Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cadarnhau bod achos o’r Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N8 wedi’i ddarganfod mewn haid o ieir a hwyaid mewn gardd gefn ym Mhont-y-berem, Sir Gaerfyrddin.  Cafodd yr adar eu lladd cyn gynted ag yr amheuwyd bod y clefyd arnynt ond cyn cael cadarnhad o’r clefyd.
 
Mae Parth Gwarchod o 3km a Pharth Gwyliadwriaeth o 10km wedi’u sefydlu o gwmpas yr eiddo heintiedig, er mwyn lleihau’r perygl o ledaenu’r clefyd. 
 
Dyma’r un straen o’r clefyd a gafwyd ar chwiwell (math o hwyaden wyllt) yn Llanelli ar 22 Rhagfyr, fferm dyrcwn yn Lincolnshire ddydd Gwener 16 Rhagfyr ac mewn adar domestig, gwyllt a chaeth yn Ewrop, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.
 
Cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) yw mai ychydig iawn o berygl sydd i iechyd y cyhoedd ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi’i gwneud yn glir nad yw ffliw’r adar yn peryglu bwyd pobl y Deyrnas Unedig.  Mae dofednod a chynnyrch dofednod, gan gynnwys wyau, o’u coginio’n drylwyr yn ddiogel i’w bwyta.
 
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
 
“Maer’ achos hwn o’r Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N8 mewn haid mewn gardd ym Mhont-y-berem yn Sir Gâr wedi’i ddarganfod ar ôl cael hyd i’r haint mewn adar gwyllt ac achos yn Lincolnshire.   Mae’n cadarnhau bod angen i geidwaid adar, yn enwedig y rheini sy’n cadw adar yn eu gerddi cefn, gadw at holl amodau’r Parth Gwarchod, i gadw golwg am arwyddion y clefyd ac i gadw at yr arferion bioddiogelwch llymaf bob amser.
 
Meddai’r Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop:
 
“Mae hyn yn ein hatgoffa ni oll am beryglon heintiau.  Mae’r Parth Atal a’r gwaharddiad dros dro ar grynhoi dofednod yn parhau mewn grym. 
 
Mae’n bwysig iawn hefyd bod ceidwaid adar yn cadw at y mesurau bioddiogelwch llymaf posib.  Hyd yn oed os yw’r adar dan do, mae’r perygl o gael eu heintio’n un byw a dylai ceidwaid dofednod ac adar caeth eraill ofalu eu bod yn gwneud popeth posibl i rwystro’u hadar rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt.  Dylid osgoi symud dofednod a dylech wastad diheintio dillad ac offer.”
 
Os ydych yn poeni am iechyd eich adar, holwch eich milfeddyg.  Os ydych chi’n credu bod eich adar yn dangos arwyddion y clefyd, dylech gysylltu ar unwaith â swyddfa leol Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
 
Rydyn ni’n pwyso ar geidwaid dofednod i roi manylion eu heidiau i’r Gofrestr Dofednod.  Drwy wneud, byddwn yn gallu cysylltu â nhw ar unwaith pe bai’r clefyd yn taro er mwyn iddyn nhw allu cymryd y camau angenrheidiol yn syth i ddiogelu’u hadar.
 
Rydym yn annog y cyhoedd i ffonio llinell gymorth Defra ar 03459 335577 os gwelan nhw unrhyw adar dŵr gwyllt marw (hwyaid, gwyddau neu elyrch) neu wylanod marw, neu bump neu fwy o adar gwyllt o rywogaethau eraill yn farw yn yr un lle. 
 

Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn clywed sut mae cynllun 'Dechrau Ffermio' Cyswllt Ffermio yn diogelu ffyniant ffermydd teuluol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
18 Gorffennaf 2024 “Mae paru tirfeddianwyr sydd am neu angen camu
Cyswllt Ffermio yn cyhoeddi Dosbarth Academi Amaeth 2024
15 Gorffennaf 2024 Mae enwau'r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yn
‘Cyllid Arbrofi’ Cyswllt Ffermio yn ceisio dod o hyd i reolaeth fiolegol effeithiol yn erbyn gelyn tyfwyr mefus
11 Gorffennaf 2024 Mae tyfwr ffrwythau meddal o Gymru a gollodd