Ffeithiau Fferm Llysun
Ffermwyr
- Mae llafur y fferm yn cynnwys un gweithiwr hunangyflogedig rhan amser a dau brentis ar sail rhan amser
Tir
- Mae Llysun yn fferm 700 erw, yn amrywio rhwng 550 troedfedd i 1,400 troedfedd uwch lefel y môr.
- Mae’r tir yn cynnwys 400 erw o dir mynydd.
- Mae mwyafrif y tir wedi cael ei wella dros y ddau ddegawd diwethaf.
- Mae’r fferm yn rhan o gynllun Glastir Uwch.
Da Byw
Defaid
- Mae’r ddiadell yn cynnwys 1,200 mamog miwl Cymreig a Texel croes, gyda 300 o ŵyn benyw.
- Mae’r mamogiaid i gyd yn ŵyna dan do ym mis Mawrth ac yn derbyn silwair ansawdd uchel ad-lib ynghyd â chymysgedd soia 20%.
- Mae’r holl ŵyn yn cael eu pesgi ar laswellt ac yn cael eu gwerthu i Waitrose o ganol mis Mehefin hyd ddechrau mis Tachwedd.
Cnydau
- Mae glaswellt yn cael ei dorri’n gynnar ym mis Mehefin ar gyfer silwair clamp (140 erw ar y toriad cyntaf a 60 erw ar yr ail doriad).
Gwybodaeth ychwanegol
- Mae uned llety hunanarlwyo ar y fferm.
- Buddsoddodd y fferm mewn paneli solar er mwyn darparu ynni adnewyddadwy.