Mae Cyswllt Ffermio wedi ychwanegu at yr amrediad o gyrsiau e-ddysgu rhyngweithiol sydd wedi’u hariannu’n llawn, sydd bellach yn ymdrin â phynciau sy’n amrywio o lyngyr yr iau i fanteision defnyddio glaswellt siwgr uchel ac o reolaeth pori i gyllid fferm.   

Mae pob modiwl wedi’u cynllunio i atgyfnerthu gwybodaeth a sgiliau ffermwyr a choedwigwyr, a bydd y rhaglen hyfforddiant ar-lein cyfleus hwn yn  eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd a phresennol. Yn y pen draw, gallwch ddisgwyl arbed arian ac amser trwy wella arferion gweithio o fewn eich busnes. Gyda phynciau megis Iechyd a Diogelwch a bioamrywiaeth hefyd yn rhan o’r gyfres, gallech fod yn cymryd camau adeiladol tuag at leihau nifer o’r peryglon sy’n wynebu pobl yn ogystal â da byw o ddydd i ddydd!

Dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru, sy’n darparu’r Rhaglen Dysgu a Datblygiad Gydol Oes, ei bod yn bosib cwblhau’r modiwlau rhyngweithiol byr o fewn 15 i 20 munud.

“Gan gymryd eich bod eisoes wedi cofrestru gyda’r rhaglen Cyswllt Ffermio presennol - sy’n golygu bod angen i chi fod wedi ail-gofrestru ers mis Hydref 2015 - gallwch ddysgu o amgylchedd cyfforddus eich cartref neu eich swyddfa eich hun ar amser sy’n gyfleus i chi.

“Bydd pob modiwl yn profi eich gwybodaeth ynglŷn â’r pynciau neu’r meysydd y byddwch yn eu dewis, ac yna gallwch hunanasesu’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu trwy gwblhau cwis byr.”

Felly, pa gyrsiau fyddai’n fwyaf buddiol ar gyfer eich busnes - beth fyddech chi’n ei ddewis? Bydd y modiwl ‘Cyllid Fferm’ yn rhoi cyflwyniad i lif arian, mantolenni a chyfrifon elw a cholled, a dylech ei chael hi’n haws i drafod gyda chynghorwyr proffesiynol wedi i chi ddod i arfer â’r derminoleg y maent yn ei ddefnyddio. Bydd y cwrs rhyngweithiol yn ymwneud â 'Strwythur y Pridd’ yn eich dysgu sut i archwilio a gwella strwythur y pridd, sy’n gallu arwain at gynyddu proffidioldeb yn ogystal â bod yn dda i’r amgylchedd ehangach.

Er mwyn cofrestru, neu am fwy o wybodaeth ynglŷn â’n gwasanaethau ar-lein, porwch drwy'r wefan hon. Gallwch weld yr hyn sydd ar gael a phenderfynu beth fyddai’n fwyaf manteisiol ar gyfer gofynion eich busnes.

Wedi i chi gofrestru, byddwch yn derbyn e-bost a fydd yn rhoi eich enw defnyddiwr a chyfrinair unigol er mwyn i chi allu mewngofnodi i system BOSS, Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yna byddwch yn barod i gychwyn ar eich profiad e-ddysgu.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer