Mae gostwng niferoedd achosion newydd o fastitis clinigol yn lleihau defnydd o wrthfiotigau ac yn cynorthwyo fferm laeth i arbed £55,000 y flwyddyn.

Mae fferm laeth yng Nghymru yn arbed ffigwr syfrdanol o £55,000 y flwyddyn ar achosion o fastitis clinigol o’i gymharu ag ychydig flynyddoedd yn ôl, ar ôl cyflwyno Cynllun Rheoli Mastitis AHDB Llaeth, sydd wedi arwain at leihad yn nifer yr achosion newydd ar ddechrau llaethiad. Cyflawnwyd hyn trwy wella rheolaeth gwartheg sych a gwartheg sy'n lloea ac mae wedi golygu gostyngiad sylweddol yn y gwrthfiotigau a ddefnyddir ar y fferm.

Yn 2013, roedd cyfradd achosion mastitis clinigol ar fferm Nant Goch, Pen y Bont, Croesoswallt yn 70 achos i bob 100 o wartheg/y flwyddyn ar gyfartaledd ar draws y fuches 700 o wartheg. Pan gafodd y Cynllun Rheoli Mastitis ei weithredu yn 2014-15, roedd mastitis yn costio oddeutu £177,927 y flwyddyn i’r busnes. Fodd bynnag, mae’r gyfradd mastitis bellach wedi lleihau 50% ac mae cyfrif celloedd somatig hefyd wedi lleihau’n sylweddol, ac yn 2015-16 roedd y gost wedi gostwng i £62,894.

 

 

2014-2015

2015-2016

Cyfradd Mastitis (nifer yr achosion/100 o wartheg/y flwyddyn)

57.7

30.8

Cyfanswm cost*

£117,927

£62,894

Cost/y fuwch/y flwyddyn

£151.19

£80.63

 

Amcangyfrif o gyfanswm y gost wedi’i gyfrifo o ffigyrau’r fferm ar gyfer costau achos mastitis clinigol gan gynnwys pris llaeth a chostau gwrtaith, costau triniaeth, amser gofalwr y fuches, lleihad mewn cynnyrch llaeth, nifer yr achosion mastitis difrifol, a nifer y gwartheg a gafodd eu difa o ganlyniad i heintiad mastitis.

 

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ddiwedd Mai 2016, cafwyd 256 yn llai o achosion mastitis ar y fferm nag a gafwyd yn ystod y flwyddyn i ben ym mis Mai 2013, gan olygu bod 1,536 yn llai o diwbiau gwrthfiotig wedi cael eu defnyddio, gyda chwe thiwb ar gyfartaledd ym mhob achos.

Mae prosiect Safle Ffocws Cyswllt Ffermio wedi parhau gyda’r Cynllun Rheoli Mastitis ar fferm Nant Goch, gyda’r nod o wella iechyd y pwrs/cadair a rheolaeth mastitis yn y fuches a lleihau’r defnydd o driniaeth wrthfiotig. Mae’r milfeddyg Dr James Breen, arbenigwr amlwg gyda chydnabyddiaeth y Coleg Brenhinol mewn iechyd a chynhyrchiant gwartheg, yn gweithio’n agos gyda phractis milfeddygol y fuches ei hun a bu’n siarad yn ddiweddar mewn digwyddiad ar y cyd rhwng AHDB Llaeth a Cyswllt Ffermio ar fferm Nant Goch.

Dywedodd: “Mae’r cynnydd aruthrol mewn rheolaeth mastitis ar fferm Nant Goch yn amlygu manteision gweithredu’r Cynllun Rheoli Mastitis - ac yn yr achos hwn, yr effaith glir yr oedd heintiadau yn ystod y cyfnod sych yn eu cael ar y llaethiad nesaf. Trwy wneud nifer fechan o welliannau penodol i amgylchedd a rheolaeth gwartheg sy’n agos at ddod â lloeau, mae’r fuches wedi lleihau costau mastitis sydd wedi gwella lles a chynhyrchiant y gwartheg ac wedi lleihau’r defnydd a wneir i wrthfiotigau ar y fferm yn sylweddol.”

Pan gyflwynwyd y Cynllun Rheoli Mastitis ar y fferm, dangosodd dadansoddiad o’r data cyfrif celloedd somatig bwysigrwydd heintiadau amgylcheddol yn y fuches, sy’n dechrau fel arfer yn ystod y cyfnod sych. Mae newidiadau hwsmonaeth a rheolaeth wedi cynorthwyo i leihau’r gyfradd y mae gwartheg yn datblygu mastitis clinigol yn ystod 30 diwrnod cyntaf llaethiad o ddau neu dri achos ym mhob 12 buwch mewn perygl i lai nag un fuwch ym mhob 12. Yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ddiwedd Mai 2015, roedd 97 buwch wedi’u heffeithio gan fastitis clinigol yn ystod y mis cyntaf o’i gymharu â247 rhwng mis Mai 2012 - Mai 2013.

“Roedd cyfuniad o newidiadau’n bwysig ar fferm Nant Goch, gan gynnwys rheoli ciwbiclau ar gyfer gwartheg sy’n agos i ddod â llo, rheoli’r ardal loea a newidiadau i’r grŵp o gwmpas yr amser lloea. Yn ogystal ag amgylchedd y gwartheg sych, rydym hefyd wedi gwella hylendid wrth sychu er mwyn lleihau’r risg o heintiad wrth weithredu therapi gwartheg sych dethol, ac wedi symud tuag at ddefnyddio seliwr tethi’n unig mewn gwartheg sydd â chyfrif celloedd somatig isel er mwyn lleihau’r perygl o fastitis E.coli yn y llaethiad nesaf.”

Mae gweithredu agwedd ddetholus tuag at therapi gwartheg sych hefyd wedi bod yn gam pwysig o ran lleihau perygl mastitis clinigol mewn gwartheg sy’n lloea am y tro cyntaf yn ogystal â lleihau’r defnydd o wrthfiotigau ymhellach, sy’n amlygu sut mae’r diwydiant yn gweithio gyda’r llywodraeth i leihau defnydd gwrthfiotig ar ffermydd.

Mae Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio wedi cynhyrchu erthygl dechnegol yn ymwneud â Therapi Buchod Sych Dethol. Cliciwch yma am y Ganolfan Gyfnewid Gwybodaeth.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cyrsiau Cyswllt Ffermio yn helpu i lansio busnes cymorth gyda gwaith swyddfa fferm
10 Ionawr 2025 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites