Mae fferm Upper Pendre ar gyrion pentref Llan-gors ger Aberhonddu. Mae yn fferm gymysg, bîff a thir âr o 180 hectar (450 erw) y mae hanner y tir yn addas i gnydau. Mae’r fferm yn codi i 700 troedfedd ac mae’n cael 30 modfedd o law'r flwyddyn. Mae’r priddoedd yn bennaf yn bridd tywodfaen coch sy’n gyffredinol yn eithaf cadarn ond mae’n dueddol o gael ei gywasgu a’i botsio.
Mae’r holl gnydau tir âr yn cael eu hau yn y gaeaf ac fel arfer maent yn cynnwys 40 ha o wenith, 20 ha o farlys a 16 ha o triticale. Ond, oherwydd yr anhawster i gael hadau triticale mae’r fferm wedi tyfu 6 ha o ryg yn 2017 fel cnwd i’w dreialu.
Er bod y rhyg wedi ei dyfu a’i gynaeafu, bydd y prosiect hwn yn parhau gan fod angen pennu ansawdd y grawn a’i werth fel porthiant, yn ogystal â gwerthuso perfformiad y da byw. Rhoddir manylion costau’r fenter isod, ynghyd â chymhariaeth gyda grawn arall a dyfir ar y fferm.
Costau’r cnwd
Rhoddwyd data elw gros ar gyfer cynaeafau 2016 a 2017 ond dim ond am y flwyddyn fwyaf diweddar y mae’r data elw net ar gael. Rhoddwyd data cymharol gan AHDB Cereals & Oilseeds, gan ddefnyddio data o flwyddyn gynaeafu 2016. Yn ychwanegol, rhoddir canlyniadau cynllun treialu triticale ar fferm dir âr sy’n cael ei monitro gan yr AHDB yn Swydd Henffordd ar gyfer blwyddyn gynhaeaf 2015.
Data gwenith gaeaf £/ha
| Upper Pendre 2015-16 | Cyfartaledd AHDB 2016 | Upper Pendre 2016-17 |
Cynnyrch grawn t/ha | 8.75 | 8.49 | 9.5 |
|
|
|
|
Allbwn/ha | 1327.50 | 1138.72 | 1497.50 |
|
|
|
|
Costau amrywiol |
|
|
|
Hadau | 73.77 | 62.00 | 82.30 |
Gwrtaith | 190.50 | 210.00 | 155.00 |
Chwistrell a chemegolion | 292.00 | 205.00 | 192.00 |
Costau eraill | 21.88 | 15.00 | 23.75 |
Cyfanswm | 578.15 | 492.00 | 453.05 |
Elw Gros/ha | 749.36 | 646.72 | 1044.45 |
|
|
|
|
Gorbenion |
|
|
|
Llafur |
|
| 266.76 |
Dibrisiant peiriannau |
|
| 65.51 |
Trwsio peiriannau |
|
| 133.38 |
Tanwydd ac ynni |
|
| 58.73 |
Contractwyr/llogi |
|
| 32.71 |
Eiddo/gweinyddu |
|
| 15.72 |
Rhent a Chyllid |
|
| 158.89 |
Cyfanswm |
|
| 731.70 |
Elw Net/ha |
|
| 312.75 |
Tybiaethau (yn berthnasol i bob cnwd)
• Rhoddwyd y pris y gallai’r fferm ei werthu amdano fel gwerth y grawn (neu yr hyn y byddai wedi ei gostio i’w brynu i mewn)
• Rhoddwyd pris gwenith ar triticale, rhyg ar bris barlys
• Rhoddwyd gwerth o £75/y dunnell i wellt
• Mae sychu grawn yn £2.50/tunnell (fel arfer mae angen sychu 2% o 16% i 14% am £1.25/1%/tunnell
• Gorbenion wedi eu dyrannu fel % o bob cnwd a dyfwyd. Mae’r holl rawn yn cael eu hau yn y gaeaf gyda dulliau trin a hau tebyg.
Data barlys gaeaf £/ha
| Upper Pendre 2015-16 | Cyfartaledd AHDB 2016 | Upper Pendre 2016-17 |
Cynnyrch grawn t/ha | 7.8 | 6.7 | 8 |
Allbwn/ha | 1209.60 | 847.00 | 1284.25 |
Costau amrywiol |
|
|
|
Hadau | 50.31 | 69.00 | 81.07 |
Gwrtaith | 148.00 | 146.00 | 123.00 |
Chwistrell a chemegolion | 130.00 | 133.00 | 215.00 |
Costau eraill | 19.50 | 12.00 | 20.00 |
Cyfanswm | 347.81 | 360.00 | 439.07 |
Elw Gros/ha | 861.79 | 487.00 | 845.18 |
|
|
|
|
Gorbenion |
|
|
|
Llafur |
|
| 268.29 |
Dibrisiant peiriannau |
|
| 60.85 |
Trwsio peiriannau |
|
| 134.14 |
Tanwydd ac ynni |
|
| 59.07 |
Contractwyr/llogi |
|
| 32.90 |
Eiddo/gweinyddu |
|
| 15.80 |
Rhent a Chyllid |
|
| 159.80 |
Cyfanswm |
|
| 730.85 |
Elw Net/ha |
|
| 114.33 |
Data triticale gaeaf £/ha
| Henffordd 2015 |
| Upper Pendre 2016-17 |
Cynnyrch grawn t/ha | 8.5 |
| 7.75 |
Allbwn/ha | 1395.00 |
| 1326.25 |
Costau amrywiol |
|
|
|
Hadau | 70.74 |
| 69.69 |
Gwrtaith | 190.50 |
| 155.00 |
Chwistrell a chemegolion | 140.00 |
| 76.00 |
Costau eraill | 21.25 |
| 19.38 |
Cyfanswm | 422.49 |
| 320.07 |
Elw Gros/ha | 972.51 |
| 1006.19 |
|
|
|
|
Gorbenion |
|
|
|
Llafur |
|
| 269.94 |
Dibrisiant peiriannau |
|
| 61.27 |
Trwsio peiriannau |
|
| 134.97 |
Tanwydd ac ynni |
|
| 59.43 |
Contractwyr/llogi |
|
| 33.10 |
Eiddo/gweinyddu |
|
| 15.91 |
Rhent a Chyllid |
|
| 160.78 |
Cyfanswm |
|
| 735.40 |
Elw Net/ha |
|
| 270.79 |
Data rhyg gaeaf £/ha
| Upper Pendre 2015-16 |
| Upper Pendre 2016-17 |
Cynnyrch grawn t/ha |
|
| 6.9 |
Allbwn/ha |
|
| 1055.40 |
Costau amrywiol |
|
|
|
Hadau |
|
| 52.29 |
Gwrtaith |
|
| 123.00 |
Chwistrell a chemegolion |
|
| 243.00 |
Costau eraill |
|
| 17.25 |
Cyfanswm |
|
| 435.54 |
Elw Gros/ha |
|
| 619.86 |
|
|
|
|
Gorbenion |
|
|
|
Llafur |
|
| 276.29 |
Dibrisiant peiriannau |
|
| 62.69 |
Trwsio peiriannau |
|
| 138.15 |
Tanwydd ac ynni |
|
| 60.83 |
Contractwyr/llogi |
|
| 33.88 |
Eiddo/gweinyddu |
|
| 16.28 |
Rhent a Chyllid |
|
| 164.57 |
Cyfanswm |
|
| 752.69 |
Elw Net/ha |
|
| -132.83 |
Crynodeb
- Gwenith a triticale yw’r cnydau mwyaf proffidiol
- Mae gan yr holl gnydau Elw Gros uwch na’r cyfartaledd am bob hectar
- Mae gan bob cnwd ac eithrio rhyg Elw Net cadarnhaol
- Yn 2017 ni fu rhyg mor llwyddiannus â triticale oherwydd llai o gynnyrch a chostau amrywiol uwch
- Ni chynhaliwyd dadansoddiad o werth porthiant y rhyg na pherfformiad yr anifeiliaid arno eto