17 Gorffennaf 2018

 

Yn ystod Sioe Frenhinol Cymru eleni (23 – 26 Gorffennaf), bydd Cyswllt Ffermio yn canolbwyntio ar berswadio busnesau ffermio a choedwigaeth i wneud defnydd o’r holl gymorth, yr arweiniad a’r hyfforddiant sydd ar gael yng Nghymru trwy ei raglen ‘stop un siop’ amlochrog sy’n aml yn destun cenfigen i wledydd eraill. 

“Ni fu hi erioed yn bwysicach i berchnogion busnesau sylweddoli y gallant wella eu gwybodaeth, rhedeg busnesau mwy effeithlon a bod yn fwy parod i wynebu’r dyfodol os gwnânt weithredu’r camau gofynnol nawr, a phennu nifer o dargedau iddynt hwy eu hunain i gyflawni’r perfformiad gorau posibl trwy feincnodi â rhai o’r busnesau sy’n perfformio orau,” meddai Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sy’n rhedeg Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru.

“Gallai hyn ddiogelu dyfodol llawer o fusnesau teuluol, oherwydd byddant yn ddigon cynaliadwy a chydnerth i wynebu’r dyfodol, ar waethaf yr ansicrwydd sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd.”

Fe wnewch chi ganfod Cyswllt Ffermio yn adeilad Lantra (Rhodfa K) ble bydd tîm o swyddogion datblygu rhanbarthol ar gael yn ddyddiol i gyfeirio ymwelwyr at y pecyn i wasanaethau, digwyddiadau a phrosiectau arbennig sy’n cynnig cymorth ynghylch busnes a datblygiad personol wrth i’r diwydiant baratoi at yr heriau a’r cyfleoedd sydd ar y gorwel.   

Bydd unrhyw ffermwr sydd wedi oedi cyn newid ambell beipen ddŵr wedi torri neu landerydd gwael uwchben buarth brwnt yn cael eu synnu gan arddangosfa sy’n dangos cymaint o arian ac amser y maent yn ei wastraffu, heb sôn am y niwed i’w tir, os nad ydynt yn gwahanu dŵr ‘glân’ a dŵr ‘brwnt’ yn effeithiol.    

“Mae sioe eleni yn digwydd yn fuan wedi lansiad diweddar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch rheoli tir wedi Brexit, sy’n cyfeirio at yr angen i fusnesau ffermydd fod yn gydnerth yn economaidd ac i reoli eu tir yn effeithiol.

“Mae rheoli, casglu a gwaredu dŵr glân a brwnt yn un o’r mesurau sylfaenol y mae’n rhaid i bob ffermwr ei ddatrys er mwyn arbed amser ac arian iddynt hwy eu hunain, lleihau niwed i bridd a phorfeydd a diogelu’r amgylchedd ehangach,” meddai Mrs. Williams.   

Bydd Cyswllt Ffermio yn rhoi sylw i syniadau eraill i wella elw ac effeithlonrwydd, sydd oll wedi’u cynllunio i helpu busnesau i wella strategaethau rheoli tir, yn y ‘gornel dechnoleg’ eleni. Yno, caiff ymwelwyr eu hannog i ystyried sut i ddefnyddio rhai o'r dulliau mwyaf defnyddiol sydd ar gael i’r diwydiant i’w helpu i arbed amser ac adnoddau gwerthfawr.

Os dewch chi draw i adeilad Lantra rhwng 2yp a 3yp, gallwch gael cyfle i sgwrsio â rhai o fentoriaid rhaglen mentora Cyswllt Ffermio, sydd wedi cael ei ehangu’n ddiweddar. Bydd y mentoriaid yn bresennol yn ddyddiol, ac maent wedi cael eu dewis oherwydd eu gwybodaeth am amrywiaeth eang o sectorau a’u profiad ohonynt. Mae’r tîm cig coch, llaeth ac amaethu âr bellach yn cynnwys nifer o fentoriaid sy’n arbenigo mewn meysydd arbenigol iawn. Gall bob mentor gynnig hyd at 22.5 awr o arweiniad diduedd wedi’i ariannu’n llawn ynghylch pynciau sy’n amrywio o gadw gwenyn a chynhyrchu cig geifr i arallgyfeirio i faes twristiaeth a chynlluniau coedwigaeth. Mae cyfarwyddiadur o fentoriaid ar gael ar-lein, ac mae’n cynnwys cyfleuster hidlo a wnaiff eich helpu i nodi’r mentor sydd â’r sgiliau y mae arnoch eu hangen.  

Mae’r rhaglen fentora hefyd yn cynnwys mentoriaid arbenigol a benodwyd yn ddiweddar i gynnig arweiniad ynghylch iechyd a diogelwch ar ffermydd a chynllunio olyniaeth. Caiff ymwelwyr eu hannog i gymryd llyfrynnau am ddim ynghylch y ddau bwnc.  

“Mae’r llyfrynnau hyn wedi cael eu hysgrifennu’n syml ac maent yn hawdd eu deall, a dylai’r ddau gael eu gadael ar fwrdd pob cegin fel gall bob teulu eu trafod.   

“Gallai treulio pum munud yn darllen ein llyfryn newydd sy’n cynnig cyngor ynghylch diogelwch ar ffermydd wneud gwahaniaeth rhwng byw a marw neu golli bywoliaeth, os gwnaiff lwyddo i wneud i ffermwr bwyllo a meddwl am y risgiau cyffredin y gellir eu hosgoi,” meddai Mrs. Williams.

Yn yr un modd, gallai’r llyfryn a’r pecyn tasgau ynghylch cynllunio olyniaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Cyswllt Ffermio arbed gofid calon a chwerylon teuluol i’r busnesau hynny sydd heb sefydlu cynllun olyniaeth cadarn hyd yn hyn. Mae’r llyfryn hwn yn annog teuluoedd i “gychwyn y drafodaeth; mae siarad yn dda”.

Lolfa Busnes Cyswllt Ffermio - Adeilad Defaid Meirionnydd

Yn olaf, fel rhan o fenter newydd a drefnwyd ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru, cofiwch ymweld â Chyswllt Ffermio ar falconi llawr cyntaf Adeilad Defaid Meirionnydd, yn Lolfa Busnes Cyswllt Ffermio. Mae’r fenter newydd hon yn ymateb i ffermwyr sy’n ystyried ceisio arweiniad strategol ynghylch eu busnes ac/neu arweiniad technegol wrth iddynt baratoi at Brexit. Cynigir y cynllun trwy Wasanaeth Ymgynghorol Cyswllt Ffermio, sy’n ariannu hyd at 80% o’r costau ar gyfer unigolion cymwys a’r costau llawn yn achos ceisiadau gan grwpiau. Mae’r cynllun wedi gweddnewid effeithiolrwydd busnes a phroffidioldeb dros 2000 o fusnesau ers iddo gael ei lansio yn 2015. Os hoffech chi drefnu apwyntiad am ddim i weld un o’r ymgynghorwyr cymeradwy sy’n darparu’r gwasanaeth neu ddod i un o’r seminarau busnes dyddiol, trowch at  www.gov.wales/farmingconnect neu ffoniwch y Ganolfan Wasanaethu.

Bydd y pynciau yn cynnwys:

  • Perfformiad Busnesau Llaeth yn 2017, 2018 a 2019
  • EIP Cymru – Cyfleoedd i gael hyd at £40,000 tuag at gostau arloesedd
  • Sut i arallgyfeirio – ychwanegu gwerth at eich fferm
  • Seilwaith ffermydd a buddsoddiadau
  • Beth yw ystyr dewisiadau Brexit i’r sector llaeth?
  • Sefydlu gwyndonnydd glaswellt newydd – yn cynnwys rheoli chwyn a phlâu

Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu