Prosiect Safle Arddangos- Fferm Plas
Ffermio manwl gywir a monitro cnydau gan ddefnyddio technoleg Delweddu Lloeren NDVI
Nodau’r Prosiect:
- Arddangos y dechnoleg ddiweddaraf a’i ddefnydd ym maes ffermio manwl gywir i arwain effeithlonrwydd a chynhyrchiant mewn system tir glas a thir âr.
Amcan Strategol:
- Bydd y prosiect hwn yn gweithio tuag at yr amcan strategol o gynyddu allbwn ar y fferm o’r sector cig coch yng Nghymru, trwy sicrhau’r allbynnau gorau oddi ar system yn seiliedig ar laswellt a lleihau dibyniaeth ar fwydydd a brynir i mewn.
Nodweddion ymarferol y prosiect:
- Bydd 150 erw (60ha) cymysg o dir glas a thir âr yn cael ei fapio mewn manylder ar fferm Plas gan ddefnyddio offer sganio Veris.
- Mae’r ddyfais yn mesur dargludedd trydan y pridd ar ddau ddyfnder - 30cm a 90cm.
- Bydd y data wedyn cael ei ddehongli er mwyn creu map pridd sy’n dangos yr amrywiaeth o fewn y cae, a fydd wedyn yn cael ei rannu’n barthau rheoli.
- Mae pob parth rheoli’n cael ei samplu i ddarparu sampl cynrychioladol ar gyfer pob ardal ac yn cael ei anfon i’r labordy i gael ei ddadansoddi i bennu statws maeth a gwead y pridd.
Diweddariad y Prosiect:
Cyhoeddiad Technegol (Rhifyn 17, tudalen 10): Prawf N-min - Buddiol i'r ffermwr a'r amgylchedd
Lleihau’r Defnydd o Wrthfiotig adeg Ŵyna
Nodau’r prosiect:
- Sicrhau bod y mamogiaid yn y cyflwr gorau posib yn ystod y cyfnod ŵyna er mwyn cynhyrchu digon o golostrwm o ansawdd uchel i leihau'r defnydd o driniaeth wrthfiotig fel mesur rhagofalus.
- Archwilio rôl colostrwm ym mherfformiad ŵyn.
Amcanion strategol:
- Lleihau'r defnydd o wrthfiotigau ac annog defnydd mwy cyfrifol o feddyginiaethau
- Gwella perfformiad ŵyn
Nodweddion ymarferol y prosiect:
- Tair wythnos cyn ŵyna, byddwn yn sgorio cyflwr corff y mamogiaid a bydd samplau gwaed yn cael eu dadansoddi er mwyn creu proffil metabolig. Mae'r proffil metabolig yn mesur lefelau egni, protein, mwynau ac elfennau hybrin ac yn caniatáu amser i addasu'r diet cyn ŵyna er mwyn lleihau peryglon iechyd.
- Bydd samplau gwaed yn cael eu casglu gan 44 oen – cymysgedd o ŵyn sengl, gefeilliaid a thripledi yn 2-5 diwrnod oed a byddant yn cael eu profi ar gyfer lefel imiwnoglobwlin, sy'n rhoi syniad o ansawdd a faint o golostrwm sydd wedi cael ei amsugno.
- Bydd yr ŵyn hefyd yn cael eu pwyso ar y diwrnod samplu ac yn derbyn tag adnabod ar gyfer y dyfodol i fonitro cyfradd twf a baich llyngyr. Yn ystod y tymor, bydd samplau cyfrif wyau ysgarthol (FEC) yn cael eu cymryd gan yr ŵyn hyn er mwyn monitro eu baich llyngyr.
- Bydd 30 o ŵyn ychwanegol yn cael eu sgrinio ar gyfer lefelau imiwnoglobwlin gan ddefnyddio refractometer a bydd hyd at 10 oen sâl yn cael eu samplu i asesu lefelau amsugniad colostrwm.
- Bydd ŵyn yn cael eu pwyso ar enedigaeth, yn wyth wythnos oed ac yn y lladd-dy i fonitro eu cyfraddau twf. Bydd unrhyw broblemau iechyd hefyd yn cael eu cofnodi.
Diweddariad y prosiect:
- Cafodd nifer cynrychiadol o famogiaid o’r garfan gyntaf i ŵyna dynnu samplau gwaed ar ddiwedd mis Rhagfyr 2016, ac anfonwyd y samplau i ffwrdd i ganfod eu Proffil Metabolig.
- Gyda’i gilydd, samplwyd 24 o famogiaid, 8 gyda thripledi, 8 gyda gefeilliaid ac 8 gydag ŵyn sengl. Roedd y canlyniadau ar gyfer mamogiaid oedd yn cario ŵyn unigol yn foddhaol, ond roedd y mamogiaid a oedd yn cario ŵyn sengl yn brin o egni.
- O ganlyniad, bydd y mamogiaid yma nawr yn derbyn 720g o ddwysfwyd y dydd ar gyfer tair wythnos olaf y beichiogrwydd, 120g yn fwy na'r hyn y byddent wedi'i dderbyn pe na fyddent wedi cael eu profi.
- Bydd y cyfnod ŵyna’n dechrau ar y 19eg Ionawr 2017, gyda’r garfan gyntaf o ŵyn i gael eu profi ar gyfer amsugniad colostrwm o gwmpas y 1af Chwefror.
Diweddariad y Prosiect:
Cyhoeddiad Technegol (Rhifyn 13, tudalen 15): Ffermwyr defaid Môn yn arwain y frwydr yn erbyn Gwrthedd Gwrthficrobaidd
Erthygl: Pwysleisio manteision cadarnhaol maethiad da wrth gynhyrchu anifeiliaid