Cyflwyniad i'r Prosiect Rheoli Parasitiaid
Parasitiaid mewnol yw un o’r afiechydon mwyaf cyffredin a phwysicaf y mae’n rhaid i ffermwyr da byw ymdrin â nhw yn ddyddiol. Bydd y Prosiect Monitro Parasitiaid yn monitro baich y parasitiaid ar ddeg fferm ffocws ledled Cymru ac yn cyflwyno adroddiad ar y canfyddiadau er mwyn helpu ffermwyr eraill i ddeall yn well sut i reoli llyngyr a – gobeithio – i osgoi ymwrthedd i driniaethau.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar barasitiaid mewnol y stumog (llyngyr) a bydd cyfrifiad wyau ysgarthol (FEC) yn cael ei ddefnyddio’n gyson i fonitro baich y llyngyr mewn defaid a gwartheg. Yn ogystal â chyflwyno adroddiadau am y baich a geir trwy’r tymor, bydd y prosiect hefyd yn cyflwyno adroddiad am unrhyw newidiadau mewn rheolaeth llyngyr ar y ffermydd fel amseru a dewis triniaethau.
Bydd pob un o’r ffermydd yn cael sesiynau ymgynghori pwrpasol er mwyn rhoi’r cyngor a’r argymhellion diweddaraf gan y mentrau SCOPS (www.scops.org.uk) a COWS (www.cattleparasites.org.uk) ar waith er mwyn i ffermwyr eraill ddysgu o’u profiadau. Lle bo modd, bydd pob fferm yn profi effeithiolrwydd triniaethau yn erbyn llyngyr neu’r ymwrthedd iddyn nhw a bydd hyn yn galluogi’r ffermwyr ffocws i reoli sefyllfaoedd lle mae mwy nag un math o ymwrthedd yn bresennol.
Gwelwyd adroddiadau niferus bod ymwrthedd i driniaethau llyngyr a ddefnyddir mewn defaid yn gyffredin erbyn hyn. Dangosodd canfyddiadau prosiect WAARD gan HCC yn 2015 fod gan 60% o’r ffermydd yn yr astudiaeth ymwrthedd ar ryw lefel i’r bob un o’r tri phrif grŵp o driniaethau rhag llyngyr (1BZ, 2LV, 3ML). (Gweler yr adroddiad llawn ar www.hccmpw.org.uk).
Er gwaethaf llwyddiant da mewn gwaith codi ymwybyddiaeth, does dim gwir newid wedi bod ar arferion y ffermydd ac nid yw’r mwyafrif o ffermwyr yn mynd ati’n rheolaidd i fonitro cyfrifiadau wyau nac yn gwybod eu statws o ran gwrthsefyll triniaethau. Bydd y prosiect hwn yn gweld a all technoleg i sicrhau bod profion FEC ar gael yn fwy hwylus ac yn haws i’w defnyddio newid y duedd hon.
Manylion y Prosiect:
- Bydd y prosiect yn rhedeg i ddechrau am gyfnod o chwe mis rhwng mis Mawrth a mis Medi 2019 a chaiff ei reoli gan Techion.
- Yn y cyfnod cychwynnol o chwe mis, defnyddir deg o ffermydd mewn ardaloedd daearyddol gwahanol yng Nghymru. Dewisir y ffermydd o blith y safleoedd yn rhwydwaith arddangos presennol Cyswllt Ffermio.
- Bydd Techion yn cydgysylltu â milfeddyg y fferm ei hun i sicrhau ein bod yn cyd-fynd â’r cyngor milfeddygol a’r cynlluniau iechyd pwrpasol.
-
- Bod yr wybodaeth sy’n cael ei defnyddio mewn unrhyw waith trosglwyddo gwybodaeth ar gael mewn amser real ac nad oes dim gohirio oherwydd cofnodi data.
- Y gall y canlyniadau gael eu gosod i gael eu copïo’n awtomatig i filfeddyg y fferm ac i unrhyw ymchwilwyr eraill / swyddogion technegol os dymunir.
- Profir ar gyfer ymwrthedd anthelmintig / effeithiolrwydd triniaethau anthelmintig drwy ddilyn protocolau sy’n cadw at ganllawiau SCOPS. Ceir prawf cadarn sy’n defnyddio canlyniadau cynt a chwedyn ar grŵp bach o anifeiliaid. Technegwyr fferm fydd yn gwneud y gwaith trin a samplu ar ddiwrnod cyntaf y prawf, gan adael cyfarwyddiadau clir i’r ffermwyr a fydd yn cymryd rhan ynghylch sut i gasglu’r samplau ar ôl i’r anifeiliaid gael eu trin.
- Caiff pob fferm yr hyn sy’n gyfwerth â dau ddiwrnod o gyngor technegol.
- Bydd y prosiect yn edrych ar reoli parasitiaid mewn defaid ac mewn gwartheg lle bo’n gymwys.
Yr heriau
- Mae parasitiaid yn cyfyngu’n sylweddol ar gynhyrchedd / proffidioldeb anifeiliaid
- Mae parasitiaid yn gostwng imiwnedd ac yn effeithio ar iechyd anifeiliaid yn gyffredinol
- Methu sylweddoli bod ymwrthedd y llyngyr yn erbyn cynhwysion actif yn cynyddu (bod y triniaethau’n methu)
- Mae gwaith rheoli gwael yn peryglu cyfanrwydd y gadwyn gyflenwi ac yn peryglu cyfleoedd ffermydd da byw yn y farchnad yn y dyfodol
Cynnydd y prosiect hyd yn hyn
- Llwyddwyd i recriwtio cyfanswm o ddeg o ffermydd ac mae’r rhain wedi’u rhestru isod.
- Bydd tair fferm yn canolbwyntio’n bennaf ar reoli parasitiaid mewn gwartheg a bydd y saith arall yn canolbwyntio ar ddefaid.
- Mae’r system FECPAKG2 wedi’i gosod ar un fferm (David Lewis) ac mae’r lleill yn cyflwyno samplau i labordy Techion tra byddant yn disgwyl i’r system gael ei gosod cyn diwedd mis Ebrill (ar ôl wyna neu ar ôl troi’r gwartheg allan).
Rhestr o’r ffermydd sy’n cymryd rhan
|
Enw’r Ffermwr |
Enw’r fferm |
Cyfeiriad 1 |
Sir |
Prif ffocws |
|
John a Ianto Pari |
Fferm Carreg Plas |
Aberdaron |
Gwynedd |
Gwartheg |
|
David Lewis |
Halghton Hall |
Bangor Is-coed |
Wrecsam |
Defaid |
|
James Powell |
Dolygarn |
Llanbadarn Fynydd |
Powys |
Defaid |
|
David Jones |
Fferm Hardwick |
Y Fenni |
Sir Fynwy |
Gwartheg (Heffrod Llaeth) |
|
Irwel Jones |
Aberbranddu |
Pumsaint |
Llanwrda |
Defaid |
|
Glyn Davies |
Cothivale |
Crug-y-bar |
Sir Gaerfyrddin |
Defaid |
|
Rhodri Lloyd-Williams |
Moelgolomen |
Tal-y-bont |
Ceredigion |
Defaid |
|
Gareth Thomas |
Tregyrnig |
Bae Cemaes |
Ynys Môn |
Gwartheg |
|
Hywel Davies |
Celyn Mawr |
Llanwddyn |
Powys |
Defaid |
|
Nicola Drew |
Fferm y Coleg |
Trefeca |
Powys |
Defaid |