Brechfa, Sir Gaerfyrddin

Prosiect Safle Ffocws: Mapio a Rheoli Halogiad Llyngyr

Nodau'r Prosiect:

  • Ymchwilio agweddau ymarferol a manteision mapio halogiad ar fferm fasnachol mewn ymdrech i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â methiant anthelminitig.
  • Mae angen i ffermwyr ganfod ffyrdd o leihau eu dibyniaeth ar driniaeth llyngyr, gan gynnal perfformiad ŵyn da ar yr un pryd. Bydd y prosiect yn gweithredu agwedd wahanol tuag ar reolaeth llyngyr gan anelu at leihau poblogaeth llyngyr ar fferm yn hytrach na derbyn baich llyngyr eang a thrin gydag anthelminitigau.
  • Mae mapio halogiad a systemau rheoli parasitiaid integredig yn cynnig cam ymhellach i samplu cyfrif wyau ysgarthol (FEC) trwy adnabod y caeau sydd â’r baich mwyaf.
  • Bydd adnabod y caeau sydd wedi’u heffeithio waethaf yn cynorthwyo i reoli pa fath o dda byw sy’n pori ym mha gae, ac yn adnabod caeau lle gellir targedu rheolaeth wahanol er mwyn lleihau baich.
  • Bydd samplau cyfrif wyau ysgarthol yn cael eu casglu a bydd ffurflen casglu data’n cael ei chwblhau gan gynnwys enw grŵp, enw’r cae, dyddiad mynd i mewn a gadael y cae a nifer y mamogiaid a’r ŵyn ym mhob grŵp. Bydd hyn yn creu darlun o ba gaeau sydd â’r mwyaf o lyngyr yn bresennol ac yn galluogi gwell penderfyniadau rheolaeth ynglŷn â pha gaeau y mae’r ŵyn yn eu pori. Gall gwartheg bori rhai caeau er mwyn lleihau’r baich llyngyr.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Pengelli
Ffordd Bethel, Caernarfon Prosiect Safle Ffocws: Trosi uned bori
Penybont
Penybont, Tregaron, Ceredigion Prosiect Safle Ffocws: Godro
The Fruit Farm
Llanfihangel Crucornau, Y Fenni Prosiect Safle Ffocws