brenda lewis and staff with lilwen joynson 0

23 Mai 2018

 

Mae Brenda Lewis o ogledd Sir Benfro wedi bod yn gogyddes frwd ers astudio arlwyaeth yn y coleg. Yn ôl Brenda, fyddai hi erioed wedi breuddwydio bryd hynny y gallai fod yn wraig fusnes annibynnol, ond gyda chefnogaeth y rhaglen Agrisgôp gan Cyswllt Ffermio, mae’r wraig fferm brysur hon sy’n fam i bump o blant, sy’n oedolion erbyn hyn, wedi datblygu’r hyder a’r medrau i fod yn entrepreneur ar ben popeth arall!

Gweithiodd Brenda fel cogyddes yn ei hysgol leol am flynyddoedd lawer ac roedd hynny’n berffaith iddi pan oedd ganddi deulu ifanc oedd yn tyfu. Ond ar ôl gadael y swydd bu Brenda, er gwaethaf ei chymeriad gweddol swil a diymhongar, yn raddol gychwyn nifer o fusnesau cefn gwlad llwyddiannus. Roedd ganddi raglen ffurfiol o fentrau busnes oedd yn raddol dyfu, oll wedi eu cysylltu â’i fferm deulu fechan, Wenallt yn Felindre Farchog. Ond y catalydd i’w rhaglen yn ôl Brenda oedd ymuno â grŵp Agrisgôp Cyswllt Ffermio ym Mhentre Ifan gerllaw Trefdraeth rai blynyddoedd yn ôl. Mae Cyswllt Ffermio wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

“Rhoddodd Agrisgôp yr hyder i mi a’r hwb ysgafn ond perswadiol yr oeddwn ei angen i ddod â’m syniadau’n fyw,” meddai Brenda.

Ei menter ddiweddaraf yw cymryd yr awennau ar ei thafarn leol, y Salutation Inn, dim ond milltir neu ddwy o’r fferm. Mae’r dafarn hon, yn ei rôl ddiweddaraf fel canolfan gymunedol, yn anadlu chwa newydd o fywyd i mewn i’r pentref cysglyd yma.

“Yn rhedeg y grŵp Agrisgôp cyntaf i mi ymuno ag o oedd merch fusnes adnabyddus o Sir Benfro, Olwen Thomas.

“Roedd cefnogaeth Olwen, ynghyd â’r arbenigwyr busnes a wahoddodd i ddod i’n cynghori ni, a’r anogaeth bositif gan yr aelodau eraill, oll yn ddigon i’m mherswadio i y gallwn droi’r syniadau oedd yn freuddwydion gwag yn fy meddwl i yn realiti go iawn, a rhoddodd hyn yr hyder i mi edrych ar ffyrdd eraill o ddod â mwy o refeniw i mewn i’r busnes fferm.

“Yn bwysicach na dim, rhoddodd hyn yr hyder i mi i siarad gyda chyfrifydd oedd wedi dod i sgwrsio gyda’r grŵp, ac i ddechrau gweithio ar gynllun busnes a ddarbwyllodd fy rheolwr banc lleol i gefnogi fy musnes.”

Yn fwy diweddar, mewn noson gerddorol gymunedol orlawn yn y dafarn, bu Olwen yn cyfeilio ar y piano-acordion i bobl o deuluoedd ffermio lleol a phobl sy’n aelodau o grŵp Agrisgôp sydd hefyd yn gantorion opera Cymraeg wedi eu hyfforddi’n broffesiynol!

Mae Agrisgôp yn rhaglen datblygiad personol hynod o lwyddiannus gan Cyswllt Ffermio sydd wedi’i hariannu’n llawn. Mae’n dod ag unigolion o’r un meddylfryd at ei gilydd mewn grŵp lleol, lle rhoddir cymorth iddynt i archwilio a datblygu syniadau busnes. Cychwynnodd hon yn 2003 a gall frolio erbyn heddiw bod cannoedd o ffermwyr Cymru’n gwireddu eu breuddwydion busnes o’i herwydd. Mae llawer o bobl, yn debyg i Brenda, yn dargyfeirio eu busnesau ac yn canfod ffyrdd newydd neu fwy proffidiol o weithio, gan ddiogelu busnes eu teuluoedd a chreu swyddi yn y broses.

