26 Mawrth 2020

 

Rhys Davies, Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio

 

Mae’n bwysig bod gan y fuwch awydd am fwyd, felly bydd sicrhau bod y gwartheg wedi bwyta’r holl silwair ddwy awr cyn eu godro yn y bore a’u cadw ar yr iard am gyfnod yn sicrhau bod y fuches gyfan yn barod i bori.  Yn aml yn ystod cyfnodau o dywydd gwlyb yn y gwanwyn, dim ond am ychydig oriau y bydd y fuches yn gallu pori bob dydd, a byddant yn dychwelyd i’r sied dros nos. Felly, yn ystod cyfnod o dywydd ansefydlog, bydd rwmen y fuwch yn newid yn naturiol. Fodd bynnag, yn ystod cyfnodau hirach o dywydd sych neu o ganlyniad i ddim digon o borthiant wedi’i silweirio, gallai fod yn ddeniadol neu’n angenrheidiol i droi gwartheg i’r borfa oddi ar silwair mewn un symudiad. Dylid osgoi gwneud hynny. Bydd cynllunio  gweddill eich stoc silwair ynghyd â rhagweld y tywydd yn ofalus ychydig wythnosau ymlaen llaw yn sicrhau eich bod yn trosi’n raddol rhwng porthiant, gan roi amser i ficrobau’r rwmen i addasu.

Pan fydd gwartheg allan yn pori’n barhaus, mae gwartheg godro mewn perygl o ddatblygu dera’r borfa (staggers), yn enwedig ar laswellt toreithiog sy’n ail dyfu, yn uchel mewn potasiwm a nitrogen ac yn ystod tywydd oer a gwlyb. Mae angen ychwanegu 30g magnesiwm y dydd at ddiet y gwartheg yn ystod y cyfnod peryglus hwn. Gellir gwneud hyn drwy ychwanegu mwynau at eu dwysfwyd neu ychwanegu naddion magnesiwm clorid at eu dŵr yfed.


CYFRIFO ARDALOEDD PORI

Mae cyfrifo’r borfa angenrheidiol ar gyfer buches er mwyn pori i’r uchder gorau posibl ar gyfer ail-dyfiant ac i sicrhau bod gwartheg yn derbyn maeth digonol yn gallu bod yn gyfuniad o geisio, methu ac ymarfer er mwyn sicrhau’r cydbwysedd cywir. Bydd dealltwriaeth a gwybodaeth am rai o’r ffigyrau allweddol o’r dechrau un yn eich helpu i gyfrifo eich dyraniad glaswellt yn y modd mwyaf cywir posibl. Ar ôl troi gwartheg allan i badog eithrio a thrawsnewid o silwair i laswellt dros nifer o ddyddiau, bydd ymddygiad a rwmen y fuwch yn barod i fwyta glaswellt fel rhan helaeth o’i diet.

Mae gwahanol opsiynau pori ar gael sy’n cynnwys dyrannu ardaloedd ffres bob 12, 24 neu 36 awr. Argymhellir y dylid neilltuo ardaloedd pori 12 awr i fuchesi sy’n pori yn yr haf a chadw gwartheg sy’n llaetha dan do yn y gaeaf. Er mwyn sicrhau tawelwch meddwl ac i osgoi aflonyddu gwartheg gyda’r nos, gall ffermwyr ddyrannu ychydig mwy o borfa ar gyfer y cyfnod ar ôl godro gyda’r nos o’i gymharu â’r bore e.e. rhaniad 60/40 o’r ardal ddynodedig i’r nos a’r dydd.

Mae defnydd o’r borfa mewn ardal benodol yn ffactor bwysig wrth gyfrifo dyraniad. Dyma ganran y glaswellt a ddyrannwyd sy’n cyrraedd ystumog y fuwch mewn gwirionedd heb ei wastraffu. Gall buchesi sy’n pori ac yn derbyn ychydig iawn o ychwanegion os o gwbl gyflawni defnydd o >90%, ond bydd mwyafrif y buchesi’n defnyddio 75%-85% o’r borfa sydd ar gael.

Bydd y math o fuwch, ei maint a’i chynhyrchiant yn dynodi beth fydd y cymeriant deunydd sych (DM) ar gyfer bob dydd.

Mae Tabl 1 isod yn rhoi syniad o gyfanswm cymeriant kgDM fesul buwch. Fodd bynnag, ni fydd buwch yn gallu bwyta mwy na thua 18kgDM/dydd yn ymarferol, felly bydd angen i fuchesi sy’n cynnwys gwartheg mawr, cynhyrchiol ddefnyddio ychwanegion a phorthiant byffer a allai arwain at arferion pori gwael yn y pen draw. Mae’n bwysig nodi hefyd fod % deunydd sych y borfa’n newid drwy gydol y tymor pori. Mae GrassCheck GB a Forage for Knowledge AHDB yn adnoddau gwych ar lein er mwyn cadw golwg ar ansawdd glaswellt yn eich ardal chi.

Tabl 1. Cymeriant deunydd sych fesul buwch yn seiliedig ar bwysau byw (kg) a chynhyrchiant (kg o solidau llaeth) fesul buwch bob dydd.

Ffynhonnell: AgriNet

 

Er mwyn ein cynorthwyo i ddeall dyraniad dyddiol, mae’r fuches a’r padog enghreifftiol isod yn dangos y broses o gyfrifo ardaloedd pori.

 

Maint y fuches                                             80 buwch @ 550 kgLW

Cynhyrchiant cyfartalog                             2kgMS/dydd drwy gydol y misoedd pori

Gofynion dyddiol y fuwch                          20.9kg DM/dydd

Dwysfwyd a roddir                                       4kgDM/pen/dydd

Defnydd                                                         85% (a gymerir o’r gwerth yn y tabl)

Gofyniad buwch unigol o’r borfa                16.9kgDM/dydd (20.9kgDM – 4kgDM)

Cyfanswm gofynion y fuches o’r borfa fesul diwrnod  1,352kgDM/dydd

 

Os bydd y fuches yn mynd i mewn i’r padog ar oddeutu 3,000 kgDM/ha ac yn gadael y padog ar uchder o 4cm, bydd pob hectar a gynigir yn gadael porfa weddilliol o 1,500kgDM ar gael.

 

Cyfanswm gofynion y fuches (1,352kgDM/dydd)

                                       ____________________________________________        = 0.90 Ha/dydd

 

Glaswellt sydd ar gael fesul hectar

(gorchudd o 3,000 wrth gyrraedd, tynnu’r gorchudd sy’n weddill wrth adael, sef 1,500 = 1500kgDM)

 

Mae hyn yn golygu bydd y fuches angen ychydig dros hectar y dydd 0.90 ha/dydd ar orchudd glaswellt o 3,000kgDM/ha.

Gellir defnyddio cyfanswm yr ardal sydd ei angen bob dydd ynghyd â map o’r fferm i gyfrifo ardaloedd er mwyn ffensio dyraniad dyddiol neu gynllunio padogau mwy parhaol. Dylid nodi fod angen sicrhau bod gwartheg yn cerdded cyn lleied â phosibl ar draws ardaloedd sydd eisoes wedi cael eu pori. Os bydd hyn yn digwydd dros nifer o ddyddiau mewn caeau mwy, mae’n bosibl y byddant yn cael eu denu i bori’r borfa sy’n aildyfu ac yn peidio â gwneud defnydd digonol o ddyraniad ffres y diwrnod hwnnw. Gall y ddau ffactor leihau cyfanswm twf glaswellt a’r defnydd ohono. Mae apiau GPS ar gael ar ffonau clyfar i helpu gyda’r gwaith o gynllunio dyrannu ardaloedd.

Mae’r map isod yn dangos sut y gellir rhannu cae yn 3 padog gyda’r ardal ddyddiol gywir wedi’i dyrannu ar gyfer y fuches enghreifftiol o 80 buwch; mae hwn yn seiliedig ar y glaswellt ffres sydd ar gael ar ôl godro bob tro. Dylai ffermwyr neilltuo ardal ychydig yn fwy ar gyfer gyda’r nos. Yn yr enghraifft yma 0.54ha (0.9ha x 0.6) ar ôl godro gyda’r nos a 0.36ha (0.9 x 0.4) ar gyfer y bore canlynol.

Ffigwr 1. Enghraifft o gae wedi’i rhannu’n dri phadog dyddiol gyda physt pren a gwifren uchel. Mae pob padog wedi’i rhannu’n ddau gyfnod pori.

 

Os bydd buchesi’n mynd i mewn ar orchudd is e.e. 2,800kgDM, bydd angen i’r dyraniad dyddiol fod yn fwy gan fod llai o fwyd ar gael fesul hectar. Yn yr un modd, os bydd gwartheg yn mynd i mewn ar orchudd uwch e.e. 3,200kgDM, bydd angen ardaloedd llai. Fodd bynnag, mae’r defnydd a wneir o orchudd mwy yn dueddol o fod yn llai na’r defnydd o orchudd is a dylid gofalu nad yw ymddygiad pori’r fuwch yn addas ar gyfer y porfeydd trymach hyn.
 

 

Ffynhonellau gwybodaeth all hefyd fod o ddefnydd yn y maes hwn

Cyrsiau e-ddysgu rhyngweithiol
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/sgiliau-hyfforddiant/e-ddysgu

Erthyglau Technegol gan ein Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/canolfan-cyfnewid-gwybodaeth

Prosiectau Rhwydwaith arddangos
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/ein-ffermydd/prosiectau/erw-fawr

Podlediad Clust I’r Ddaear Cyswllt Ffermio
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/podlediad-clust-ir-ddaear


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cynllun gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer Busnesau Garddwriaeth yng Nghymru
Opsiynau amgen ar gyfer deunydd gorwedd i wartheg llaeth: Tail sych wedi’i ailgylchu
Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University. Mawrth 2024 Mae
Cyfleoedd ar gyfer sefydlu gwerth tail a slyri a’u defnydd mewn economi gylchol
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Ebrill 2024