Aled Thomas
Ar hyn o bryd mae Aled Thomas yn astudio at ei Lefel A yn Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo. Mae’n byw gartref gyda’i deulu ar fferm ddefaid sy’n eiddo i’r cyngor yn Llangadog. Mae’n helpu gyda’r holl dasgau ar y fferm ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn gofalu am ei ddiadell ei hun o ddefaid Beltex pedigri. Mae wrth ei fodd hefyd yn arddangos ceffylau i’w dad a bridwyr eraill mewn sioeau lleol a chenedlaethol.
Bu Aled ar nifer o leoliadau profiad gwaith yn amrywio o helpu cwmni offer amaethyddol lleol i gael sgiliau plymio defnyddiol iawn! Ond y swydd y gwnaeth ei mwynhau fwyaf o’r cwbl oedd gweithio i ymgynghoriaeth amaethyddol, ac mae’n gobeithio mai i’r cyfeiriad hwnnw y bydd ei yrfa yn mynd ag ef. Credai Aled bod arloesedd, arallgyfeirio ac effeithlonrwydd yn mynd i fod yn allweddol, felly bydd rôl ymgynghorwyr amaethyddol yn hanfodol os yw busnesau fferm am lwyddo a ffynnu.
“Mae fy nghyfnod gyda’r Academi Amaeth wedi agor drysau newydd ac ehangu fy syniadau o arallgyfeirio.”