Ffeithiau Fferm Graig Olway
Mae Safle Arddangos Graig Olway yn ddaliad 240 hectar (ha) sy’n gweithredu fel menter llaeth, cig eidion a thir âr.
Mae’r busnes yn cael ei redeg gan Russell Morgan a’i fam a’i fodryb, Glenys Morgan a Jane Morgan.
Mae’r fferm yn cynhyrchu llaeth ers i dad-cu a mam-gu Russell brynu’r daliad ym 1946.
Yn 2013 cafodd tri robot godro eu gosod ac ers hynny mae’r fuches dan do o 170 o wartheg Holstein sy'n uchel eu cynnyrch wedi'i chynnal ar y system. Mae’r buchod yn ymweld â’r robot 3.2 gwaith mewn cyfnod o 24 awr ar gyfartaledd.
Mae’r fuches yn cynhyrchu 11,000 litr o laeth y flwyddyn ar gyfartaledd gyda 3.95% o fraster menyn a 3.25% o brotein. Mae’r llaeth yn cael ei werthu i Müller.
Mae’r buchod yn cael deiet o silwair glaswellt ac indrawn a hynny ar ffurf Dogn Cymysg Cyflawn (TMR).
Mae’r heffrod yn lloia pan fyddan nhw’n ddwy oed, a hynny ar system loia drwy’r flwyddyn. Y mynegai lloia yw 405 o ddiwrnodau ar gyfartaledd.
Mae yna 130 o wartheg llaeth i lenwi bylchau ac mae’r epil eraill i gyd yn cael eu pesgi a’u gwerthu i Kepak.
Mae’r fuches sugno cig eidion yn lloia yn y gwanwyn ac mae’n cynnwys croesiadau cyntaf ac ail groesiadau Belgian Blue a Charolais o’r fuches laeth.
Mae 101ha o wenith a barlys yn cael eu tyfu.