu hunain, yn ogystal â lefel eu sgil a’u hagwedd at ddysgu.

Roedd Gwobrau Dysgwr Ar y Tir y Flwyddyn, a gyflwynwyd ar 28 Tachwedd yn ystod y Ffair Aeaf eleni, yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiant dysgwyr yn niwydiannau ar y tir ac amgylcheddol Cymru. Cyflwynwyd y gwobrau gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

Mae Categori Cyswllt Ffermio yn agored i’r holl ddysgwyr sydd wedi dilyn hyfforddiant trwy’r Rhaglen Cyswllt Ffermio ers 1 Ionawr 2016.

Noddwyd y gwobrau eleni gan nifer o gyrff allweddol yn y diwydiant gan gynnwys NFU Cymru, FUW, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyswllt Ffermio. 

lantra land based learner of the year award winners 2016 with cabinet secretary lesley griffiths

Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn