7 Tachwedd 2018

 

Bydd milfeddyg sy’n arbenigo mewn cloffni sy’n effeithio ar wartheg yn arwain cyfres o ddigwyddiadau Cyswllt Ffermio, a luniwyd i gynorthwyo ffermwyr Cymru fynd i’r afael ag iechyd traed o fewn eu buchesi eu hunain.

Mae ffocws gan y diwydiant ar gloffni wedi arwain at welliannau yn nifer yr achosion o gloffni mewn buchesi yng Nghymru, ond dywed Sara Pedersen fod cloffni yn dal i fod yn un o’r problemau lles a chynhyrchiant mwyaf sylweddol sy’n effeithio ar fuchesi yng Nghymru.

“Mae sicrhau carnau iach yn rhan hanfodol o fuches gynhyrchiol,” meddai Ms Pederson, arbenigwr mewn iechyd a chynhyrchiant gwartheg.

Yn ystod y digwyddiadau a gynhelir ym mis Tachwedd, bydd yn rhannu atebion ymarferol er mwyn lleihau cloffni.

Bydd Ms Pedersen, Farm Dynamics Ltd, Y Bontfaen, hefyd yn cynorthwyo ffermwyr i ganfod y prif resymau dros gloffni o fewn eu buchesi ac yn trafod y triniaethau gorau ar gyfer gwartheg cloff.

 

Cynhelir y digwyddiadau fel a ganlyn:

13 Tachwedd 2018, Clwb Golff St Mary's Golf Club, Pencoed, CF35 5EA (BÎFF)

14 Tachwedd 2018, Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn, Castell Newydd Emlyn, SA38 9AZ (LLAETH)

20 Tachwedd 2018, Clwb Rygbi Hwlffordd, Hwlffordd, SA61 1LY (LLAETH)

 

Cynhelir pob un o’r digwyddiadau rhwng 19:30 – 21:30

 

Cysylltwch â Meinir Parry ar 01248 660376 / meinir.parry@menterabusnes.co.uk i archebu lle.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y