16 Chwefror 2026

Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn cymhelliant o ganolbarth Cymru, a dderbyniodd gydnabyddiaeth ym mis Ionawr fel enillydd teilwng Gwobr Goffa Brynle Williams 2025.

Magwyd Ynyr mewn cymuned amaethyddol glos, a chafodd ei frwdfrydedd dros amaethyddiaeth ei sbarduno fel plentyn wrth weithio gyda’i daid a chymryd rhan yng Nghlwb y Ffermwyr Ifanc. Wedi iddo gael ei ysbrydoli gan ei wreiddiau, aeth ymlaen i astudio ymhellach yng Ngholeg Glynllifon a Phrifysgol Aberystwyth.
“Mae rhan fawr o’m diddordeb yn deillio o’m plentyndod ar y fferm, ac mae gen i atgofion melys iawn o hynny,” meddai Ynyr Pugh.
Parhaodd Ynyr i fagu profiad oddi cartref wrth iddo fireinio ei grefft trwy gneifio am chwe thymor yn Seland Newydd cyn dychwelyd i Gymru i sefydlu ei fusnes cneifio a chontractio amaethyddol ei hun. Mae ei daith o fod yn unigolyn ifanc brwdfrydig i berchennog busnes sefydledig yn ei wneud yn enillydd gwirioneddol deilwng o’i wobr ddiweddar.

"Er bod gan fy rhieni rywfaint o dir, roedd yn rhaid i mi edrych y tu hwnt i’r busnes teuluol i ganfod cyfle i ffermio’n llawn amser. Gan nad oedd prynu fferm o’r cychwyn cyntaf yn ymarferol, roeddwn i’n gwybod bod angen i mi gadw meddwl agored ac ystyried gwahanol lwybrau i gyrraedd fy nod. Dyna pryd y cysylltais â Cyswllt Ffermio i’m helpu i wireddu fy nod,” meddai Ynyr.

Trwy ei agwedd benderfynol a chymorth gwasanaeth Dechrau Ffermio Cyswllt Ffermio, mae Ynyr bellach yn bartner busnes ar fferm 600 erw yn Nyffryn Dyfi.
Ffurfiodd Ynyr bartneriaeth gyda’r teulu Ryder, a oedd yn dymuno cadw cysylltiad â’u tir, ond nid oedd ganddynt aelodau o’r teulu i redeg y fferm o ddydd i ddydd. Maen nhw bellach wedi ymddiried yn Ynyr i gymryd yr awenau. Ers ymuno â’r busnes, mae wedi cyflwyno newidiadau allweddol er mwyn gwneud y fferm yn fwy cynhyrchiol a diogel ar gyfer y dyfodol. Mae Ynyr yn ystyried ei hun yn ffodus o gael y bartneriaeth gref a’r berthynas waith sydd wedi datblygu ers iddynt gael eu cysylltu drwy’r rhaglen.

“Buaswn i’n argymell unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffermio ond sydd heb yr adnoddau eu hunain i gofrestru eu diddordeb gyda Cyswllt Ffermio. Cadwch lygad ar y cyfleoedd sydd ar gael; ni fyddwch yn difaru trafod yr hyn sydd ar gael.”
Mae Ynyr yn blaenoriaethu cadw golwg ar ddatblygiadau technoleg er mwyn symud ei fusnes yn ei flaen. Er ei fod yn defnyddio gwahanol offer megis darllenydd manylion adnabod electronig (EID) a mesurydd plât, mae’n ystyried mai ei liniadur yw ei ddarn o offer mwyaf hanfodol.

"Pe byddai’n rhaid i mi ddewis un, y gliniadur fyddai hwnnw.” eglurodd Ynyr. “Mae’n ddarn o dechnoleg sydd wedi fy ngalluogi i wneud gwaith meincnodi a chadw golwg ar berfformiad gwirioneddol y busnes.”

Ar ôl cwblhau Cynllun Busnes gyda Cyswllt Ffermio, mae Ynyr yn gobeithio cynyddu niferoedd ei stoc trwy wella ei reolaeth ar laswellt, ac i gynyddu elw’r fferm drwy leihau dibyniaeth ar allbynnau allanol. Mae’n canolbwyntio ar wneud i’r tir weithio’n galetach ac yn fwy effeithlon. Fel aelod o Brosiect Porfa Cymru, mae Ynyr yn rhoi damcaniaethau ar waith trwy osod ffensys a thanciau dŵr newydd i gefnogi system bori cylchdro ar gyfer gwartheg a defaid.

"Fy ngobaith at y dyfodol yw creu busnes sy’n gynaliadwy o safbwynt y mewnbynnau ar y fferm. Rydw i eisiau ffermio law yn llaw â natur, gan drawsnewid bloc 150 erw i system adfywiol sy’n cefnogi iechyd a lles anifeiliaid.”
I Ynyr, mae ‘llwyddiant’ yn golygu bod y busnes yn perfformio i’w botensial llawn, ac mae hynny’n digwydd pan fyddwch yn canfod “cydbwysedd rhwng niferoedd stoc, costau mewnbynnau a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith”.

Mae Ynyr wedi defnyddio nifer o wasanaethau Cyswllt Ffermio dros y blynyddoedd, ac mae wedi elwa’n fawr drwy wneud hynny. Mae wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o grwpiau trafod, gan ddatblygu gwybodaeth a herio’r sefyllfa bresennol er mwyn sicrhau bod y busnes yn parhau i fod yn flaengar. Mae ei gyfnod fel aelod o’r Academi Amaeth yn 2025 wedi rhoi cyfle iddo drafod syniadau busnes gyda rhwydwaith o unigolion o’r un anian.

Mae’’r Gwasanaeth Cynghori wedi cefnogi Cynllun Busnes y bartneriaeth, ac mae’r rhaglen Fentora wedi cynnig cyfle gwerthfawr iddo ymgynghori gydag arbenigwr mewn ffermio cyfran i ganfod y strategaethau gorau a fyddai fwyaf addas ar ei gyfer. Mae Ynyr hefyd wedi cael golwg fanylach drwy ddigwyddiadau Ein Ffermydd, lle mae wedi dysgu mwy am waith ymchwil a chyflwyniadau lleol yn uniongyrchol y gallai eu cyflwyno i’w fusnes ei hun. Yn ogystal, llwyddodd Cymhorthfa gyda Matt Blyth a oedd yn canolbwyntio ar dechnoleg i’w gynorthwyo i sicrhau bod systemau ei fferm yn gweithredu’n effeithlon ac yn cyfathrebu gyda’i gilydd. Mae Ynyr wedi cwblhau cwrs Dyfarniad Lefel 2 mewn Rheoli Cnofilod yn ddiweddar, ac mae’n bwriadu parhau gyda’i ddatblygiad proffesiynol trwy gwblhau mwy o gyrsiau Cyswllt Ffermio.

Pan ofynnwyd pa gyngor y byddai’n ei roi i rywun sydd mewn sefyllfa debyg, pwysleisiodd Ynyr ar bwysigrwydd rhwydweithio a datblygiad proffesiynol. “Manteisiwch ar bob cyfle i gwrdd â phobl newydd a pheidiwch byth â rhoi’r gorau i ddysgu. Ewch y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus!”

Roedd Ynyr yn ddiolchgar iawn am ei enwebiad ar gyfer Gwobr Goffa Brynle Williams 2025, ac roedd y gydnabyddiaeth yn dipyn o syndod iddo. Mae’r enwebiad yn amlygu gwaith caled ac ymroddiad Ynyr wrth adeiladu ei bartneriaeth ffermio cyfran. Wrth iddo barhau i roi ei gynllun busnes strategol a’i arferion ffermio adfywiol ar waith, mae ei siwrnai’n parhau i fod yn enghraifft o’r ffordd y mae’r genhedlaeth nesaf yn siapio dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru.
Am ragor o fanylion ynglŷn â ‘Dechrau Ffermio’ a chyfleoedd eraill, ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol.  
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn
Sut mae bwydo silwair meillion yn lleihau costau yn y cyfnod cyn ŵyna
22 Ionawr 2025 Mae silwair meillion coch a gwyn o ansawdd uchel