Gall isadeiledd da ar ffermydd da byw wella mynediad at laswellt, gan alluogi da byw i bori am gyfnod hwy, sy’n gallu cynorthwyo i gadw costau cynhyrchiant yn isel. Mae costau cynhyrchu uwch yn aml yn gysylltiedig â chadw da byw dan do, ac mae yna hefyd mwy o beryglon amgylcheddol.
Ar fferm Trawscoed, Aberystwyth, un o Safleoedd Arloesedd Cyswllt Ffermio, lle mae’r isadeiledd dŵr wedi bod yn heriol, bydd buddsoddiad gofalus nid yn unig yn arwain at ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon, bydd hefyd yn trawsnewid mynediad at borfeydd. Ymunwch â Cyswllt Ffermio am drafodaeth dechnegol a thaith fferm i ganolbwyntio ar lwybrau, cafnau a ffensio. Bydd Martin Davies o fferm Trawscoed yn siarad am y newidiadau isadeiledd ar safle Trawscoed a chynlluniau ar gyfer y dyfodol, a bydd Noel Gowan o gwmni Grasstec yn trafod isadeiledd pori da a defnyddio cynlluniau pori cylchdro ar gyfer y gwanwyn.
Cynllunio i ryddhau da byw i’r borfa ynghynt yn 2017 er mwyn cadw costau cynhyrhchu’n isel
Dyddiad: Dydd Mercher, 25ain Ionawr 2017
Amser: 11:00 – 14:30
Lleoliad: Trawscoed, Abermagwr, Aberystwyth SY23 4LL
Croeso cynnes i bawb. Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio’n bennaf ar y sector llaeth, ond bydd y cynnwys yn berthnasol i bob sector da byw. Darperir cinio, felly archebwch le os gwelwch yn dda. I archebu lle neu am fwy o fanylion, cysylltwch â Jamie McCoy ar 07985 379819 jamie.mccoy@menterabusnes.co.uk