11 Mawrth 2019
Gyda’r sector amaeth yn wynebu cyfnod ansicr iawn, braf oedd gweld disgyblion amaeth ysgol y Berwyn Y Bala yn edrych yn bositif ac yn llawn brwdfrydedd ar y broses o fynd ag ŵyn o’r fferm i’r fforc.
Sefydlwyd grŵp Agrisgôp gyda’r disgyblion, cynllun gan Cyswllt ffermio a luniwyd yn arbennig i gynorthwyo teuluoedd fferm i ddatblygu cyfleoedd busnes newydd.
Yn sgil y grŵp Agrisgôp, cafodd y disgyblion eu hysbrydoli i feddwl am agweddau gwahanol iawn o’r diwydiant amaethyddol yn ogystal â phwysigrwydd meddu ar sgiliau i farchnata eu cynnyrch eu hunain yn y dyfodol!
Roedd yn gyfle i’r disgyblion gael cyngor arbenigol ar ddewis ŵyn ar gyfer y farchnad fwyd gyda Mr Alan Williams, Fferm Caenog, Corwen cyn mynd â nhw i’r lladd-dy yng Nghorwen.
Yna cafwyd sesiwn dorri gyda’r cigydd Mr Haydn Roberts, Siop TG Roberts & Son Y Bala, cyn cael y cyfle i weini’r bwyd ym Mhlas yn Dre Y Bala dydd Gwener gyda gwahoddedigion o fyd amaeth yn ogystal â byd addysg.
Dywedodd Lowri Rees-Roberts, Arweinydd Agrisgôp, bod y disgyblion wedi cael y cyfle i weld pwysigrwydd marchnata eu cynnyrch o ganlyniad i’r digwyddiad yma.
“Roedd yn brofiad anhygoel dilyn yr oen o’r fferm yn llythrennol i’r fforc a hynny o fewn 12 milltir. Mae’n bwysig heddiw bod ein pobl ifanc yn datblygu sgiliau er mwyn gwerthu ein cynnyrch ein hunain ac yn gweld y broses o fynd o’r fferm i’r fforc. Cafodd bob un o’r bobl ifanc wefr o weld y gadwyn yma, ac roedd hi’n braf eu gweld yn gweini bwyd brynhawn dydd Gwener.”
Dywedodd un o’r disgyblion amaeth, Enion Williams, Fferm Caenog, Corwen:
“Mae yna bosibiliadau eang a phob math o gyfleoedd o fewn y sector amaeth a’n bwriad ni gyda’r prosiect yma oedd dangos pwysigrwydd marchnata ein cynnyrch ein hunain mewn ffordd hwyliog oedd yn addysgiadol hefyd,” meddai.
“Mae’n bwysig ein bod yn cael y cyfle yn fuan yn ein bywydau i weld pa fath o opsiynau sydd ar gael i ni ym myd amaeth a thrwy Agrisgôp, fe gawsom ni’r cyfle i wneud hyn.”
Bu’r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol a dywedodd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Meirion a Dwyfor a oedd yn bresennol yn y digwyddiad.
Siaradwr arall yn y digwyddiad oedd y ffermwr Gareth Wyn Jones.
Dywedodd yn dilyn y digwyddiad: “Gwych iawn gweld criw o bobl ifanc yn gweithio i sicrhau dyfodol cig oen o Gymru. Aeth y criw ati i werthu’r stori ac edrych ar y posibilrwydd o gael mwy am ein cynnyrch. Da iawn nhw!”
Gyda nifer o ddisgyblion Mr John Thomas, athro amaeth yn Ysgol y Berwyn, o gefndir amaethyddol neu â chysylltiad â’r sector amaeth, canmolodd ef y diwrnod am eu hannog i feddwl am eu dyfodol a dangos iddynt bwysigrwydd mynd allan i farchnata eu cynnyrch eu hunain.
“Mae’r prosiect wedi eu hysbrydoli i ddechrau meddwl am y dyfodol ac am bwysicrwydd ôl traed carbon. Mae o wedi bod yn gyfle arbennig iddyn nhw,” meddai.
“Ein gobaith yw bod digwyddiad fel hwn yn creu ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd hynny ac yn codi hyder y disgyblion a gwneud iddyn nhw feddwl o weld yr hyn sydd ar eu cyfer.”