3 Awst 2018

 

Wrth i’r cyfnod sych barhau, ac i gawodydd o law trwm ar draws Cymru gyflwyno ychydig o wyrddni i dirwedd ffermio Cymru, dylai’r ffocws bellach symud tuag at reoli’r glaswellt sy’n ail dyfu hyd yn oed yn fwy gofalus. Dylid diogelu porfeydd sy’n ail dyfu i adeiladu gorchudd cyfartalog o ansawdd digonol gyda digon o arwynebedd dail erbyn pan fydd y tywydd yn troi. Dylid atgoffa bod glaswellt yn tyfu’n gynt ac yn gynt, a po fwyaf yw’r gorchudd, gorau oll fydd y twf posibl. Bydd gorchudd digonol ar draws y fferm yn hanfodol yn ystod y cyfnod hyrdda ac ar gyfer toriadau silwair y mae gwir eu hangen, felly dylai caeau sy’n cynnwys gwndonnydd o ansawdd isel bellach fod yn cael eu pori, gan fod yn ofalus i beidio â phori’n is nag adlodd o 1500KgDM (4cm). Bydd angen bwydo ychwanegion parhaus i stoc cynhyrchiol sy’n pori i sicrhau bod gwyndonnydd sy’n adfer yn cael eu diogelu ac i gynnal cynhyrchiant/twf yr anifeiliaid.

Mae Tabl 1 isod yn dangos  sut mae un fferm sy’n rhan o Brosiect Porfa Cymru wedi rheoli’r lleihad sylweddol mewn twf yn ystod y cyfnod sych ym mis Mehefin a Gorffennaf, ac mae bellach mewn sefyllfa ar ddechrau Awst ble mae padogau wedi cael eu cau ar gyfer silwair ac wedi dechrau defnyddio’r borfa yn hytrach na silwair ychwanegol. Gwnaed hyn drwy ddiogelu’r gorchudd uwchben KgDM/Ha a difa 4% o’r fuches yn unig. Mae mesur parhaus a gofalus ynghyd â chyfle i ystyried y glaswellt a’r silwair sydd ar gael wedi galluogi’r fferm benodol hon i weld goleuni ar ddiwedd y twnnel. Gwnaed hyn heb orfod bwydo swm sylweddol o silwair a dwysfwyd gyda chyfnod o dair wythnos ar ganol mis Gorffennaf pan oedd y borfa’n cynrychioli llai na 50% o’r dogn.

Tabl 1. Data glaswellt a dwysfwyd ar gyfer un o’r ffermydd sy’n cymryd rhan ym Mhrosiect Porfa Cymru

 

Dyddiad

Gorchudd cyfartalog ar y fferm

KgDM/Ha

Twf

KgDM/Ha/Dydd

Glaswellt sy’n cael ei fwydo KgDM/pen

Dwysfwyd sy’n cael ei fwydo KgDM/pen

Silwair sy’n cael ei fwydo KgDM/pen

Nodiadau

11/6/18

2112

77

17

1

0

 

18/6/18

2007

52.4

14

4

0

 

22/6/18

2035

66.1

14

4

0

 

28/6/18

2030

51.1

13

4.5

0

difa

3/7/18

1982

45.4

10

5

2

 

10/7/18

1844

20.5

8

5.5

4

difa

16/7/18

1838

27/1

8

5.5

4

 

24/7/18

1908

30.6

8

5.5

4

 

31/7/18

2058

48.6

12

5.5

2

Padogau wedi’u cau ar gyfer silwair

 

Er y byddai’n hawdd dweud ‘pam mynd i drafferth i fesur gyda chyn lleied yn tyfu?’, bydd parhau i fesur ac asesu porfeydd yn ofalus wrth gerdded ar draws y fferm yn wythnosol yn rhoi cyfle i ffermwyr, ac yn enwedig rheolwyr porfa’r genhedlaeth iau, gasglu data a dysgu ar gyfer amodau tywydd eithafol fel hyn yn y dyfodol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn