Prosiect Safle Arddangos- Fferm Plas

Ffermio manwl gywir a monitro cnydau gan ddefnyddio technoleg Delweddu Lloeren NDVI

 

Nodau’r Prosiect:

  • Arddangos y dechnoleg ddiweddaraf a’i ddefnydd ym maes ffermio manwl gywir i arwain effeithlonrwydd a chynhyrchiant mewn system tir glas a thir âr.

Amcan Strategol:

  • Bydd y prosiect hwn yn gweithio tuag at yr amcan strategol o gynyddu allbwn ar y fferm o’r sector cig coch yng Nghymru, trwy sicrhau’r allbynnau gorau oddi ar system yn seiliedig ar laswellt a lleihau dibyniaeth ar fwydydd a brynir i mewn.

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Bydd 150 erw (60ha) cymysg o dir glas a thir âr yn cael ei fapio mewn manylder ar fferm Plas gan ddefnyddio offer sganio Veris.
  • Mae’r ddyfais yn mesur dargludedd trydan y pridd ar ddau ddyfnder - 30cm a 90cm.
  • Bydd y data wedyn cael ei ddehongli er mwyn creu map pridd sy’n dangos yr amrywiaeth o fewn y cae, a fydd wedyn yn cael ei rannu’n barthau rheoli.
  • Mae pob parth rheoli’n cael ei samplu i ddarparu sampl cynrychioladol ar gyfer pob ardal ac yn cael ei anfon i’r labordy i gael ei ddadansoddi i bennu statws maeth a gwead y pridd.

Diweddariad y Prosiect:

Cyhoeddiad Technegol (Rhifyn 17, tudalen 10): Prawf N-min - Buddiol i'r ffermwr a'r amgylchedd


Lleihau’r Defnydd o Wrthfiotig adeg Ŵyna

Nodau’r prosiect:

  • Sicrhau bod y mamogiaid yn y cyflwr gorau posib yn ystod y cyfnod ŵyna er mwyn cynhyrchu digon o golostrwm o ansawdd uchel i leihau'r defnydd o driniaeth wrthfiotig fel mesur rhagofalus.
  • Archwilio rôl colostrwm ym mherfformiad ŵyn.

Amcanion strategol:

  • Lleihau'r defnydd o wrthfiotigau ac annog defnydd mwy cyfrifol o feddyginiaethau
  • Gwella perfformiad ŵyn

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Tair wythnos cyn ŵyna, byddwn yn sgorio cyflwr corff y mamogiaid a bydd samplau gwaed yn cael eu dadansoddi er mwyn creu proffil metabolig. Mae'r proffil metabolig yn mesur lefelau egni, protein, mwynau ac elfennau hybrin ac yn caniatáu amser i addasu'r diet cyn ŵyna er mwyn lleihau peryglon iechyd.
  • Bydd samplau gwaed yn cael eu casglu gan 44 oen – cymysgedd o ŵyn sengl, gefeilliaid a thripledi yn 2-5 diwrnod oed a byddant yn cael eu profi ar gyfer lefel imiwnoglobwlin, sy'n rhoi syniad o ansawdd a faint o golostrwm sydd wedi cael ei amsugno.
  • Bydd yr ŵyn hefyd yn cael eu pwyso ar y diwrnod samplu ac yn derbyn tag adnabod ar gyfer y dyfodol i fonitro cyfradd twf a baich llyngyr. Yn ystod y tymor, bydd samplau cyfrif wyau ysgarthol (FEC) yn cael eu cymryd gan yr ŵyn hyn er mwyn monitro eu baich llyngyr.
  • Bydd 30 o ŵyn ychwanegol yn cael eu sgrinio ar gyfer lefelau imiwnoglobwlin gan ddefnyddio refractometer a bydd hyd at 10 oen sâl yn cael eu samplu i asesu lefelau amsugniad colostrwm.
  • Bydd ŵyn yn cael eu pwyso ar enedigaeth, yn wyth wythnos oed ac yn y lladd-dy i fonitro eu cyfraddau twf. Bydd unrhyw broblemau iechyd hefyd yn cael eu cofnodi.

Diweddariad y prosiect:

  • Cafodd nifer cynrychiadol o famogiaid o’r garfan gyntaf i ŵyna dynnu samplau gwaed ar ddiwedd mis Rhagfyr 2016, ac anfonwyd y samplau i ffwrdd i ganfod eu Proffil Metabolig.
  • Gyda’i gilydd, samplwyd 24  o famogiaid, 8 gyda thripledi, 8 gyda gefeilliaid ac 8 gydag ŵyn sengl. Roedd y canlyniadau ar gyfer mamogiaid oedd yn cario ŵyn unigol yn foddhaol, ond roedd y mamogiaid a oedd yn cario ŵyn sengl yn brin o egni.
  • O ganlyniad, bydd y mamogiaid yma nawr yn derbyn 720g o ddwysfwyd y dydd ar gyfer tair wythnos olaf y beichiogrwydd, 120g yn fwy na'r hyn y byddent wedi'i dderbyn pe na fyddent wedi cael eu profi.
  • Bydd y cyfnod ŵyna’n dechrau ar y 19eg Ionawr 2017, gyda’r garfan gyntaf o ŵyn i gael eu profi ar gyfer amsugniad colostrwm o gwmpas y 1af Chwefror.

Diweddariad y Prosiect:

Cyhoeddiad Technegol (Rhifyn 13, tudalen 15): Ffermwyr defaid Môn yn arwain y frwydr yn erbyn Gwrthedd Gwrthficrobaidd

Erthygl: Mae gwella hylendid a rheolaeth y famog yn anelu at leihau’r defnydd o wrthfiotigau yn ystod y cyfnod ŵyna

Erthygl: Pwysleisio manteision cadarnhaol maethiad da wrth gynhyrchu anifeiliaid