Roedd diweddar dad Brenda wedi prynu tyddyn arfordirol y Wenallt ym mlynyddoedd cynnar yr 1960au ac wedi cadw buches odro fechan yno’n wreiddiol ar oddeutu 38 erw o dir. Ond pan aeth pris llaeth i lawr, rhoddodd y gorau i’r fferm laeth a chanolbwyntio ar eidion, cyn rhoi rhywfaint o’i dir ar rent yn y pen draw a throi at gadw defaid. Canlyniad hynny oedd bod nifer o dai allan y fferm yn wag.

 “Am ein bod yn byw mor agos at ardaloedd sy’n boblogaidd gan dwristiaid yng Ngheredigion a Chasnewydd, roeddwn i’n gobeithio bod potensial i droi un o’r tai allan yn ystafell de, yn enwedig am fod yr ystafell de yn y pentref yn cau. Ond fyddwn i byth wedi bod yn ddigon dewr i ddatblygu’r syniad heb arweiniad a chefnogaeth grŵp Agrisgôp Olwen.”

Ac am fod Brenda’n amlwg yn un dda am gynhyrchu prydau cinio a the cartref hynod o flasus, gan ddefnyddio cynnyrch fferm lleol o’r safon uchaf, doedd hi ddim yn hir yn denu llif cyson o ymwelwyr rheolaidd, yn enwedig yn ystod y tymor twristiaid. Tyfodd enw da Wenallt Tearooms a, chyn hir, roedd Brenda’n barod i wynebu ei her nesaf.

“Cychwynnais gwmni Wenallt Outside Caterers, gan ehangu busnes yr ystafell de i gynnwys arlwyo ar gyfer angladdau lleol a digwyddiadau eraill ar raddfa fwy, yn cynnwys sioeau amaethyddol,”

Tua’r cyfnod yma y clywodd Brenda bod y gwerthwr bwyd mewn fan symudol oedd yn coginio i ffermwyr ym mart Ceredigion yn bwriadu rhoi’r gorau iddi. Penderfynodd hithau fynd amdani, prynodd y fan, ac mae hi’n rhedeg y fenter honno hefyd erbyn hyn.

Mae un o’i meibion yn rheoli praidd o 150 o ddefaid Mynydd Cymreig yn Y Wenallt, yn ogystal â gweithio i fusnes peirianneg a chludiant y teulu, tra bo busnes arlwyo ac ystafell de Brenda’n tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn, felly beth berswadiodd hi i daflu ei hun i mewn i fusnes newydd arall yn ddiweddar?

“Ddiwedd y llynedd, daeth ein tafarn leol ar werth yn Felindre Farchog. Mae’n dafarn o ddyddiau’r goets fawr yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

“Er mai dim ond llond llaw o drigolion sydd yn y pentref ac ychydig iawn o gyfleusterau, mae mewn lleoliad gwych, nid yn unig i dwristiaid ond i grwpiau cymunedol lleol hefyd. Roeddwn i’n gweld dau gyfle yma, cyfle i’w adeiladu’n fusnes llwyddiannus a chyfle hefyd i greu canolfan gymdeithasol ganolog i’r trigolion lleol.”

Felly, roedd hi’n bryd i Brenda gymryd anadl ddofn a mynd amdani a phenderfynodd ymuno â grŵp Agrisgôp unwaith eto! Y tro yma, mae’n grŵp o ferched yn unig dan arweiniad Lilwen Joynson, sy’n cwrdd yn y dafarn o bob man. Ac unwaith eto, roedd cefnogaeth Lilwen a’r menywod eraill yn y grŵp yn ddigon i roi’r hyder iddi i fwrw ymlaen â phrynu’r dafarn ac ystyried ei dewisiadau i sicrhau’r budd gorau am y buddsoddiad.

Diolch i weledigaeth Brenda, mae’r Salutation Inn yn brysur ddatblygu’n lle i bobl gwrdd, yn drigolion lleol ac yn ymwelwyr, wrth i’r cyfleusterau wella, wrth i’r nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yno gynyddu, ac wrth i’r bwyty fagu enw da. Mae gwersyllfa newydd ar y gorwel hefyd a rhagor o syniadau cyffrous ar y gweill.

“Er bod cymaint o fenywod yn y byd ffermio’n arloeswyr ac yn ddylanwadwyr allweddol, does gan lawer ohonom ddim yr hyder i leisio ein barn ac i roi ein syniadau ar waith. Dewch â’ch breuddwydion yn fyw, ymunwch â grŵp Agrisgôp!”

Cyngor da gan Brenda, oherwydd dyna yn union a wnaeth hi!


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter