Cyflwyniad i'r Prosiect Rheoli Parasitiaid

Parasitiaid mewnol yw un o’r afiechydon mwyaf cyffredin a phwysicaf y mae’n rhaid i ffermwyr da byw ymdrin â nhw yn ddyddiol. Bydd y Prosiect Monitro Parasitiaid yn monitro baich y parasitiaid ar ddeg fferm ffocws ledled Cymru ac yn cyflwyno adroddiad ar y canfyddiadau er mwyn helpu ffermwyr eraill i ddeall yn well sut i reoli llyngyr a – gobeithio – i osgoi ymwrthedd i driniaethau.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar barasitiaid mewnol y stumog (llyngyr) a bydd cyfrifiad wyau ysgarthol (FEC) yn cael ei ddefnyddio’n gyson i fonitro baich y llyngyr mewn defaid a gwartheg.  Yn ogystal â chyflwyno adroddiadau am y baich a geir trwy’r tymor, bydd y prosiect hefyd yn cyflwyno adroddiad am unrhyw newidiadau mewn rheolaeth llyngyr ar y ffermydd fel amseru a dewis triniaethau.

Bydd pob un o’r ffermydd yn cael sesiynau ymgynghori pwrpasol er mwyn rhoi’r cyngor a’r argymhellion diweddaraf gan y mentrau SCOPS (www.scops.org.uk) a COWS (www.cattleparasites.org.uk) ar waith er mwyn i ffermwyr eraill ddysgu o’u profiadau. Lle bo modd, bydd pob fferm yn profi effeithiolrwydd triniaethau yn erbyn llyngyr neu’r ymwrthedd iddyn nhw a bydd hyn yn galluogi’r ffermwyr ffocws i reoli sefyllfaoedd lle mae mwy nag un math o ymwrthedd yn bresennol.

Gwelwyd adroddiadau niferus bod ymwrthedd i driniaethau llyngyr a ddefnyddir mewn defaid yn gyffredin erbyn hyn. Dangosodd canfyddiadau prosiect WAARD gan HCC yn 2015 fod gan 60% o’r ffermydd yn yr astudiaeth ymwrthedd ar ryw lefel i’r bob un o’r tri phrif grŵp o driniaethau rhag llyngyr (1BZ, 2LV, 3ML). (Gweler yr adroddiad llawn ar www.hccmpw.org.uk).

Er gwaethaf llwyddiant da mewn gwaith codi ymwybyddiaeth, does dim gwir newid wedi bod ar arferion y ffermydd ac nid yw’r mwyafrif o ffermwyr yn mynd ati’n rheolaidd i fonitro cyfrifiadau wyau nac yn gwybod eu statws o ran gwrthsefyll triniaethau. Bydd y prosiect hwn yn gweld a all technoleg i sicrhau bod profion FEC ar gael yn fwy hwylus ac yn haws i’w defnyddio newid y duedd hon.

 

Manylion y Prosiect:

  • Bydd y prosiect yn rhedeg i ddechrau am gyfnod o chwe mis rhwng mis Mawrth a mis Medi 2019 a chaiff ei reoli gan Techion.
  • Yn y cyfnod cychwynnol o chwe mis, defnyddir deg o ffermydd mewn ardaloedd daearyddol gwahanol yng Nghymru. Dewisir y ffermydd o blith y safleoedd yn rhwydwaith arddangos presennol Cyswllt Ffermio.
  • Bydd Techion yn cydgysylltu â milfeddyg y fferm ei hun i sicrhau ein bod yn cyd-fynd â’r cyngor milfeddygol a’r cynlluniau iechyd pwrpasol.
    • Bod yr wybodaeth sy’n cael ei defnyddio mewn unrhyw waith trosglwyddo gwybodaeth ar gael mewn amser real ac nad oes dim gohirio oherwydd cofnodi data.
    • Y gall y canlyniadau gael eu gosod i gael eu copïo’n awtomatig i filfeddyg y fferm ac i unrhyw ymchwilwyr eraill / swyddogion technegol os dymunir.
  • Profir ar gyfer ymwrthedd anthelmintig / effeithiolrwydd triniaethau anthelmintig drwy ddilyn protocolau sy’n cadw at ganllawiau SCOPS. Ceir prawf cadarn sy’n defnyddio canlyniadau cynt a chwedyn ar grŵp bach o anifeiliaid. Technegwyr fferm fydd yn gwneud y gwaith trin a samplu ar ddiwrnod cyntaf y prawf, gan adael cyfarwyddiadau clir i’r ffermwyr a fydd yn cymryd rhan ynghylch sut i gasglu’r samplau ar ôl i’r anifeiliaid gael eu trin.
  • Caiff pob fferm yr hyn sy’n gyfwerth â dau ddiwrnod o gyngor technegol.
  • Bydd y prosiect yn edrych ar reoli parasitiaid mewn defaid ac mewn gwartheg lle bo’n gymwys.

Yr heriau

  • Mae parasitiaid yn cyfyngu’n sylweddol ar gynhyrchedd / proffidioldeb anifeiliaid
  • Mae parasitiaid yn gostwng imiwnedd ac yn effeithio ar iechyd anifeiliaid yn gyffredinol
  • Methu sylweddoli bod ymwrthedd y llyngyr yn erbyn cynhwysion actif yn cynyddu (bod y triniaethau’n methu)
  • Mae gwaith rheoli gwael yn peryglu cyfanrwydd y gadwyn gyflenwi ac yn peryglu cyfleoedd ffermydd da byw yn y farchnad yn y dyfodol

Cynnydd y prosiect hyd yn hyn

  • Llwyddwyd i recriwtio cyfanswm o ddeg o ffermydd ac mae’r rhain wedi’u rhestru isod.
  • Bydd tair fferm yn canolbwyntio’n bennaf ar reoli parasitiaid mewn gwartheg a bydd y saith arall yn canolbwyntio ar ddefaid.
  • Mae’r system FECPAKG2 wedi’i gosod ar un fferm (David Lewis) ac mae’r lleill yn cyflwyno samplau i labordy Techion tra byddant yn disgwyl i’r system gael ei gosod cyn diwedd mis Ebrill (ar ôl wyna neu ar ôl troi’r gwartheg allan).

Rhestr o’r ffermydd sy’n cymryd rhan

Enw’r Ffermwr

Enw’r fferm

Cyfeiriad 1

Sir

Prif ffocws

John a Ianto Pari

Fferm Carreg Plas

Aberdaron

Gwynedd

Gwartheg

David Lewis

Halghton Hall

Bangor Is-coed

Wrecsam

Defaid

James Powell

Dolygarn

Llanbadarn Fynydd

Powys

Defaid

David Jones

Fferm Hardwick

Y Fenni

Sir Fynwy

Gwartheg (Heffrod Llaeth)

Irwel Jones

Aberbranddu

Pumsaint

Llanwrda

Defaid

Glyn Davies

Cothivale

Crug-y-bar

Sir Gaerfyrddin

Defaid

Rhodri Lloyd-Williams

Moelgolomen

Tal-y-bont

Ceredigion

Defaid

Gareth Thomas

Tregyrnig

Bae Cemaes

Ynys Môn

Gwartheg

Hywel Davies

Celyn Mawr

Llanwddyn

Powys

Defaid

Nicola Drew

Fferm y Coleg

Trefeca

Powys

Defaid