29 Awst 2019
Mae sgorio cyflwr corff mamogiaid wrth ddiddyfnu yn galluogi menter ddefaid yn Sir Gaerfyrddin i rannu mamogiaid yn grwpiau yn ôl eu hanghenion yn y cyfnod cyn hyrdda.
Yn ddiweddar, cynhaliodd Arwel a Gail Jenkins ddigwyddiad trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio ar eu fferm ble bu Dr Liz Genever, arbenigwr defaid annibynnol, yn rhoi cyngor i ffermwyr ar strategaethau i wella canlyniadau hyrdda.
Mae Mr a Mrs Jenkins yn cadw diadell o 400 o famogiaid magu ar fferm Ynysau Uchaf, fferm 80-hectar yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhumsaint.
Dechreuodd y paratoadau ar gyfer hyrdda wrth iddynt ddiddyfnu’r ŵyn yng nghanol mis Gorffennaf trwy sgorio cyflwr corff y mamogiaid a’u rhannu’n grwpiau o famogiaid tenau, tew ac mewn cyflwr delfrydol.
“Mae’n hanfodol ein bod yn dechrau paratoi’r ddiadell ar gyfer hyrdda cyn gynted â phosib, oherwydd os yw’r mamogiaid mewn cyflwr da, byddant yn fwy effeithlon wrth gynhyrchu gefeilliaid ac yn llai dibynnol ar ddwysfwyd ychwanegol,’’ dywedodd Mrs Jenkins.
“Rydym ni wedi darganfod bod gan famogiaid sydd yn y cyflwr gorau posib ar adeg ŵyna lawer o laeth ac mae hyn yn golygu bod angen i ni dreulio llai o amser gyda nhw a’u hŵyn.’’
Ar ôl diddyfnu, mae’r mamogiaid tenau ar fferm Ynysau Uchaf yn pori ar gnydau gwraidd neu laswellt wedi’i ail-hau tra bod y grwpiau eraill yn pori gwndwn hŷn.
Yn ystod y broses ddidoli hon, byddant yn edrych am famogiaid cloff a fydd yn cael eu cadw mewn grŵp ar wahân cyn cael eu hail gyflwyno i’r brif ddiadell ar adeg hyrdda.Byddant hefyd yn edrych ar gegau a chadeiriau’r mamogiaid a bydd unrhyw un sydd wedi torri ei cheg neu sydd â chadair wael yn cael ei gwerthu i’w difa.
Rhybuddiodd Dr Genever ffermwyr rhag gadael y broses ddiddyfnu’n rhy hwyr gan fod angen amser i wella cyflwr corff y mamogiaid cyn hyrdda.
Ei chyngor oedd gadael o leiaf 10 wythnos neu’n hirach fel arfer.
“Sgoriwch gyflwr corff y mamogiaid wrth ddiddyfnu a dyrannu tir pori ar y sail hon gyda’r mamogiaid tenau yn cael y borfa orau,’’ dywedodd.
“Bydd yn cymryd rhwng chwech ac wyth wythnos i gynyddu sgôr cyflwr corff ar borfa dda ac mae angen i nifer o famogiaid wella’n fwy na hynny.’’
Anelwch am sgôr cyflwr corff o 3-3.5 ar gyfer mamogiaid ar dir isel a 3 ar gyfer mamogiaid ucheldir.
Dylech ddifa unrhyw famogiaid nad ydynt yn addas at eu pwrpas.
Mae angen MOT ar hyrddod o leiaf wyth wythnos cyn hyrdda - dylech gynnwys sgorio cyflwr corff ar gyfer y rhain hefyd ac yna eu bwydo os oes angen eu gwella.
Cynlluniwch o flaen llaw ar gyfer pori gan fod angen i famogiaid o leiaf cynnal eu cyflwr yn ystod chwe wythnos gyntaf beichiogrwydd.
“Gweithiwch allan beth rydych chi ei angen ar gyfer y mamogiaid ar ôl diddyfnu a thrwy gydol yr hydref,’’ dywedodd Dr Genever.Gallai hyn helpu hwyluso penderfyniadau fel prynu bwyd ychwanegol neu werthu stoc.
Dywedodd Sarah Hughes, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio (De Orllewin Cymru) ei fod yn hanfodol fod ffermwyr yn meddwl ymlaen gan fod sgorio cyflwr corff yn ystod paru yn dylanwadu ar nifer o agweddau cynhyrchiant defaid.
“Mae yna ffordd syml o asesu sgôr cyflwr y corff ac mae’n bwysig fod ffermwyr yn gwneud hyn drwy roi eu dwylo ar y mamogiaid a pheidio â dibynnu ar asesiad gweledol,’’ dywedodd.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.