Y prif feysydd gwaith ar fferm Tyn y Pant oedd;

  1. Baich llyngyr mewn ŵyn ac ŵyn benyw sy’n pori am y tro cyntaf ynghyd â hesbinod.
  2. Rheoli llyngyr yr iau.
  3. Mamogiaid tenau wrth ŵyna.

1. Baich llyngyr

Mae cyfrifon wyau ysgarthol  (FEC) wedi cael eu defnyddio’n helaeth ar fferm Tyn y Pant dros y 18 mis diwethaf. Ers mis Hydref 2016, rydym wedi cynnal 42 FEC gan ddefnyddio’r system FECPAK G2. Roedd mwyafrif y samplau hyn yn monitro ŵyn diwedd y tymor a mamogiaid/hesbinod trwy gydol yr Hydref a’r Gaeaf.

Profwyd sypiau o famogiaid yn yr Hydref. O’r grwpiau a samplwyd, nid oedd baich llyngyr yn ddigon uchel i fod angen dos o driniaeth llyngyr yn yr Hydref. Mae sicrhau bod yr wybodaeth yma wrth law wedi  arbed arian ac amser i’r ffermwr.  Byddai’r arbediad ariannol yn y fan hon yn syml yn gyfwerth ag oddeutu £285 (1000 o famogiaid yn derbyn drensh + un diwrnod gwaith 8 awr o hyd i ddau weithiwr am £10 yr awr). Mae’r manteision o ran osgoi meithrin ymwrthedd yn werthfawr iawn.

Cafodd mamogiaid eu monitro cyn ŵyna er mwyn caniatáu amser i roi triniaeth ar yr adeg fwyaf priodol (i gyd-fynd â’r cynnydd  cyn-esgor). Nid oedd mwyafrif y grwpiau angen dos o driniaeth anthelminitig nes eu bod yn dod dan do. Trwy fonitro baich llyngyr, roedd modd osgoi trin a thrafod mamogiaid cyn dod â nhw dan do, gan leihau’r perygl o erthylu o ganlyniad i straen.

Yn ogystal â monitro’r cyfrifon wyau ysgarthol, crëwyd hefyd broffil ymwrthedd anthelminitig. Dangosodd bod ymwrthedd i ddrensh Melyn ar fferm Tyn Y Pant. Mae cyffuriau Gwyn, Clir a Moxidetin yn ymddangos yn fwy effeithiol. Mae hwn yn wybodaeth ddefnyddiol iawn i’r fferm gan fod modd iddynt bellach ddewis triniaethau llyngyr effeithiol. Bydd gwiriadau drensh rheolaidd yn cael eu cynnal er mwyn parhau i fonitro’r triniaethau drensh. Bydd defnyddio triniaethau effeithiol yn cynorthwyo i sicrhau’r twf gorau posibl a chynyddu elw.

Mae’r teulu Bennet wedi gweld FEC yn adnodd defnyddiol iawn er mwyn eu cynorthwyo i benderfynu rhoi triniaeth drensh ai peidio, a phryd i osgoi triniaeth ddiangen. Yn gyffredinol, o ganlyniad i driniaethau wedi’u targedu mewn modd mwy effeithiol a gwell rheolaeth pori, mae’r cyfrifon wyau ysgarthol wedi bod yn gymharol  isel, sy’n arwydd da  bod y mesurau yr ydym wedi’u gweithredu yn gweithio.

2. Llyngyr

Archwiliwyd i faich llyngyr mewn mamogiaid ar fferm Tyn Y Pant. Wyth wythnos ar ôl triniaeth gan ddefnyddio drensh Triclabendazole yn yr Hydref, profwyd samplau o ysgarthion. Gwelwyd bod wyau llyngyr yn bresennol yn un o’r pum grŵp a samplwyd gan ddangos bod heintiad gweithredol yn bresennol yn y grŵp hwn. Roedd amheuaeth bod ymwrthedd i driniaeth Triclabendazole. Cychwynnwyd ar broffil ymwrthedd (gan gynnwys cymryd samplau, pwyso a drensio mamogiaid unigol), ond roedd profion  Coproantigen Llyngyr mewn mamogiaid unigol yn dangos baich llyngyr isel ar y pryd, felly nid oedd modd gwerthuso’r ymwrthedd. Bydd angen ymchwilio’n bellach a bydd yn cael ei wneud pan fo’r baich llyngyr yn uchel.

Mae ein canlyniadau’n dangos mai cyfran isel o famogiaid yn unig oedd yn dangos canlyniadau positif ar gyfer llyngyr ar yr adeg honno o’r flwyddyn, gan adlewyrchu’r camau positif yr ydym wedi’u cymryd er mwyn rheoli llyngyr ar fferm Tyn y Pant. Galli awgrymu na fydd angen ail driniaeth llyngyr yn yr Hydref ar bob mamog, ond ar hyn o bryd, nid oes modd adnabod yn union pa famogiaid sydd angen y driniaeth fwyaf, a bydd angen gwneud gwaith pellach i ganfod y polisi triniaeth a rheolaeth gorau ar fferm Tyn Y Pant.

3. Mamogiaid Tenau

Rydym wedi cyflwyno’r broses o sgorio cyflwr corff (BCS) ar fferm Tyn Y Pant. Cafodd pob mamog eu sgorio wrth sganio. Yna, rhoddwyd y mamogiaid mewn grwpiau’n unol â’u canlyniadau sganio a’u sgôr cyflwr corff yn hytrach na chanlyniad sganio’n unig. Rhoddwyd mamogiaid tenau a oedd yn cario gefeilliaid gyda’r tripledi, mamogiaid tenau’n cario oen unigol gyda’r efeilliaid ayyb. Trwy grwpio mamogiaid yn y modd hwn, roedd mod cyfeirio’r dwysfwyd (ac felly’r arian) at y grwpiau a fyddai’n elwa fwyaf h.y. cafodd mamogiaid mewn cyflwr da a oedd yn cario ŵyn unigol, a oedd angen llai o egni, eu gadael yn yr awyr agored am gyfnod hwy a derbyn llai o ddwysfwyd nag arfer, ac roedd y mamogiaid teneuach a oedd yn cario mwy nag un oen yn derbyn mwy o faeth er mwyn bodloni eu hanghenion yn ystod beichiogrwydd.

O ganlyniad i reoli diet a chynllunio gofalus, gallai mamogiaid teneuach adfer ychydig o’u cyflwr corff mewn pryd ar gyfer y cyfnod ŵyna. O ganlyniad, roedd ŵyn yn cael eu geni’n gryfach ac roedd cynhyrchiant llaeth y mamogiaid yn gwella o ran ansawdd a chyfaint. 

Bydd cyflwr yn cael ei fonitro wrth ddiddyfnu a bydd mamogiaid yn cael eu grwpio’n unol â hynny. Bydd y mamogiaid yn cael eu meithrin dros fisoedd y gaeaf a bydd profion yn cael eu cynnal i fonitro baich llyngyr fel y disgrifir uchod. Bydd unrhyw famogiaid sy’n dal i fod mewn cyflwr llai na’r disgwyl yn ystod y cyfnod hyrdda yn cael eu difa. Trwy sicrhau bod mamogiaid yn cyrraedd targedau BCS, bydd y manteision yn dod i’r amlwg o ran canrannau sganio a’u gallu i gynhyrchu ŵyn o ansawdd uchel ac i gefnogi ei datblygiad trwy gydol beichiogrwydd a’r cyfnod llaetha.

Does dim amheuaeth bod effeithlonrwydd cynhyrchu ac elw wedi gwella ac yn parhau i wneud hynny drwy fynd i’r afael â’r materion a drafodir yn yr adroddiad hwn ar fferm Tyn Y Pant. 

 

tyn y pant image

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

tyn y pant image 2

Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn