29 Gorffennaf 2019

 

arddangos demonstration 1
Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi rhwydwaith newydd o 18 o Safleoedd Arddangos heddiw (Gorffennaf 23), a fydd yn gyrru gwelliannau ac yn cynyddu cynhyrchiant ar draws amrywiaeth o systemau ffermio.

Mae’r safleoedd yn amrywiol ac yn cynnwys mentrau bîff, defaid, llaeth a dofednod ond mae dwy nodwedd sy’n uno’r 18, sef dymuniad i wella cynhyrchiant a pherfformiad a pharodrwydd i rannu eu dysgu a’u profiad gyda’r diwydiant ehangach.

Mae’r rhwydwaith yn allweddol i helpu pob ffermwr yng Nghymru i yrru gwelliannau, drwy ddiwrnodau agored a digwyddiadau technegol, er mwyn rhoi gwybodaeth am y datblygiadau a gafwyd mewn prosiectau a threialon.

Yn ystod y tair blynedd nesaf, bydd y ffermydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i ddatblygu cynhyrchiant ar y fferm, gan ddefnyddio technegau newydd a monitro perfformiad.

Yn ystod y lansiad a gynhaliwyd yn Sioe Frenhinol Cymru, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig fod pob Ffermwr Arddangos wedi cael ei ddethol oherwydd ei ddulliau blaengar a’i uchelgais i gynyddu cynhyrchiant a bod yn fwy effeithiol ar draws pob lefel o’u gwaith.

“Gan weithio ochr yn ochr â llawer o arbenigwyr blaenllaw Ewrop yn y sector, bydd y ffermydd yn y rhwydwaith newydd yn treialu systemau newydd, yn gweld beth sy’n gweithio’n dda ac yn dysgu gan y pethau nad ydynt yn gweithio’n dda, gan weithredu dulliau newydd neu wahanol i gyflawni eu targedau perthnasol, rhoi gwybod i bobl eraill wrth iddynt ddysgu,” meddai hi.

“Bydd pob busnes yn darparu nifer o brosiectau sy’n briodol i’w busnes ac i’r ffermwyr yn eu cymunedau. Byddent ar flaen y gad o ran y dechnoleg newydd, gan gynnwys ‘ffermio manwl gywir’ a fydd yn galluogi i ffermwyr dderbyn data ar bob agwedd o’u ffermydd, yn cynnwys pridd, glaswelltir, da byw, maetholion, slyri ac ansawdd yr aer, i’w helpu i wneud penderfyniadau rheoli allweddol.”

Ymysg y prosiectau, bydd Huw a Meinir Jones yn archwilio gwahanol opsiynau i ganfod y ffordd orau o ennill y pwysau byw mwyaf oddi ar laswellt yn eu menter bîff ar fferm Bryn, ger Aberteifi.

Maent yn dweud bod dysgu gan bobl eraill yn eithriadol werthfawr ymhob sector o ffermio.

“Rydym yn mynd i lawer o ddigwyddiadau ar ffermydd a hyd yn oed os dysgwn i un peth yn unig o’r ymweliadau hynny, mae hi werth mynd. Fel Ffermwyr Arddangos Cyswllt Ffermio, byddwn yn dysgu gan eraill a, gobeithio y bydd eraill yn dysgu gennym ni,” meddai Huw.

Mae’r ffermwyr llaeth Ceredig a Sara Evans wedi bod yn cymryd camau i ddod yn fwy effeithlon ac, fel ffermwyr Safle Arddangos, maent eisiau ei gymryd i’r lefel nesaf drwy gyflwyno mwy o fanwl gywirdeb i’w system, manwl gyweirio eu gwaith a chynyddu cynnyrch llaeth ac elw o bosib.

“Mae dod yn Safle Arddangos Cyswllt Ffermio’n gyfle cyffrous i ddod â’r bobl gywir i mewn i’n helpu i gyflawni hynny ac i adael i bobl eraill ddysgu o’r treialon a’r prosiectau,” meddai Ceredig, sy’n godro 300 o wartheg Holstein yn Erw Fawr, Môn.

I gael manylion llawn y Safleoedd Arddangos newydd, cliciwch yma.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites