11 Rhagfyr 2019

 

Cefndir

Mae tystiolaeth sylweddol o gynlluniau treialu yn Seland Newydd, Iwerddon a’r Deyrnas Unedig sy’n awgrymu bod mantais sylweddol o gael mwy o amrywiaeth o rywogaethau yn y gwndwn pori am sawl rheswm;

  • Mae mwy o ddyfnder i’r gwraidd a mwy o amrywiaeth yn cael effaith gadarnhaol ar strwythur y pridd
  • Mae strwythurau gwreiddiau amrywiol gydag archwys amrywiol yn galluogi i fwy o fwynau o’r pridd gael eu cymryd i leihau’r ddibyniaeth ar wrtaith cemegol
  • Manteision iechyd i’r rwmen oherwydd bod anifeiliaid yn cael mwy o amrywiaeth wrth bori
  • Lleihau’r nitradau sy’n colli oherwydd cyfuniad o lai o grynhoad o nitradau mewn wrin, a chreu wrin yn amlach, ond llai o gyfaint oherwydd effaith diwretig rhywogaethau o lysiau
  • Gallu goddef ychydig o leithder (mwy o ddefnydd o leithder)
  • Mwy o’r prif fwynau yn cael eu cymryd gan gilgnowyr sydd yn aml ar goll mewn gwndwn rhygwellt parhaol (PRG) unfath, yn arbennig copr a seleniwm

Trwy ail-hadu trwy gyfrwng trin y tir yn llawn llwyddir i gyflawni’r targed o 30+% o gynnwys sych yn y borfa yn gyson, ond mae’n amlwg bod y ganran o’r llysiau yn gostwng yn raddol i’r pwynt, ar ôl 3 i 4 blynedd ei fod yn debygol o fod yn llai na 10 y cant o gynnwys sych y gwndwn.

Nid yw’n gwneud synnwyr economaidd i ail-hadu yn llawn bob 3 i 4 blynedd gan y byddai hyn yn cyfateb i 25 i 33 y cant o’r ardal bori i gyd yn flynyddol. I’r diben hwn mae’r cynllun treialu hwn yn ceisio dod o hyd i ffordd i ail-gyflwyno llyriaid ac ysgellog yn ôl i’r gwndwn rhygwellt parhaol fel y gellir osgoi ail-hadu yn llawn am gyfnod o 10 mlynedd o leiaf.

Amcan y cynllun treialu hwn yn archwilio rhai o’r dulliau hau sydd fwyaf tebygol o gyflawni’r targed y gellid ei ailadrodd gan ffermwyr llaeth sy’n gweithredu yr hyn sy’n cael ei ystyried yn system ffermio gonfensiynol gan weithredu system bori gylchdro 18 i 25 diwrnod pan fydd y borfa yn tyfu ar ei gorau ac yn defnyddio gwrtaith nitrogen cemegol i gyflymu’r twf trwy’r cyfnod hwn.

Mae nifer fawr o ddewisiadau llysieuol ar gael; dylai treialon yn y dyfodol gynnwys mathau gwahanol i gynnig dewis gwahanol i feillion i sefydlogi nitrogen, ond yn yr achos hwn, fe wnaethom benderfynu treialu llyriaid ac ysgellog (y cyfeirir atynt fel ll/y yn yr adroddiad hwn) gan ein bod yn teimlo mai dyma’r llysiau mwyaf profedig oedd ar gael.

Cyflenwyd yr hadau gan Germinal UK. Y mathau a ddefnyddiwyd: Puna II cichorium a Llyriaid Aaric Tonic.

Dull

Ystyriwyd sawl dull o hau. Isod mae rhai o’r ystyriaethau a wrthodwyd a’r rhesymau pam:

  • Chwalu hadau gyda gwrtaith y diwrnod cyn i wartheg bori’r cae, gan anelu i’r carnau greu cyswllt â’r pridd.
    • Roeddem yn teimlo bod hwn yn ddull llawn risg y gwelwyd ei weithredu a chael canlyniadau gwael; oherwydd costau’r hadau, roedd yn cael ei ystyried yn annhebygol y byddai ffermwyr yn cymryd risg o’r fath.
  • Defnyddio peiriant trin y tir i amharu’n sylweddol ar y borfa fel bod tua 50% o’r pridd yn y golwg, gan leihau’r pwysedd gan y rhygwellt yn cystadlu i’r llysiau gael sefydlu.
    • Ddim y addas gan y byddai hyn yn achosi risg y byddai chwyn yn ymsefydlu; nid oes unrhyw gemegolion diogel ar gyfer llyriaid/ysgellog i ladd unrhyw chwyn.
  • Defnyddio ychydig iawn o glyphosate i atal y planhigyn rhygwellt i leihau’r gystadleuaeth trwy’r cyfnod pan fydd y llysiau yn ymsefydlu.  Drilio hadau’r llysiau.
    • Mae unrhyw ffermwr sy’n ystyried cyflwyno gwndwn gwahanol yn debygol o wneud hynny am gyfuniad o resymau gan gynnwys rhai amgylcheddol; ni fyddai defnyddio glyphosate yn cyd-fynd â hyn.

Byddai angen i’r dull a ddefnyddir amharu cyn lleied â phosibl ar y pridd i atal chwyn rhag ymsefydlu ond eto adael i’r llysiau egino ar y lefel orau gyda chyn lleied o gystadleuaeth â phosibl gan y planhigion rhygwellt yn y gwndwn.

Y ddau ddull y cytunwyd arnynt ar gyfer eu cynnwys yn y cynllun treialu oedd:

  • Defnyddio dril hau Atchinson i hau’r hadau ar ddyfnder o lai na 3cm ar ôl i’r cae gael ei bori i lawr i 4cm
  • Defnyddio peiriant trin Eibock gyda blwch hadau i agor rhych yn y borfa a gollwng hadau yn y pridd fyddai yn y golwg, ar ôl pori i lawr i 4cm

Ystyriwyd sawl padog. Dadansoddwyd y gwndwn fel yr oedd gyda’r targed o hau 10% o’r llwyfan godro a dim ond gwndwn oedd yn rhygwellt yn unig ac yn “agored” gyda rhywfaint o bridd yn dangos ar ôl haf sych 2018.

Gweler y map o’r padogau a gynhwyswyd yn y cynllun treialu:

Wrth ail-hadu yn llawn, disgwylir i gyfradd o 2.5kg Ll/Y yr hectar arwain at 20-30% o’r gwndwn yn llysiau ar ôl iddynt ymsefydlu; fe wnaethom ddefnyddio cyfradd o 5kg/hectar yn y rhan fwyaf o’r cynllun treialu yn ogystal â rhywfaint ar 7.5kg/hectar i bennu effaith cyfraddau hadau ar y ganran sefydlu.

Bwriadwyd i’r cynllun treialu gychwyn ym mis Mai, ond oherwydd cyfnod oer, sych, fe wnaethom aros nes cael rhagolygon o law a chynnydd yn y tymheredd i sicrhau y byddai tymheredd y pridd yn 12 gradd Celsius er mwyn i’r hadau gael y cyfle gorau i egino. Cwblhawyd y gwaith hau ar 23 Mehefin ac yna gwelwyd 10-15mm o law a chynnydd yn y tymheredd dros y dyddiau nesaf. Amodau fyddai’n cael eu galw yn ddelfrydol wrth hau ac yn ystod y pythefnos wedyn.

Ar ôl hau’r padogau treialu, rhoddwyd gwrtaith ar 60kg o wrea i bob hectar i gyflenwi 27.6kg o nitrogen i bob hectar.

 

Parhaodd y pori ar y padogau treialu yn ôl y dull rheoli arferol; y pori cyntaf yn amrywio o 8 diwrnod ar ôl hau i 26 diwrnod ar ôl hau a bob 23 i 28 diwrnod wedyn. Rhoddwyd gwrtaith ar 80kg o wrea i bob hectar, gan gyflenwi 36.8kg o nitrogen i bob hectar ar ôl iddynt gael eu pori.

Canfyddiadau

Roedd y padogau treialu yn cael eu harchwilio yn gyson ar ôl pob cyfnod o bori. Ar y dechrau, cofnodwyd bod yr hadau wedi egino yn dda ac roedd y cyfrif o bob planhigyn ym mhob metr sgwâr yn uchel, ond fe wnaeth hyn ostwng ar ôl pori y tro cyntaf ar ôl iddynt egino.

Ar 18 Medi, fe wnaethom ganfod bod canran uwch o lyriaid wedi sefydlu ers yr archwiliad cynt ym mis Awst. Roedd y llyriaid wedi sefydlu yn hwyrach na’r ysgellog; roedd y ganran o gynnwys sych mewn llyriaid ac ysgellog yn y gwndwn yn awr ar 10 i 15%. Anfonwyd samplau i’w dadansoddi ar yr adeg hon cyn pori oedd fod i ddechrau'r diwrnod wedyn.

Er mwyn casglu’r ganran o Ll/Y yn y gwndwn, defnyddiwyd dau ddull: yn gyntaf, gwnaed sawl toriad cwadrant gan gofnodi cyfanswm pwysau’r planhigion; yna roedd y LL/Y yn cael eu gwahanu â llaw a’u pwyso i roi’r rhaniad. Yn ail, archwiliwyd yr holl badogau treialu gan bedwar unigolyn a gofnododd y % yr oeddent yn ei hamcangyfrif o Ll/Y yn y padogau mewn ystod o 5% (0 i 5%, 6 i 10%, 11 i 15% ac yn y blaen). Daeth y pedwar unigolyn yn ôl â’r union yr un ganran ar gyfer pob plot.

 

Canlyniadau profion llysiau

Pwyswyd y samplau a gymerwyd ar 18 Medi 2019 a’u rhannu yn fagiau samplau ar wahân ar y fferm i ddadansoddi’r rhygwellt parhaol, ysgellog a’r llyriaid ar wahân.

Ar y cyd â’r canrannau a amcangyfrifwyd ar gyfer pob rhywogaeth yn y diet, fe fyddem wedyn yn gallu casglu beth fyddai yn y diet.

Rhygwellt:

 

Ysgellog:

 

Llyriaid:

 

Er bod rhai amrywiadau yn y lefelau mwynau a chynnwys sych rhwng y rhywogaethau, fe fyddai’n rhyfygus dod i’r casgliad bod y rhain yn nodweddiadol gan fod y rhygwellt wedi hen sefydlu a bod ganddo strwythur gwreiddiau mwy aeddfed. Bydd angen i ni ddadansoddi eto yn 2020 pan fydd strwythur gwreiddiau’r Ll/Y wedi datblygu mwy i gael casgliadau mwy cywir ar lefelau’r mwynau.

 

Casgliadau ac argymhellion

Fe wnaethom ganfod bod dwy prif ffactor sy’n dylanwadu ar sefydlu llyriaid ac ysgellog yn y gwndwn rhygwellt parhaol sy’n bodoli; cystadleuaeth ac effaith pori ar gyfnod bregus wrth i’r planhigion ymsefydlu.

Ni ellir sefydlu’r llysiau yn llwyddiannus heb addasu’r patrwm rheoli confensiynol, gan bod hwnnw’n ffafrio’r gwndwn sy’n bresennol yn barod i gystadlu’n well na’r gymysgedd Ll/Y.

Dylai ymestyn y cynllun hwn ystyried cymharu dim gwrtaith a gwrtaith arferol i brofi’r ddamcaniaeth bod y gwndwn sy’n cystadlu yn cael llai o ffafraeth.

Cafodd effaith carnau yn y cyfnod sefydlu cynnar iawn a’r pwysedd pori yn y cyfnod pori wedyn effaith sylweddol ar y cynnwys Ll/Y.

Dylai estyniad i’r cynllun treialu hwn ystyried rheoli cyfnod cylchdro hwy mewn cymhariaeth â chyfnod cylchdro cyson i fesur effaith pwysedd carnau yn y cyfnod sefydlu cynnar.

Casgliad Cyffredinol

Ni ellir llwyddo i gyflwyno llyriaid/ysgellog i borfa rhygwellt parhaol i gael 20 i 30% o gynnwys Ll/Y yn y gwndwn heb addasu’r patrwm rheoli traddodiadol, pa bynnag ddull hau neu gyfraddau hadau a ddefnyddir.

 

Andre Van Barneveld
Rheolwr Gyfarwyddwr
Graise Ltd


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cynllun gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer Busnesau Garddwriaeth yng Nghymru
Opsiynau amgen ar gyfer deunydd gorwedd i wartheg llaeth: Tail sych wedi’i ailgylchu
Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University. Mawrth 2024 Mae
Cyfleoedd ar gyfer sefydlu gwerth tail a slyri a’u defnydd mewn economi gylchol
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Ebrill 2024