1 Mehefin 2020

 

Mae galw cynyddol am brofiadau i’r teulu ar y fferm, a gyda Chalan Gaeaf yn digwydd yn ystod gwyliau hanner tymor, mae tyfu pwmpenni a gwahodd y gymuned leol i’ch fferm i bigo eu pwmpenni eu hunain yn gallu bod yn ffordd dda o fanteisio ar y galw hwn. 

Gall datblygu ardal ar gyfer tyfu pwmpenni hefyd gynnig ffrwd newydd o incwm y gellir ei reoli ochr yn ochr â gweithgareddau arferol y fferm, gan ofyn am ychydig iawn o lafur ychwanegol yn unig dros gyfnod byr. Gall hefyd gynnig cyfle i aelodau o’r teulu ddatblygu menter drostynt eu hunain. 

Er mwyn tyfu pwmpenni ar raddfa cae, mae angen pridd lôm tywodlyd sy’n draenio’n dda gyda pH oddeutu 6.5 a gellir dechrau hau gyda dril o ddiwedd Mai neu unwaith y bydd y perygl o farrug wedi mynd heibio. Gan ddefnyddio dril indrawn, ceisiwch blannu 10,000 o blanhigion fesul hectar, gan blannu un planhigyn fesul metr sgwâr gyda 0.5 metr rhwng bob rhes. Bydd rhywogaeth Big F1 yn cynhyrchu pwmpenni mawr ar gyfer Calan Gaeaf, ond bydd pwmpenni llai hefyd yn boblogaidd gyda phlant iau. 

Dylid rheoli chwyn cyn plannu trwy drin y gwely hadau a lladd chwyn oddeutu 5 diwrnod cyn drilio. Gellir gwasgaru gwrtaith cyn plannu gan ddefnyddio cynnyrch sy’n uchel mewn ffosffad a photash, ond isel mewn nitrogen. Dan amodau tyfu da, bydd y cnwd yn dod i’r wyneb yn sydyn a bydd y planhigion yn tyfu’n gyflym, gan orchuddio arwyneb y pridd ac atal chwyn rhag egino.

Mae cynnydd rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol lleol yn golygu bod modd marchnata eich menter pwmpenni’n rhwydd, a gellir diweddaru amseroedd agor i gyfateb ag argaeledd y cnwd.  Mae angen ystyried sut i reoli llif traffig ac ymwelwyr, ac mae angen diffinio cynlluniau wrth gefn ar gyfer tywydd gwael ymlaen llaw. Gallai sied neu babell fechan fod yn ddefnyddiol fel man ymgynnull.

Byddai unrhyw ddarpariaeth ychwanegol o ran cefndir ar gyfer lluniau, te a chacen, ardal ar gyfer cerfio pwmpenni ayb yn ddefnyddiol a byddai modd eu datblygu yn ôl yr adnoddau llafur sydd ar gael

Sefydlodd Jamie McCoy fenter ‘The Pumpkin Pantry’ yn 2019 ger Castell Newydd Emlyn, Ceredigion, yn tyfu pwmpenni am y tro cyntaf, ac fe blannodd hectar o bwmpenni â llaw gyda help teulu a ffrindiau. Roedd gennym ni ardal dynnu lluniau mewn pabell, yn ogystal â man i werthu cacenni a chawl pwmpen.  

“Roedd yn ffordd dda o gyfarfod a chysylltu gyda’r gymuned leol ac mae pobl yn dal i ddweud faint wnaethon nhw fwynhau’r profiad. Mae’r gofynion llafur yn yr hydref yn gweddu’n dda gyda’n trefn arferol ar y fferm heb ymyrryd â bywyd ffermio am gyfnod hir,” meddai Jamie.

“Mae’n bosibl ein bod wedi plannu ardal rhy fawr ar gyfer ein cynnig cyntaf, ond ar ôl Calan Gaeaf, fe wnaethom ni droi’r defaid i bori’r pwmpenni, felly nid oedd dim byd yn cael ei wastraffu. Fe wnaethom ni ddechrau hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol yr ardal leol, ond yn fuan iawn, roedd pobl yn clywed am y fenter gan ei gilydd. Fe wnaethom ni fwynhau’r profiad yn fawr a byddwn yn bendant yn gwneud yr un peth eto eleni,” meddai Jamie.

Os hoffech chi gefnogaeth gyda’ch menter tyfu pwmpenni, mae nifer o ffermwyr sydd wedi tyfu a gweithredu ardal dyfu pwmpenni ac maent ar gael i gynnig cyngor am ddim drwy Raglen Fentora Cyswllt Ffermio. Cliciwch yma am fanylion pellach.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu