28 Mai 2020

 

Dyrannwyd 8 miliwn ar gyfer sefydlu coetir yng Nghymru.

Mae cyllideb o £ 8 miliwn wedi'i dyrannu i'r 9fed rownd o ddatgan ddiddordeb ar gyfer Cynllun plannu Glastir. Agorodd y ffenestr ar 16 Mawrth 2020 a bydd yn cau am hanner nos 31ain Gorffennaf  2020.

I gael arweiniad ar y rownd ddiweddaraf cliciwch yma.

Mae'n bwysig nodi bod y broses ar gyfer cyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb (MoD) Creu Coetir Glastir (CCG) wedi newid yn effeithiol o'r Ffenestr MoD hon. Rhaid i MoD gael ei gyflwyno gan Gynlluniwr Creu Coetir Glastir Cofrestredig (cynlluniwr cofrestredig). I gyflwyno MoD, rhaid i chi gysylltu â chynlluniwr cofrestredig i drafod eich cynigion a bydd y cynlluniwr cofrestredig yn cwblhau ac yn cyflwyno MoD ar eich rhan. Gwrthodir MoD os na chyflwynir gan gynlluniwr cofrestredig. Bydd angen i chi sicrhau bod y cynlluniwr cofrestredig o'ch dewis wedi'i awdurdodi i gyflwyno MoD ar eich rhan trwy RPW ar lein.

Mae'r rhestr o gynllunwyr cofrestredig a gymeradwywyd i gyflwyno MoD ar gael yma.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pam y dylai pob fferm yng Nghymru osod nod i gynyddu carbon organig pridd
30 Mai 2024 Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd
Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru
Mentora yn helpu fferm i newid o gynhyrchu da byw i dyfu grawnwin
28 Mai 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites