Mae dewis i besgi ŵyn ai peidio yn hytrach na’u gwerthu fel anifeiliaid stôr ac yna i benderfynu ar system pesgi ŵyn cost effeithiol yn benderfyniad pwysig sy’n gallu effeithio’n sylweddol ar broffidioldeb menter ddefaid.

Gall fod yn anodd canfod system sy’n cynnig y cydbwysedd cywir rhwng costau a chynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) a chyfraddau twf. Mae’n rhaid i ffermwyr hefyd ystyried yr effaith posib ar bori mamogiaid yn y cyfnod hyd at ac yn ystod hyrdda a allai effeithio ar gnwd ŵyn y flwyddyn ganlynol. Ar fferm Aberbranddu ger Pumsaint, Sir Gâr - un o Safleoedd Arddangos Cyswllt Ffermio - cynhaliodd Irwel Jones brosiect yn ystod yr hydref i werthuso allbwn a phroffidioldeb pum system wahanol ar gyfer pesgi ŵyn.

“Roddem ni’n awyddus i besgi ŵyn ynghynt ar lai o dir, felly fe wnaethom benderfyniad i ddefnyddio pum opsiwn gwahanol, ac yn ogystal ag edrych ar eu perfformiad pesgi, roeddem ni eisiau edrych ar yr opsiwn mwyaf cost effeithiol gan mai dyna’r ffactor pwysicaf ar ddiwedd y dydd,” meddai Irwel, sy’n ffermio’r fferm ucheldir 850 erw gyda’i rieni, ac fel arfer yn pesgi 800 o ŵyn ar dir wedi’i ail hadu ac adladd silwair rhwng mis Medi a diwedd Tachwedd. 

Ar gyfer y prosiect, cafodd pum grŵp o 62 oen, a phob un gyda phwysau cyfartalog o 32kg, eu pesgi ar y canlynol:

  • Cymysgedd rêp porthiant a Rhygwellt Eidalaidd (2 erw)
  • Tir wedi’i ail-hadu o’r newydd (8 erw)
  • Hen wndwn yn unig (14 erw)
  • Hen wndwn gydag ychwanegion dwysfwyd (10 erw)
  • Dwysfwyd dan do

Yn ystod dyddiau cyntaf y prosiect ym mis Medi, cafodd 41 o ŵyn eu gwerthu fel ŵyn stôr yn y farchnad leol gyda phris cyfartalog o £53, a oedd yn darparu meincnod defnyddiol wrth werthuso proffidioldeb y pum system pesgi. Yn ôl y disgwyl, roedd yr ŵyn  a gadwyd dan do ac yn derbyn dwysfwyd yn dangos mwy o gynnydd pwysau byw ac yn pesgi ynghynt, gyda chyfradd pesgi o 100% erbyn diwedd y prosiect ym mis Tachwedd.

Fodd bynnag, o ran elw fesul oen, roedd yr ŵyn a oedd yn pori’r gwndwn newydd yn perfformio’n well na’r grwpiau eraill, gydag elw o £7.92 yr oen, o’i gymharu â £5.16 ar yr hen wndwn, £3.24 ar gyfer y grŵp dan do a £1.76 ar gyfer yr hen wndwn gyda dwysfwyd. 

 

aberbranddu results

 

“Roedd yr ŵyn a dderbyniodd ddwysfwyd yn sicr yn perfformio, ac fe wnaethom ni lwyddo i’w pesgi, ond nid y rhain oedd â’r elw mwyaf. Mae’r gwndwn newydd ar y blaen o ran elw,” meddai’r arbenigwr defaid annibynnol, Lesley Stubbings yn ystod digwyddiad agored a gynhaliwyd yn Aberbranddu. “Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi bwyso a mesur hynny o ran ffactorau eraill megis a ydych yn blaenoriaethu’r ŵyn o ran y borfa yn hytrach na’r mamogiaid.”

Yn anffodus ni wnaeth y cnwd rêp porthiant berfformio cystal â’r disgwyl, o ganlyniad i ffactorau amrywiol gan gynnwys hau’n hwyr a chyfradd hadau uchel, a arweiniodd at gnwd dwys iawn a oedd yn isel o ran protein.

“Hefyd, mae’n bosib fy mod wedi ceisio defnyddio’r cnwd yn rhy sydyn a cheisio cael gormod ohono, heb roi cyfle i’r ŵyn addasu. Rwy’n beio fy hun am y ffaith na berfformiodd y rêp cystal â’r disgwyl a byddaf yn rhoi cynnig ar ardal mwy o faint y flwyddyn nesaf i weld os alla i sicrhau’r canlyniadau iawn,” meddai Irwel.

Roedd Lesley Stubbings yn cydnabod nad oedd y prosiect wedi rhoi “prawf teg o rêp porthiant ar gyfer pesgi ŵyn” ac fe amlygodd Francis Dunne, o gwmni Field Options Performance Seeds, bod rêp yn un o’r prif gnydau porthiant a ddefnyddir ar gyfer pesgi ŵyn. Bu Mr Dunne hefyd yn trafod betys porthiant, swêj, cêl a maip sofl, a bu’n amlinellu’r prif ffactorau i’w hystyried wrth blannu cnydau porthiant.

“Mae’n rhaid i chi wybod ar ba ddyddiad fydd y cae’n barod i’w hau, pryd mae’r cnwd am gael ei ddefnyddio a’r perfformiad gofynnol – a yw’r cnwd ar gyfer ŵyn neu ar gyfer mamogiaid? Mae’n bwysig plannu’r peth iawn ar yr adeg iawn i sicrhau’r canlyniadau gorau,” meddai.

Bu Lesley hefyd yn trafod maeth y famog, gan bwysleisio ar dri phwynt - pwysigrwydd cynnal sgôr cyflwr corff trwy gydol y flwyddyn; sicrhau bod silwair yn cael ei ddadansoddi i wneud y defnydd gorau o borthiant a chadw costau a defnydd ychwanegion mor isel â phosib; a chynnal faint o borthiant sy’n cael ei fwydo ar ddiwedd beichiogrwydd ar gyfer iechyd y rwmen.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pam y dylai pob fferm yng Nghymru osod nod i gynyddu carbon organig pridd
30 Mai 2024 Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd
Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru
Mentora yn helpu fferm i newid o gynhyrchu da byw i dyfu grawnwin
28 Mai 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites