23 Mai 2019

 

 

women in agriculture merched mewn amaeth 1 0

Gwahoddir merched mewn amaeth drwy Gymru i sioe deithiol i brofi ‘teithiau darganfod’ unigryw lle byddant yn cael golwg o’r tu mewn ar rai o fusnesau gwledig mwyaf llwyddiannus Cymru, gan glywed drostynt eu hunain hanes ysbrydoledig unigryw bob un o’r entrepreneuriaid a’r teuluoedd ffermio. 

Ddydd Iau, 20 Mehefin, bydd cysyniad hynod o lwyddiannus Cyswllt Ffermio, ‘Merched mewn Amaeth’, sy’n dathlu 10 mlynedd, yn cynnal sioe deithiol. Bydd chwe bws yn cychwyn o wahanol leoliadau drwy Gymru ac yn codi merched sy’n cynrychioli gwahanol feysydd o amaethyddiaeth a bywyd gwledig i fynd ar daith astudio arbrofol. Byddant yn stopio mewn gwahanol lefydd drwy Gymru, cyn cyrraedd y lleoliad olaf, sef Aberystwyth.  Byddant yn cyrraedd Gwesty’r Marine yn y prynhawn, erbyn amser te, a bydd cyfle i glywed hanes rhai o brif gneifwyr llwyddiannus Seland newydd – merched bob un! 

Bydd amserlen benodol ar gyfer bob bws, ac ar y ffordd bydd yn stopio mewn cyfres o lefydd i weld beth sy’n digwydd ‘y tu ôl i’r llenni’ mewn ffermydd sydd wedi arallgyfeirio a rhai o fusnesau gwledig mwyaf ysbrydoledig Cymru.

Yn ôl Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, bydd sioe deithiol ‘Merched mewn Amaeth’ eleni’n gyfle heb ei ail i gynrychiolwyr gyfarfod rhai o entrepreneuriaid gwledig a phobl fusnes mwyaf llwyddiannus Cymru sydd wedi dod o hyd i’w llwybrau eu hunain, boed yn anarferol weithiau, i droi eu breuddwydion a’u gobeithion o arallgyfeirio eu busnesau neu newid i ddulliau ffermio mwy proffidiol, yn realiti.

“Bydd cynrychiolwyr yn clywed drostynt eu hunain hanes ffermwyr a pherchnogion busnes sydd oll wedi tyrchu’n ddwfn i ddarganfod eu dawn entrepreneuraidd a chael hyd i'r hyder mewnol hanfodol hwnnw.

“Bydd pob taith yn rhoi cipolwg unigryw ar y ffordd y mae’r bobl fusnes yma wedi darganfod eu gwir botensial.”

Ffermydd arloesol, sydd wedi ennill gwobrau; distyllfa gin a gwinllan; fferm lafant; gwneuthurwyr hufen iâ; cynhyrchwyr paté; proseswyr dŵr ffynnon; llety gwyliau yn cynnwys encil a iyrtiau – dyma giplun o rai o’r busnesau y byddwn yn ymweld â nhw, gyda phob un yn dangos cyfoeth y gweithgaredd arallgyfeirio llwyddiannus yng Nghymru. Cliciwch yma i weld yn union beth yw cynnwys pob taith cyn penderfynu pa fws yr ydych eisiau mynd arno.

Bydd lluniaeth ar gael ‘en route’ ar bob bws - picnic o fwyd a diod o Gymru - cyn gadael y bws i fynd i’r gwesty ar lan y môr i gael te pnawn.

Dywed Mrs Williams fod cynulleidfa ymroddedig o ferched wedi bod yn gefnogwyr ffyddlon yng nghynadleddau blynyddol ‘merched mewn amaeth’ Cyswllt Ffermio ers i’r cyntaf un gael ei gynnal deng mlynedd yn ôl, hefyd yn Aberystwyth.

“Mae cael fy ysbrydoli a fy annog gan ferched dynamig, uchelgeisiol ond sydd eto i bob golwg yn ‘gyffredin’, ac sy’n aml yn ceisio cydbwyso ymrwymiadau teuluol a gwaith mewn diwydiant sy’n dal i gael ei reoli gan ddynion, wedi bod yn gymhelliant mawr.   

“I nifer o ferched, mae wedi bod wedi yn gatalydd iddynt, yn ddylanwad allanol sydd wedi eu helpu i ‘anelu’n uchel’ a throi eu nod iddyn nhw eu hunain a’u busnesau’n realiti,’ meddai Mrs. Williams.

Yn ystod y dydd bydd cyfle i’r holl ferched rwydweithio ag unigolion o anian debyg, cyfarfod hen ffrindiau a rhai newydd, a chlywed hanes siaradwyr ysbrydoledig o Seland Newydd – rhan o’r criw ‘ she’s shearing’ – sydd wedi dileu stereoteipiau a rhagfarn rhyw ym myd cneifio sy’n draddodiadol wedi bod yn faes i ddynion. 

Mae Jills Angus Burney ac Emily Welch, dwy gneifwraig o fri, wedi llwyddo i dorri record cneifio y byd! Ar  ôl cael ei hannog i roi’r gorau i gneifio yn ei 50au gan ei hymgynghorydd orthopaedig, daeth Jill o hyd i ail yrfa fel cyfreithwraig a bargyfreithwraig Uchel Lys ond mae'n dal i fethu â chadw draw o’r ‘Golden Shears’, prif bencampwriaeth cneifio a lapio gwlân y byd.

Emily Welch sy’n dal y record byd ar hyn o bryd am gneifio 648 o ŵyn mewn naw awr (gan dorri record Jills yn 2007). Bydd yn ddiddorol gwrando sut mae’r fam i dri o blant bach yn dod o hyd i’r amser i gystadlu a rhedeg ei chwmni contractio ei hun. Bydd Pagan Karauria o Ganolbarth Otago, sydd hefyd yn cneifio a lapio gwlân yn ymuno â’r tair. Dychwelodd Pagan i bencampwriaeth y ‘Golden Shears’ y llynedd ar ôl cael damwain car erchyll pan laddwyd dwy o’i ffrindiau a’i gadael ag anafiadau difrifol. Bellach mae wedi ailddechrau cneifio ac mae’n fentor i ferched ifanc eraill sy’n gobeithio bod yn gneifwyr. Bydd ei neges yn sôn am oresgyn helbulon drwy ddyfalbarhad! 

Mae amserlenni/cynnwys y teithiau ar gyfer pob un o 6 daith astudio ‘Merched mewn Amaeth’, a gynhelir ddydd Iau, 20 Mehefin, ar gael ar yma. Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael, felly dylech neilltuo lle ymlaen llaw cyn gynted â phosibl naill ai drwy glicio yma neu drwy ffonio Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 neu ebostiwch farmingconnect@menterabusnes.co.uk. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, yn llongyfarch ‘y gorau o’r goreuon’ ar gyfer Gwobrau Lantra Cymru 2024
17 Ionawr 2025 Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut