Diweddariad safle arddangos Erw Fawr - Addasiadau i reolaeth y borfa’n talu ar eu canfed ar fferm Erw Fawr
Trwy fesur y borfa’n ofalus a chynllunio’r ardal bori’n wythnosol, mae Ceredig Evans ar fferm Erw Fawr bellach yn agosáu at yr ail gylchdro pori gyda’i grŵp o 140 o wartheg cyflo sydd ar ganol i ddiwedd eu cyfnod llaetha.
Mae penderfyniadau eisoes wedi cael eu gwneud drwy ddefnyddio meddalwedd rheoli glaswellt AgriNet i ddehongli’r glaswellt sydd ar gael, er mwyn pennu pa gaeau fydd yn cael eu neilltuo ar gyfer silwair, gan sicrhau mai dim ond padogau gyda gorchudd priodol heb fod dros 3,000kgDM/ha sydd ar gael i’r gwartheg.
Mae gwybod pa gaeau i’w pori gyntaf ar ddechrau'r gwanwyn, ynghyd â deall cyfraddau twf adfer a hyd y cylchdro wedi rhoi’r hyder i Ceredig droi rhan o’i fuches o wartheg Holstein sy’n lloia drwy’r flwyddyn allan i’r borfa yn gynt na’r arfer. Mae hyn wedi ei alluogi i bori mwy yn y gwanwyn gan arwain at gynyddu sawl tunnell sy’n cael ei dyfu a’r defnydd a wneir o’r borfa. Trwy ddyrannu ardaloedd pori’n ddyddiol, mae glaswellt bellach yn cael ei gynnig ar y cyfnod 3 deilen optimwm gyda lefelau da o egni metaboladwy a threuliadwyedd er mwyn gadael adlodd da ar ôl a gorffwys y borfa, gan sicrhau bod yr hyn sy’n ail-dyfu o ansawdd da.
Mae cyfuniad o dywydd braf a chylchdro pori cychwynnol o ansawdd da wedi arwain at sicrhau cynhyrchiant o 30litr a 2.3kg o solidau llaeth y dydd ar gyfartaledd yn seiliedig ar fwydo 6 kgDM o ddwysfwyd yn y parlwr yn ystod dwy sesiwn odro, ynghyd â glaswellt 15 kgDM.
Wrth i’r tywydd gynhesu ac i ymddygiad pori’r gwartheg wella, mae Ceredig yn gobeithio lleihau faint o ddwysfwyd mae’n ei fwydo i’r grŵp lleiaf cynhyrchiol. Bydd hyn yn cynyddu faint o laeth a gynhyrchir oddi ar y borfa, ac yn lleihau costau dwysfwyd yn gyffredinol.
Dyddiad mesur |
Cyfradd twf |
Galw |
18/02/20 |
2 |
21.4 |
12/03/20 |
28.5 |
18.4 |
01/04/20 |
27.4 |
49.8 |
14/04/20 |
54.1 |
88 |
Tabl 1. Cyfradd twf a’r galw fesul hectar ar fferm Erw Fawr