Shordley Hall Farm, Shordley Road, Hope, Wrecsam

Prosiect Safle Ffocws: Effaith ac amlder haploteipiau ffrwythlondeb a diffyg colesterol o fewn y brid du a gwyn.

Nod y prosiect:

Prif fwriad y prosiect yw ymchwilio i effaith ac amlder yr haploteipiau ffrwythlondeb (HH1, HH2, HH3, HH4, HH5) sydd wedi cael eu darganfod o fewn DNA y brid du a gwyn. Bydd y prosiect hefyd yn ymchwilio i ddylanwad y gennyn HCD (Haploteip Diffyg Colesterol) ar gyfradd marwolaeth lloi. Mae technoleg sgrinio genetig newydd a’i argaeledd masnachol wedi datgelu rhai anhwylderau arwyddocaol i’r diwydiant a oedd yn anhysbys o fewn y brid Du a Gwyn yn y gorffennol. Mae’r term “haploteip” yn cyfeirio at grŵp o ddangosyddion SNP (amryffurfedd niwlcleotid sengl) sydd wedi’u lleoli’n agos ar y cromosom ac yn cael eu hetifeddu gyda’i gilydd fel arfer. Mae haploteipiau’n cael eu trosglwyddo gan y fam a’r tad, ac mae eu heffaith, p’un ai’n achosi niwed neu’n dda, yn dibynnu sut mae’r haploteipiau hyn wedi cael eu trefnu yn y lloi. Gan ei bod bellach yn bosibl i adnabod miloedd o haploteipiau ar bob cromosom, mae gan bob un gysylltiad positif, niwtral neu negyddol gyda chynhyrchiant, cyfansoddiad, iechyd a ffrwythlondeb. Mae’n bwysig adnabod a deall pa haploteipiau sy’n achosi effaith negyddol er mwyn bridio o gwmpas hynny i sicrhau nad yw’r effeithiau hyn yn cael eu trosglwyddo.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Erw Fawr
Ceredig a Sara Evans Erw Fawr, Caergybi, Ynys Môn Meysydd
Graig Olway
Russell Morgan Llangyfiw, Brynbuga Meysydd allweddol yr hoffech
Fferm Rhiwaedog
Emyr, Aled a Dylan Jones Fferm Rhiwaedog, Y Bala, Gwynedd Meysydd