23 Mai 2019
Yn ôl arbenigwyr ar gloffni gwartheg, os caiff arwyddion cloffni mewn buwch eu trin fel achos brys trwy ddelio’n gyflym â’r broblem, gall hynny atal niwed na ellir ei ddadwneud i’r droed sydd wedi’i heintio.
Mae cloffni yn glefyd costus ymhlith buchesi llaeth Cymru, ond gellir atal llawer o’r achosion, yn ôl milfeddygon oedd yn cynnig cyngor ar gloffni yn un o gyrsiau Meistr ar Gloffni Cyswllt Ffermio.
Yn ôl yr ymgynghorwyr milfeddygol annibynnol y Dr Nick Bell a Sara Pedersen, mae’n rhaid i ffermwyr fod yn barod i ymateb yn gyflym i’r fuwch gloff.
“Fel arfer, ni eillir dadwneud niwed i’r droed, a bydd hynny’n effeithio ar yr asgwrn a’r meinweoedd meddal, sy’n golygu bod cloffni yn achos brys,” meddai’r Dr Bell.
Os caiff cloffni ei drin yn llwyddiannus yn syth ar ôl cleisio, gellir atal unrhyw friwiau ar y gwadnau fwy neu lai a rhai anafiadau eraill i’r carn.
“Os gwnawn ni drin buchod sydd newydd gael anafiadau dermatitis i’r carn, gallwn ni leihau pwysedd yr heintiad a’i atal rhag lledaenu rhagor,” eglurodd y Dr Bell.
Gellir cywiro siâp y droed i atal rhai anafiadau i’r ewinedd, ac os caiff traed eu harchwilio’n rheolaidd, gellir gwneud hyn yn ystod y camau cynnar.
“Beth sy’n bwysig wrth archwilio traed yw osgoi tocio gormod. Yn gyffredinol, byddwn yn dilyn y dull pum cam,” meddai’r Dr Bell.
- Cywirwch hyd blaen y droed - cychwynnwch â’r ewin ôl mewnol neu’r ewin blaen allanol a mesurwch yr hyd priodol o ble mae corn yr ewin yn cychwyn caledu; naddwch y sawdl sydd wedi gordyfu o’r blaen er mwyn cynyddu ongl y droed yn effeithiol ac i alluogi’r fuwch i roi pwysau ar flaen ei throed. Hepgorwch y sawdl a muriau ochr y carn.
- Sicrhewch bod hyd a chydbwysedd yr ewin arall yr un fath, ac unwaith yn rhagor, hepgorwch y sawdl a’r waliau ochr.
- Pantiwch leoliad briw y sawdl yn ddwfn ac yn llydan. Crëwch le rhwng yr ewinedd fel y gall slyri lifo o’r carn.
- Wrth wneud gwaith tocio adferol i drin doluriau sy’n achosi cloffni, crëwch wahaniaeth yn uchder y sawdl rhwng yr ewin iach a’r ewin dolurus; gosodwch floc ar y sawdl neu tociwch ddwy ran o dair ôl y carn ôl allanol os bydd wedi’i heintio.
- Cliriwch unrhyw gorn rhydd ac unrhyw wrymiau miniog - mae angen bod yn ofalus iawn wrth glirio cron rhydd o amgylch dolur ar y sawdl, y llinell wen neu anafiadau madreddog. Cliriwch unrhyw holltau sydd wedi’u hachosi yn sgîl erydu’r carn.
Fe wnaiff trin a thocio yn ddi-oed helpu i liniaru cloffni, ond y nod yw atal cloffni trwy ddileu ffactorau risg.
Dywedodd Ms Pedersen bod newidiadau yn y droed yn ystod cyfnod lloea yn un o’r ffactorau allweddol ar gyfer briwiau ar sodlau ynghyd â buchod yn sefyll am gyfnodau hir oherwydd diffyg esmwythdra; gellir ystyried briwiau ar sodlau fel clefyd ‘sefyll i fyny’.
Dylid anelu at sicrhau bod buwch sy’n cael ei chadw dan do yn gorwedd am 12-14 awr bob dydd. Yn ôl yr ymchwil diweddaraf, byddant yn gorwedd am 10 awr ar gyfartaledd yn unig.
Os ychwanegir yr amser sydd ei angen i fwyta, yfed a chymdeithasu at hyn, mae dwy awr yn unig ar gael i odro yn ystod diwrnod y fuwch. Rhybuddiodd Ms Pedersen y caiff yr amser a dreulir yn gorwedd ei leihau os treulir mwy na dwy awr yn godro.
Cyfeiriodd at enghraifft o ffermwr sy’n gleient iddi sydd â chyfleusterau rhagorol i gadw gwartheg dan do, ond bydd pob godro yn para 5 awr. “Er bod y fferm wedi buddsoddi’n helaeth mewn ciwbiclau cyfforddus, roedd briwiau ar sodlau yn broblem sylweddol oherwydd nid oedd digon o amser ar gael i ganiatáu i’r buchod orwedd.”
Gall straen gwres achosi cloffni hefyd – problem gyffredin ymhlith buchesi llaeth yn ystod y cyfnod o dywydd poeth yr haf diwethaf – felly dylid gweithredu i sicrhau bod buchod yn oer braf os ceir tywydd poeth eto eleni. Mae hyn yn cynnwys darparu dŵr oer wrth allanfa’r parlwr godro a sicrhau na chaiff buarthau casglu eu gorlenwi oherwydd bydd hyn yn amharu ar allu’r buchod i ymoeri.
Mae cynllunio ciwbiclau yn faes arall na ddylid ei anwybyddu – yn ôl Ms Pedersen, gellir gwneud gwelliannau heb fuddsoddiad sylweddol yn aml iawn. “Gellir gwneud newidiadau i’r mwyafrif helaeth o siediau ciwbiclau ar ffermydd. Os gwnewch chi sicrhau bod ciwbiclau yn fwy cyfforddus, fe wnaiff y buchod orwedd yn hirach.”
Cafodd y cwrs Meistr ar Gloffni ei gynnal ar fferm Coleg Gwent, Brynbuga, a chafodd ei hwyluso gan Imogen Ward, Swyddog Technoleg Llaeth Cyswllt Ffermio.
“Cloffni yw un o’r problemau lles mwyaf ar ffermydd llaeth y Deyrnas Unedig. Os gall ffermwyr leihau nifer yr achosion o gloffni, bydd hynny’n llesol i’w buchod a’u busnesau.”
Cytunai ffermwyr oedd yn mynychu’r cwrs. Dywedodd Carys Jones, sy’n helpu i redeg buches Larchwood Holsteins ym Magwyr, bod angen rheoli iechyd traed gwartheg yn ddiddiwedd mewn mewn systemau dan do llawn ble cedwir buchod hynod o gynhyrchiol.
“Mae dysgu am y safonau uchaf un o ran cynnal iechyd traed gwartheg wedi bod yn brofiad da,” meddai.
Yn ôl Josh James, sy’n cynhyrchu llaeth o 200 o fuchod Holstein yn y Redwig, nid oedd cloffni yn broblem fawr yn ei fuches, ond ychwanegodd: “Nes byddwch chi wedi dileu cloffni yn llwyr, gallwch chi bob amser wneud rhywbeth i wella’r sefyllfa, ac i helpu i gyflawni hynny, byddaf yn gweithredu rhai o’r cynghorion gwych rydym ni wedi’u cael yn ystod y cwrs hwn.”
Mae cyllid ar gyfer y prosiect hwn wedi cael ei ddarparu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.