Diweddariad: Sicrhau’r gwerth gorau ar gyfer ŵyn ar gnwd Llyriad (Plantain)
Menna Williams, Swyddog Technegol Cig Coch
Y gymysgedd hadau a heuwyd yn 2014 oedd -
Roderick Special (Llyriad) 6kg/erw |
ABERDAI Trifolium repens – 12.5% meillion gwyn |
CRUSADER Trifolium repens – 12.5% meillion gwyn |
CORVUS Trifolium pratense – 25% meillion coch |
Agric TONIC Plantain Plantago – 50% |
Canlyniadau’r Prosiect:
Mae’r tabl isod yn cymharu perfformiad y llyriad yn dilyn y tymor pori cyntaf a’r trydydd tymor pori.
|
2014 |
2016 |
Cynnydd pwysau byw fesul diwrnod (g) |
223g |
246g |
Canran lladd yr ŵyn a oedd yn rhan o’r arbrawf |
45% |
46% |
Graddau’r ŵyn |
43% U, 57% R |
6% E, 36% U, 58% R gyda 5% o fraster |
Cyfanswm dyddiau pori fesul hectar |
4201 |
3360 |
Yn gyffredinol, mae’r llyriad wedi cynnal ei berfformiad ar ôl cael ei bori deirgwaith. Mae’n amlwg bod lleihad mewn cynhyrchiant o’r llyriad, a gellir gweld hyn yng nghyfanswm dyddiau pori’r cnwd. Mae hyn o ganlyniad i leihad naturiol mewn niferoedd planhigion llyriad o ganlyniad i fwy o gystadleuaeth gan chwyn, afiechydon, plâu a da byw sy’n pori. Gan nad yw llyriad yn cystadlu’n dda, mae angen i systemau rheoli pori sicrhau nad yw rhywogaethau eraill yn y borfa’n mygu’r llyriad.
Roedd Richard yn teimlo bod y llyriad angen mwy o ofal a sylw o’i gymharu â gwyndonnydd glaswellt a meillion, a’r prif broblem gyda llyriad yw nad oes modd ei silweirio na’i bori dros fisoedd y gaeaf. O ganlyniad, nid yw Richard yn rhagweld y bydd yn hau llyriad yn y dyfodol agos ac mae’n teimlo bod gwyndonnydd glaswellt a meillion wedi’u rheoli’n dda yn gallu cynnig perfformiad tebyg iddo gyda mwy o hyblygrwydd o ran cynhyrchu silwair a phori dros y gaeaf.