19 Mehefin 2019

 

iaithypridd 0
Dyma’r cwestiwn fydd yn cael ei ofyn mewn cyfres o gyfarfodydd sy’n cael eu trefnu ar draws Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf gan Cyswllt Ffermio. 

“Mae’r cyswllt cryf sy’n bodoli rhwng yr iaith Gymraeg ag amaeth yn gyfarwydd i lawer iawn ohonom ni, mae gan yr iaith Gymraeg bresenoldeb amlwg o fewn amaethyddiaeth,” meddai Eirwen Williams, Cyfarwyddwr yng nghwmni Menter a Busnes sy’n gyfrifol am drefnu’r digwyddiadau yma.

“Felly rydym am edrych i weld sut allwn ni adeiladu ar hyn, a chynyddu nifer y siaradwyr er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  O’n profiad ni, mae digonedd o syniadau gan y diwydiant amaeth, felly rydyn ni’n awyddus i gasglu barn, ac mae angen i ni siarad â theuluoedd amaeth er mwyn dod o hyd i atebion.”

Bydd y cyfarfodydd yn cael eu rhedeg ar ffurf caseg eira, lle bydd y prif bwyntiau o’r cyfarfod cyntaf yn cael eu cario i’r cyfarfod nesaf, ac yn y blaen. 

Ochr yn ochr â’r cyfarfodydd hyn bydd y ‘Bŵth Amaeth’ yn mynychu rhai o sioeau amaethyddol yr haf gan gynnwys y Sioe Fawr a’r Eisteddfod Genedlaethol lle bydd cyfle i bobl i fynd i mewn i’r Bŵth i gynnig eu syniadau. Bydd y sylwadau yn cael eu ffilmio a bydd yr holl ymatebion yn cael eu crynhoi a’u dadansoddi.   

Os hoffech gael cyfarfod yn eich ardal chi, cysylltwch â Cyswllt Ffermio.  Neu beth am alw i mewn i’r Bŵth Amaeth a fydd yn y Sioe Fawr a’r Eisteddfod Genedlaethol?

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Eirwen Williams ar 01970 636295 / 07735439062 neu eirwen.williams@menterabusnes.co.uk

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer