Gyda dyfodol allforion cig oen a chig eidion Cymreig yn brif bwnc trafod yn ystod trafodaethau’n ymwneud ag effaith Brexit, mae Cyswllt Ffermio a HCC yn gweithio gyda’i gilydd mewn ymgyrch i gynorthwyo’r diwydiant i addasu i’r sefyllfa fasnach newydd.

Fel rhan o ymgyrch genedlaethol i gynorthwyo cynhyrchwyr i baratoi eu busnesau ac i fodloni gofynion y dyfodol wrth i farchnadoedd byd-eang baratoi ar gyfer Brexit, mae ffermwyr da byw yng Nghymru’n cael eu hannog i fynychu un o’r digwyddiadau gyda’r nos yn ymwneud â 'Masnach yn y farchnad fyd-eang’ a gynhelir ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio a Hybu Cig Cymru (HCC) trwy gydol mis Mehefin.

Cynhelir y cyfarfodydd yng ngwesty’r Ivy Bush, Caerfyrddin ddydd Mawrth 6ed Mehefin; Neuadd Glantwymyn ger Machynlleth ar y 13eg; Gwesty’r Eagles, Llanrwst ar yr 20fed, ac ym Marchnad Da Byw Aberhonddu ar y 27ain.

Gyda thraean o’r Cig Oen a gynhyrchir yng Nghymru’n cael ei werthu dramor a’r mwyafrif helaeth o’r allforion hynny’n mynd i’r UE ar hyn o bryd, roedd masnach yn brif bwnc trafod yn ystod digwyddiad yr NSA yn Nhalybont ar Wysg, Powys, yr wythnos diwethaf, gyda seminar lawn yn ymwneud â Brexit yn clywed gan siaradwyr o HCC a Llywodraeth Cymru.

“Mae Erthygl 50 bellach wedi’i sbarduno, felly mae sylw’n troi at sut all ein diwydiant addasu, a sicrhau dyfodol llewyrchus ar ôl Brexit,” meddai Swyddog Gweithredol Gwybodaeth y Diwydiant HCC, John Richards. “Mae’r nifer a fynychodd y drafodaeth masnach yn ystod y digwyddiad NSA diweddar yn dangos bod ffermwyr yn ymwybodol o’r rôl sylfaenol y mae’r farchnad ryngwladol yn ei chwarae yn eu busnesu, ac y gallai’r sefyllfa ar ei waethaf olygu tariffau o 40% ar allforion cig dan reoliadau Sefydliad Masnach y Byd.”

“Er bod cynyddu gwerthiant yn y marchnadoedd cartref yn rhan o’r ateb, mae’n rhaid i ni sicrhau marchnad allforion iach er mwyn sicrhau pisiau da i ffermwyr a phroseswyr,” ychwanegodd Mr. Richards. “Mae’n well gan gwsmeriaid tramor wahanol fathau o doriadau cig o’u cymharu â siopwyr Prydeinig, ac mae masnach ryngwladol hefyd yn cynorthwyo i leihau effaith amrywiaethau pris yn ystod cyfnodau prysur a thawel tymhorol o ran cyflenwad.”

 “Bydd y digwyddiadau yma’n gyfle i’r diwydiant ddod ynghyd i weld sut y gallwn addasu i’r heriau sydd o’n blaen,” meddai John Richards. “Mae gwaith yn cael ei wneud i dawelu meddwl cwsmeriaid mewn marchnadoedd Ewropeaidd presennol, ac i ennill cwsmeriaid newydd o ardaloedd ehangach. Bydd llwyddo mewn amgylchedd sy’n newid yn gofyn am ymdrech sylweddol ar draws y diwydiant, gan gynnwys sicrhau oes silff cyson, cynhyrchu’r hyn y mae’r cwsmer yn chwilio amdano, ac adrodd stori ein cynnyrch arbennig.”

Bydd pob digwyddiad yn cael ei gadeirio gan un o reolwyr Cyswllt Ffermio, a bydd y digwyddiadau hefyd yn cynnig llwyfan i fynychwyr ddarganfod sut y gallant fanteisio ar y gwasanaethau cefnogi busnes sydd ar gael trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu 80% ar gyfer unigolion cymwys, ac yn cael ei ariannu’n llawn ar gyfer ceisiadau grŵp.

 Os allwn ni annog ffermwyr i gynyddu effeithlonrwydd ar y fferm, gallant gynyddu nifer yr ŵyn sy’n bodloni gofynion y farchnad gan y gwledydd hynny sy’n chwilio am gyflenwyr,” meddai Dewi Hughes, rheolwr datblygu technegol ar ran Cyswllt Ffermio.

“Bydd hyn yn ei dro yn cynyddu elw cynhyrchwyr ac yn cael effaith gadarnhaol ar wytnwch busnesau cynhyrchu defaid a gwartheg bîff yn y tymor hirach,” ychwanegodd Mr. Hughes.

Bydd digon o amser ar gyfer sesiynau holi ac ateb yn dilyn pob un o’r prif gyflwyniadau, ac mae Cyswllt Ffermio yn disgwyl i’r galw ar gyfer y digwyddiadau hyn fod yn uchel.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn