Profion genomig ar deirw stoc du a gwyn

Rhys Davies, Swyddog Technegol Llaeth

Bydd llawer o gynhyrchwyr llaeth masnachol yn aml yn defnyddio teirw stoc o fridiau bîff neu laeth i’w cyplu â buchod sy’n ail-ofyn tarw wedi cyfnod o ddefnyddio tarw potel.  Ar hyn o bryd, prynir teirw yn breifat neu trwy arwerthiannau teirw arbenigol, a chânt eu defnyddio’n aml i’w cyplu â heffrod gwasod yn ogystal â buchod.  Yn aml, prynir teirw heb eu profi na’u defnyddio ar sail gwybodaeth am eu rhieni ynghyd â golwg a chydffurfiad y tarw ei hun.  Fodd bynnag, yn sgil datblygiadau diweddar mewn gwerthuso genomig gan AHDB Llaeth ar gyfer y mwyafrif o fridiau gwartheg laeth, bellach gellir dewis teirw stoc ar sail nodweddion pwysig ynghylch iechyd a llaeth.

Cynhaliwyd profion genomi ar dri tharw blwydd sy’n eiddo i Richard a Ruth Pilkington o Shorley Hall yn Wrecsam, trwy law Holstein UK a gwasanaeth gwerthuso genomig AHDB Llaeth.  Dangosai proffiliau genomig y teirw hyn fod manylion dibynadwyedd amrywiaeth o nodweddion rhwng 58% a 68%, sy’n dyblu proffiliau cyfartaledd eu rhieni yn unig.  Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i ddewis y tarw mwyaf priodol i’w droi at eu buches eu hunain, neu i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ddibynadwy i brynwyr am botensial o ran cynhyrchu, iechyd a chydffurfiad.  Yn wir, byddai’r wybodaeth yr un mor ddibynadwy â manylion unrhyw semen o deirw ifanc sydd wedi cael prawf genomig a werthir gan amrywiaeth o gwmnïau bridio.

Tabl 1. Nodweddion cynhyrchu, iechyd a chydffurfiad o broffil genomig tri o’r teirw ifanc a fridiwyd yn Aintree Holsteins

Enw’r tarw

£GPLI

Llaeth (Kg)

Cyfrif celloedd somatig (SCC)

Rhwyddineb lloia uniongyrchol (dCE)

Teilyngdod Math (TM)

Aintree Squire

£522

560

-18

0

2.82

Aintree Sterling

£454

101

-17

-0.1

1.61

Aintree Wesley

£463

417

-12

0.2

2.47

Byddai un o’r teirw, Aintree Squire, ymhlith y 30 tarw ifanc gorau sydd wedi cael prawf genomig yn unol â mynegai teilyngdod math genomig y DU, ac o drwch blewyn, byddai ymhlith y 500 tarw ifanc gorau o ran £PLI (mynegai oes broffidiol) pe bai ar gael yn fasnachol. Hefyd, mae gan y tri tharw werthoedd cyfrif celloedd somatig negyddol ffafriol, ac maent yn uwch na £450 o safbwynt £PLI.  Pe cai’r tri eu defnyddio i’w cyplu â heffrod, byddai’n ddoeth ystyried sgôr rhwyddineb lloia cymharol y tri cyn gwneud defnydd helaeth ohonynt ar heffrod sydd heb gael tarw. Aintree Wesley yw’r gorau o ryw fymryn o blith y tri, o ran rhwyddineb lloia.

Ffigur 1. Enghraifft o fanylion prawf genomig un o’r teirw a brofwyd  

Mae un prawf yn costio oddeutu £100, felly dylai gwerthwyr teirw stoc du a gwyn ystyried y posibilrwydd o brofi a sicrhau y caiff prynwyr yr wybodaeth ychwanegol am ddibynadwyedd a geir trwy brynu tarw sydd wedi cael prawf genomig.  Dylai prynwyr ystyried unrhyw gostau porthi teirw stoc, ynghyd ag argaeledd adeiladau priodol i’w cadw dan do a chyfleusterau i’w trin a’u trafod.