6 Awst 2019

 

Mae Cyswllt Ffermio yn cydlynu ymgyrch “Lleihau Llygredd Amaethyddol’ ar ran is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar lygredd amaethyddol.

Mae is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar lygredd amaethyddol – corff sy’n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Undebau Ffermio ac eraill eisiau ymrwymiad gan ddiwydiant i ddileu llygredd er mwyn adlewyrchu safonau uchel ym myd amaeth yng Nghymru.

Eglurodd Sara Jenkins, Rheolwr Datblygu Menter a Busnes, y bydd Cyswllt Ffermio’n cynnal digwyddiadau mewn 33 o ddalgylchoedd cyrsiau dŵr a nodwyd yn flaenoriaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru dros y misoedd nesaf.

Bydd ffermwyr yn y dalgylchoedd penodol yma yn cael eu hannog i fynychu digwyddiadau er mwyn dysgu mwy am faterion penodol yn eu hardaloedd, a bydd gwybodaeth ymarferol yn cael ei rannu am sut i leihau a gwaredu llygredd amaethyddol yn ogystal â gwella ansawdd dŵr.

Bydd gwybodaeth am wasanaethau Cyswllt Ffermio hefyd ar gael i’r rhai fydd yn mynychu’r digwyddiadau.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i ffermwyr, er mwyn lleihau  nifer yr achosion llygredd yng Nghymru.

“Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar gefnogi ffermwyr i weithredu i leihau llygredd drwy wella rheolaeth tail, slyri a phridd a lleihau’r defnydd o gemegau megis plaladdwyr,” eglurodd.

Mae Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020, drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn cynnig ystod o wasanaethau i gefnogi ffermwyr.

Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys y gwasanaeth cynghori sy’n cynnig cymhorthdal o hyd at 80% i ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gyfer Cynlluniau Rheoli Maetholion neu Gynlluniau Rheoli Maetholion wedi’u hariannu’n llawn fel cyngor grŵp.

Mae cyngor hefyd ar gael yn unigol neu ar sail grŵp ar gyfer cynllunio rheoli a storio slyri a thail buarth, seilwaith fferm yn cynnwys gwahanu dŵr glân a dŵr budr, slyri, storio tail a silwair a nifer o agweddau technegol eraill.

Mae dulliau cefnogi eraill yn cynnwys; gwasanaeth mentora un-i-un, lle gall ffermwyr gael hyd at 22.5 awr o fentora gan ffermwr profiadol arall sydd wedi delio â phroblemau a chyflwyno atebion newydd ar y fferm, a chymorthfeydd cynllunio, lle gall ffermwyr gael mynediad at werth awr o gyngor am ddim gan arbenigwr cynllunio.

“Buaswn yn annog pob ffermwr yng Nghymru i ystyried eu heffaith bosibl ar yr amgylchedd a thrafod eu gofynion unigol gyda’u Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol, fydd yn gallu eu cyfeirio at y cymorth mwyaf priodol.”

“Bydd manteisio ar y gwasanaethau hyn yn dod â budd sylweddol i fusnesau fferm a’r gymuned ehangach a’r economi sy’n dibynnu ar amgylchedd dŵr iach,” meddai Sara Jenkins.

Yn fwy penodol, bydd ffermwyr sydd â thir o gwmpas 28 o gyrsiau dŵr â blaenoriaeth a restrwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn rhaglen gymorth trwy Cyswllt Ffermio i wneud gwelliannau i ansawdd dŵr ffres yn ystod y misoedd nesaf.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â sut i wella ansawdd dŵr, neu os hoffech fynychu un o’r digwyddiadau, dylech gysylltu â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio neu cliciwch yma i gael manylion cyswllt eich Swyddog Datblygu lleol, fydd yn gallu eich arwain drwy’r gwasanaethau.

 

Mae manylion y digwyddiadau fel a ganlyn:

07/08/2019

10:30 - 13:30

Shordley Hall Farm, Hope, Wrecsam, Sir y Fflint LL12 9RT

07/08/2019

11:30 -14:30

Hafod, Blaencillech, Castellnewydd Emlyn SA38 9EP

16/08/2019

10:30 -13:30

Fferm Fron, Hendre, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 5QW

19/08/2019

10:30 -13:30

Plas Llanfihangel, Capel Coch, Llangefni LL77 7UT

11/09/2019

11:00 – 14:00

Wern, Bancyfelin, Caerfyrddin SA33 5NE

 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites