31 Gorffennaf 2019

 

 

290719 cynhyrchwyr pantri crwst eisteddfod 0

Os ydych chi'n siopa ym Mhantri Crwst, safle siop carafanau swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst yr wythnos hon, bydd milltiroedd bwyd y cynnyrch Cymreig blasus wedi teithio llawer llai na’r hyn gerddwch chi ar faes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos!

Ac wrth ymweld â'r siop, ffenestr siop yn llythrennol i'r nifer fawr o fwydydd cartref, lleol, Cymreig a gynhyrchir gan nifer o fusnesau tref Llanrwst, byddwch hefyd yn cefnogi nifer o fusnesau teuluol ffermio, ddaw a budd economaidd i Ddyffryn Conwy.

“Mae'n siwtio cysyniad Agrisgôp, y rhaglen Cyswllt Ffermio sydd wedi cefnogi'r pum teulu amaethyddol, a gychwynnodd y fenter gydweithredol newydd sbon hon i ddatblygu syniadau, sgiliau a hyfywedd busnesau gwledig yng Nghymru,” eglura Myrddin Davies o Lanrwst ac Arweinydd Agrisgôp.

“Mae wedi bod yn her enfawr i'r criw sydd eisoes yn bobl brysur yn tyfu, creu, pobi, cynhyrchu a gwerthu cynnyrch Cymreig o fewn eu busnesau unigol eu hunain. Ond dwi wrth fy modd bod y prosiect wedi cyrraedd y garreg filltir hon, a'u bod wedi cyflawni eu huchelgais o arddangos y cynnyrch o safon a grëwyd ac a werthwyd yn Llanrwst, yma ar safle maes carafanau'r Eisteddfod.”

 

Aelodau grŵp craidd Pantri Crwst yw:

  • Cwmni ffrwythau a llysiau Belmont, Euros Evans, y bedwaredd genhedlaeth o’i deulu sy’n ffermio yn Llanddoged ac sy’n cynaeafu amrywiaeth o lysiau cartref o'r fferm deuluol dafliad carreg uwchben tref Llanrwst.
  • Emyr Hughes, sy’n cynhyrchu wyau Cae Melwr yn ogystal â bisgedi a bara dan yr enw ‘O’r Maen.’ Mae’r gwenith a dyfwyd ar y fferm deuluol, yn cael ei felino yng Nghymru a’r cynnyrch terfynol yn cael ei gynhyrchu gan Fecws Scilicorns, Llanrwst.
  • Cigydd Arwel L Jones, sydd â siop ar Stryd Dinbych, Llanrwst sy’n gwerthu pasteiod cig cartref sawrus o ansawdd yn ogystal â chig eidion, oen a phorc blasus Cymreig.
  • Siwgr a Sbeis, becws Cymreig blaengar sy'n gwerthu cacennau, pwdinau a quiches sawrus sy'n dathlu eu pen-blwydd yn 30 oed eleni yn dilyn sefydlu’r cwmni yn Llanrwst gan ddwy ffrind, Rhian Williams a Rhian Owen.
  • Cigydd Elystan Metcalfe, a sefydlodd ei fusnes dros 30 mlynedd yn ôl ac sy’n gwerthu cigoedd Cymreig o ansawdd sy’n tarddu o ffermydd Dyffryn Conwy a Dyffryn Clwyd. Mae'r siop wedi ei leoli ar Stryd Watling, Llanrwst.

Yn ogystal, bydd Bragdy Nant ar y safle yn gwerthu cwrw Cymreig cain, ac mae’r criw wedi creu cwrw crefft newydd sbon, ‘Crwst IPA,’ yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod. Mae dod â chwmnïau ychwanegol eraill, fel Becws Scilicorns, Blas ar Fwyd, Health and Food a Spar, Llanrwst, yn helpu i gynnig yr amrywiaeth o gynnyrch y byddai pobl yn disgwyl eu gweld mewn siop un stop ar safle maes carafanau.

“Rydyn ni’n gyffrous iawn,” eglura Iona Edwards, un o gonglfeini cysyniad Pantri Crwst. Mae hi’n dod â'i harbenigedd, fel cyfrifydd siartredig i’r botes, ond mae hefyd yn wraig fferm ac yn gwasanaethu anghenion ariannol llawer o deuluoedd amaethyddol o'i swyddfa cyfrifydd yn Llanrwst. Mae hi hefyd yn deall y pwysau sydd ar unigolion o redeg busnesau gwledig.

“Daeth y syniad cychwynnol gan Bwyllgor Apêl Llanrwst ar gyfer yr Eisteddfod,” eglurodd Iona, Cadeirydd Pwyllgor Apêl Llanrwst. “Roedden ni’n awyddus i sicrhau bod y dref yn rhan ganolog o'r ŵyl, a bod y manteision economaidd yn cyrraedd y bobl leol, yn ogystal â'r nifer o fusnesau a sefydliadau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Eisteddfod.

“Roedd Llŷr Serw, aelod arall o'r pwyllgor apêl a mab ffarm, eisiau datblygu'r syniad y gallai siop ar safle'r ŵyl fod yn ffenestr siop i rywfaint o'r bwyd a diod gwych a gynhyrchir yma yn Nyffryn Conwy. Ac wrth ddod â blas o dref farchnad Llanrwst i Eisteddfotwyr, mae’n arddangos y gorau o'r hyn sydd gennym i'w chynnig, a hynny am bris cystadleuol, diolch i’r sefydliadau sy’n cefnogi’r fenter. Gobeithio y bydd hefyd yn gadael gwaddol o ymweliad yr Eisteddfod â ni yma yn Sir Conwy,” eglura Iona.

Un o'r cynhyrchwyr sy'n edrych ymlaen at arddangos eu cynnyrch ym Mhantri Crwst yw’r ffermwr, Emyr Hughes o Gae Melwr, Llanrwst. Wrth dyfu gwenith ar gaeau'r fferm ddefaid a llysiau 600 erw, melino’r gwenith ar Ynys Môn, a chynhyrchu blawd ar gyfer ei fecws lleol, mae Emyr wrth ei fodd bod bisgedi a bara ‘O’r Maen’ yn parhau i werthu'n dda yn lleol, chwe blynedd wedi cychwyn y fenter.

“Fe wnaeth Becws Scilicorns, Llanrwst arbrofi dipyn gyda'r cynhwysion a phenderfynu yn y diwedd i ychwanegu rhywfaint o flawd gwyn at y blawd cyflawn i sicrhau’r does berffaith. Mae'r blas yn arbennig, ac mae'n mynd â phobl yn ôl i'r ffurf draddodiadol o bobi bara gan ddefnyddio cynhwysion cwbl naturiol. Toes dim byd yn cael ei ychwanegu i’r 5 cynhwysyn arferol, ac mae’r bara'n blasu'n hyfryd, yn ffres o'r popty wedi'i ledaenu â menyn cartref,” eglura Emyr.

Bydd wyau Cae Melwr hefyd ar werth ym Mhantri Crwst: “Bydd ein 15,000 o ieir maes yn cynhyrchu mwy na digon o wyau i fynychwyr yr Ŵyl yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gobeithio!”

Daeth cefnogaeth ariannol a’r arbenigedd gan Agrisgôp, prosiect Cyswllt Ffermio,sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae Cywain, prosiect Menter a Busnes, sy'n ychwanegu gwerth at gynnyrch Cymreig cynradd o fewn y sector bwyd a diod hefyd wedi cefnogi Pantri Crwst, ac mae cefnogaeth ychwanegol wedi dod gan Conwy Cynhaliol, y rhaglen LEADER ar gyfer Conwy a gefnogir trwy Raglen Datblygu Gwledig Cymru.

Bydd Pantri Crwst ar agor o 4 o’r gloch ymlaen ddydd Gwener 2 o Awst ac yna o 7 y bore tan 9 yr hwyr bob dydd (cau dros ginio) yn ystod cyfnod yr Eisteddfod. Am wybodaeth bellach, ewch i dudalen Facebook @Pantri Crwst


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter