12 Ebrill 2019
Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £1.29 miliwn i gefnogi ac ehangu’r sector moch yng Nghymru.
Dim ond 5% o’r cig mochyn sy’n cael ei fwyta yng Nghymru sy’n cael ei gynhyrchu yma ac felly mae’r Llywodraeth yn credu bod cyfleoedd ar gael yn y sector, drwy sicrhau bod cynhyrchu moch yn fenter graidd neu’n arallgyfeiriad eilaidd.
Cafodd cyfres o gyfarfodydd eu cynnal yng Nghymru gan raglen Menter Moch Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Cyswllt Ffermio, a hynny i helpu ffermwyr i ystyried yr opsiynau.
Roedd Simon Davies o Meadow Quality a’r ffermwr moch o Ynys Môn, Paul Barcroft-Jones, yno i rannu eu gwybodaeth uniongyrchol nhw o’r sector a’u cynghorion gorau.
Beth yw’r opsiynau?
Pesgi perchyll diddwyn 7kg neu 30kg ar gontract:
Cost gyfartalog porchell diddwyn 7kg ar hyn o bryd yw £34.07 o’i gymharu â £43.91 am anifail sy’n pwyso 30kg neu fwy. Ond bydd cost magu’r anifail llai yn uwch – rhwng 7kg a phesgi’r anifail, mae cyfanswm cost y porthiant ar hyn o bryd yn £61 ar gyfartaledd, o’i gymharu â £45 i besgi anifail sy’n 30kg ar y dechrau.
“O ran porchell diddwyn bach, mae angen deiet ddrutach arno ond mae’n trosi’r porthiant yn fwy effeithlon, ac yn ôl pwysau o 30kg neu fwy mae’r mochyn yn llai effeithlon o ran trosi ei borthiant ond mae ei ddeiet yn rhatach,’’ esboniodd Mr Barcroft-Jones.
Darparu llety gwely a brecwast ar ran trydydd parti:
Mae'r trefniant hwn yn golygu bod y cynhyrchydd yn cyflenwi ac yn yswirio’r moch a bod y ffermwr contract yn darparu’r llety, y llafur, y dŵr a’r sarn.
Gallwch ddisgwyl gweld moch sydd wedi’u hardystio gan Freedom Foods yn ennill cyfraddau uwch, gan adlewyrchu’r dwysedd stocio is, ond fe allai’r cyfraddau hynny gael eu llyncu gan gost defnyddio mwy o wellt a gwelliannau eraill.
Contract prynu’n ôl:
Mae’r magwr yn prynu moch gan gynhyrchydd neu ‘integreiddiwr’ am bris cytûn ac yn gwerthu’n ôl i’r cyflenwr hwnnw, eto am bris gosod.
Yn ôl Mr Davies, mae’r trefniant hwn yn dod yn fwy cyffredin wrth i’r diwydiant moch gael ei integreiddio’n fwyfwy ond hefyd am fod y risg yn cael ei rhannu rhwng dau barti; yr holl elw a cholledion sy’n gysylltiedig â’r cyfnod magu.
Mae’r cytundeb hwn yn gosod y ffermwr sy’n gwneud y gwaith magu mewn sefyllfa gref o ran negodi prisiau. “Os nad oes modd dod i gytundeb ar brisiau, fe allai’r ffermwr benderfynu gwneud llai o ymdrech ynglŷn â’r cnwd hwnnw oni bai bod perchennog y moch yn gallu diwygio’r pris.’’
Dod o hyd i farchnad cyn buddsoddi
Yn hanesyddol, mae ffermwyr wedi bod yn euog o fuddsoddi mewn seilwaith cyn sicrhau marchnad, ond mae sicrhau bod prynwr ar gael yn gyntaf yn hanfodol, yn enwedig felly mewn ardaloedd fel Cymru sy’n bell o’r proseswyr mawr.
Ym 1990 roedd 500 o ladd-dai yn y Deyrnas Unedig a oedd wedi’u cofrestru i drin moch ond mae’r nifer wedi gostwng i ryw 100.
“Mae’n rhaid ichi godi'r ffôn, efallai i grŵp masnachu fel Meadow Quality neu, os ydych chi’n targedu marchnad arbenigol, cigyddion a bwytai yn Llundain. Mae'n dibynnu ar y math o foch rydych chi’n bwriadu eu cadw,'' meddai Mr Barcroft-Jones.
“Mae llawer o waith caled – y 12 mis cyntaf yw’r caletaf – ond mae'n dod yn haws ar ôl ichi gael eich traed o danoch.''
O holl werthiant moch y Deyrnas Unedig, mae 41 y cant yn mynd i grwpiau a mentrau cydweithredol fel Meadow Quality, 31% i ffatrïoedd sy’n perthyn i’r proseswyr, 17% i ffermwyr annibynnol mwy ac 11% i ffermwyr annibynnol llai.
Mae Mr Barcroft-Jones yn dweud mai Ebrill, Mai a Mehefin yw’r misoedd gorau i ddechrau uned newydd a hynny am fod y galw am gig mochyn yn uwch. “Rydych chi’n fwy tebyg o ddod o hyd i farchnad yn y misoedd yma.’’
Moch Tractor Coch safonol o’u cymharu â moch Freedom Foods a anwyd yn yr awyr agored
Mae yna farchnad gynyddol am foch sydd wedi’u geni yn yr awyr agored – mae moch Freedom Foods yn ennill premiwm o 20c/kg neu fwy.
“Mae’r premiwm ar gyfer moch sydd wedi’u geni y tu allan wedi codi 7-8c/kg mewn 18 mis yn unig,’’ medd Mr Davies.
Ond i Mr Barcroft-Jones, adeilad sydd â lloriau slatiog i gyd a rheolaeth ar yr hinsawdd i 1000 o foch sy’n tyfu yw’r ffordd ymlaen, gan leihau costau sarn, gwella effeithlonrwydd y porthiant a symleiddio’r gwaith rheoli.
Ar ôl cwblhau’r adeilad yn nes ymlaen eleni bydd yn rhyddhau amser iddo ganolbwyntio ar ei hychod. “Hwyrach y ca i un mochyn y flwyddyn yn fwy o bob hwch, a mynd â mwy o foch drwy’r system,’’ meddai.
Creu system sy’n sicrhau’r effeithlonrwydd mwyaf posibl
Mae’r costau’n gostwng os yw’r moch i gyd yn yr un cyfnod cynhyrchu a hynny am fod nifer y siwrneiau yn ôl ac ymlaen i'r fferm yn cael ei leihau.
"Os ydych chi’n cynhyrchu 220 o foch ar gyfer bacwn a bod rhaid ichi gludo’r rheiny i lawer o brynwyr am eu bod nhw ar wahanol gyfnodau cynhyrchu, mae hynny’n ychwanegu at y costau cynhyrchu,'' meddai Mr Davies.
"Mae'n well anfon 220 allan ar un lori pan fo manyleb o 40kg wedi’i bennu rhwng y pwysau isaf a’r pwysau uchaf adeg eu gwerthu,'' meddai Mr Davies.
"Peidiwch â gwerthu 10 llwyth trelar ar 10 diwrnod gwahanol. Ystyriwch bolisi cynhwysfawr pawb-mewn-pawb-allan os nad ydych chi yn ymyl ffatri o faint rhesymol, ac nid prynu a gwerthu ychydig bach yma ac acw.''
Mae pawb-mewn-pawb-allan yn caniatáu effeithlonrwydd o safbwynt porthiant, meddai.
"Mae cyflenwr bwyd anifeiliaid eisiau darparu llwyth cymharol lawn o ddeiet weddol gyson ac os caiff wneud hynny fe allai gynnig pris gwell.
"Os oes gennych chi 40 neu 50 o foch o wahanol feintiau a’r rheiny’n bwyta deiet wahanol, fe fyddwch yn ychwanegu cost at y system achos mae’n bosibl y bydd angen mwy o fwyd mewn bagiau. Mae hefyd yn gwneud y gwaith rheoli’n fwy anodd.''
Ac o ran bioddiogelwch hefyd, gorau po leiaf o siwrneiau lori sy’n digwydd.
Sicrhau epil drwy un cyflenwr
Mae defnyddio mwy nag un ffynhonnell yn gallu creu heriau o ran clefydau, gan greu effaith andwyol ar gyflymder twf ac ar faint yr elw.
Cyngor Mr Davies yw y dylech chi hybu cysylltiadau rhwng milfeddyg eich fferm chi a milfeddyg y cyflenwr.
“Mae’n hollbwysig bod yna ddeialog yn uniongyrchol rhwng y ddau filfeddyg. Bydd eich prynwr yn disgwyl gweld hyn ac mae’n gwneud synnwyr busnes da.’’
Fuodd hi erioed yn haws sicrhau anifeiliaid gan un cyflenwr, ychwanegodd Mr Davies. "Mae cynhyrchwyr yn gweithio ar raddfa ehangach ac mae’r hychod yn geni fel grŵp, felly mae ganddyn nhw grwpiau mwy o anifeiliaid sy’n cael eu symud bob tair wythnos.''
Prynwch gan gyflenwyr sydd â statws iechyd uchel yn eu cenfaint.
"Os ydych yn dechrau o'r dechrau’n deg, mae’n rhaid ichi fod yn ofalus o ran y clefydau sy’n dod i mewn,'' meddai Mr Barcroft-Jones, sy'n prynu ei epil i gyd fel banwesod sydd heb gael baedd gan Rattlerow.
Pan fo’r genfaint yn iach mae angen llai o frechlyn ac, o ganlyniad, mae’r costau cynhyrchu’n is, meddai.
Cyfrifo’ch cost cynhyrchu (COP)
Ar hyn o bryd, y gost cynhyrchu ar gyfartaledd ar draws pob system dan do ac awyr agored yw rhyw 143–145c/kg.
Gall y costau cynhyrchu yn yr uned dan do orau ei pherfformiad fod ym mhen uchaf y 130au o geiniogau a chanol neu ben uchaf y 140au, meddai Mr Davies.
“Mae ar gynhyrchwyr moch awyr agored angen premiwm o 20 ceiniog a mwy i bob cilogram oherwydd eu costau cynhyrchu uwch, ond mae pob cynhyrchydd angen gweld elw teg er mwyn i’r stoc a’r busnes ffynnu.’’
Mae hychod yn y systemau geni awyr agored gorau eu perfformiad yn cynhyrchu 27.48 o berchyll diddwyn y flwyddyn ar gyfartaledd, o’i gymharu â 31.67 yn achos hychod dan do.
Mae effeithlonrwydd trosi porthiant (FCE) moch ar wellt yn llai nag mewn unedau lle mae’r hinsawdd o dan reolaeth, ac mae’r angen am fwyd yn fwy.
Porthiant yw ei gost fwyaf ef yn ôl Mr Barcroft-Jones.
"Mae’n rhaid i ni ddefnyddio bwyd sych i gyd oherwydd ein lleoliad daearyddol felly dwi’n gorfod sicrhau bod y moch yn trosi hyn gystal ag y bo modd.
“Ein targed ni o ran yr FCE yw cynhyrchu un cilogram o bwysau byw allan o ddau gilogram o borthiant.’’
PANEL
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Menter Moch Cymru i roi cymorth i ffermwyr sydd wrthi’n ystyried cynhyrchu moch.
Mae’r fenter yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio i ddarparu sesiynau gwybodaeth ac i gyfeirio ffermwyr at gymorth.
"Os oes ar ffermwyr angen sesiynau dilynol fel cyngor ynghylch adeiladau fe allwn ni drefnu ac ariannu’r mathau hyn o sesiynau hyfforddi,'' meddai rheolwr y prosiect, Melanie Cargill.
I ffermwyr a hoffai gymryd y cam nesaf, mae cynlluniau busnes â chymhorthdal o 80 y cant ar gael drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.